1 Gwrandewch, blant, ar gyfarwyddyd tad, ac ystyriwch i chwi ddysgu deall.
2 Oherwydd yr wyf yn rhoi i chwi hyfforddiant da; peidiwch � gwrthod fy nysgeidiaeth.
3 B�m innau hefyd yn fab i'm tad, yn annwyl, ac yn unig blentyn fy mam.
4 Dysgodd yntau fi, a dweud wrthyf, "Gosod dy feddwl ar fy ngeiriau; cadw fy ngorchmynion iti gael byw.
5 Paid ag anghofio na chilio oddi wrth fy ngeiriau. Cais ddoethineb, cais ddeall;
6 paid �'i gadael, a bydd hithau'n dy gadw; c�r hi, a bydd yn d'amddiffyn.
7 Doethineb yw'r pennaf peth; cais ddoethineb; �'r cyfan sydd gennyt, cais ddeall.
8 Meddwl yn uchel ohoni, ac fe'th ddyrchefir ganddi; fe'th anrhydedda, os cofleidi hi.
9 Gesyd dorch brydferth ar dy ben, a rhoi coron anrhydedd iti."
10 Fy mab, gwrando, a dal ar fy ngeiriau, ac fe ychwanegir blynyddoedd at dy fywyd.
11 Hyfforddais di yn ffordd doethineb; dysgais iti gerdded llwybrau union.
12 Pan gerddi, ni rwystrir dy gam, a phan redi, ni fyddi'n baglu.
13 Glu375?n wrth addysg, a hynny'n ddi-ollwng; dal d'afael ynddi, oherwydd hi yw dy fywyd.
14 Paid � dilyn llwybr y drygionus, na cherdded ffordd pobl ddrwg;
15 gochel hi, paid �'i throedio, tro oddi wrthi a dos yn dy flaen.
16 Oherwydd ni allant hwy gysgu os na fyddant wedi gwneud drwg; collant gwsg os na fyddant wedi baglu rhywun.
17 Y maent yn bwyta bara a gafwyd trwy dwyll, ac yn yfed gwin gormes.
18 Y mae llwybr y cyfiawn fel golau'r wawr, sy'n cynyddu yn ei lewyrch hyd ganol dydd.
19 Ond y mae ffordd y drygionus fel tywyllwch dudew; ni wyddant beth sy'n eu baglu.
20 Fy mab, rho sylw i'm geiriau, a gwrando ar fy ymadrodd.
21 Paid �'u gollwng o'th olwg; cadw hwy yn dy feddwl;
22 oherwydd y maent yn fywyd i'r un sy'n eu cael, ac yn iechyd i'w holl gorff.
23 Yn fwy na dim, edrych ar �l dy feddwl, oherwydd oddi yno y tardd bywyd.
24 Gofala osgoi geiriau twyllodrus, a chadw draw oddi wrth siarad dichellgar.
25 Cadw dy lygaid yn unionsyth, ac edrych yn syth o'th flaen.
26 Rho sylw i lwybr dy droed, i'th holl ffyrdd fod yn ddiogel.
27 Paid � throi i'r dde nac i'r chwith, a chadw dy droed rhag y drwg.