1 Fy mab, rho sylw i'm doethineb, a gwrando ar fy neall,
2 er mwyn iti ddal ar synnwyr ac i'th wefusau ddiogelu deall.
3 Y mae gwefusau'r wraig ddieithr yn diferu m�l, a'i geiriau yn llyfnach nag olew,
4 ond yn y diwedd y mae'n chwerwach na wermod, yn llymach na chleddyf daufiniog.
5 Prysura ei thraed at farwolaeth, ac arwain ei chamre i Sheol.
6 Nid yw hi'n ystyried llwybr bywyd; y mae ei ffyrdd yn anwadal, a hithau'n ddi-hid.
7 Ond yn awr, blant, gwrandewch arnaf, a pheidiwch � throi oddi wrth fy ymadroddion.
8 Cadw draw oddi wrth ei ffordd; paid � mynd yn agos at ddrws ei thu375?;
9 rhag iti roi dy enw da i eraill a'th urddas i estroniaid,
10 a rhag i ddieithriaid ymborthi ar dy gyfoeth ac i'th lafur fynd i du375? estron;
11 rhag iti gael gofid pan ddaw dy ddiwedd, pan fydd dy gorff a'th gnawd yn darfod,
12 a dweud, "Pam y bu imi gas�u disgyblaeth, ac anwybyddu cerydd?
13 Nid oeddwn yn gwrando ar lais fy athrawon, nac yn rhoi sylw i'r rhai a'm dysgai.
14 Yr oeddwn ar fin bod yn gwbl ddrwg yng ngolwg y gynulleidfa gyfan."
15 Yf ddu373?r o'th bydew dy hun, du373?r sy'n tarddu o'th ffynnon di.
16 Paid � gadael i'th ffynhonnau orlifo i'r ffordd, na'th ffrydiau du373?r i'r stryd.
17 Byddant i ti dy hun yn unig, ac nid i'r dieithriaid o'th gwmpas.
18 Bydded bendith ar dy ffynnon, a llawenha yng ngwraig dy ieuenctid,
19 ewig hoffus, iyrches ddymunol; bydded i'w bronnau dy foddhau bob amser, a chymer bleser o'i chariad yn gyson.
20 Fy mab, pam y ceisi bleser gyda gwraig ddieithr, a chofleidio estrones?
21 Oherwydd y mae'r ARGLWYDD yn gwylio ffyrdd pob un, ac yn chwilio ei holl lwybrau.
22 Delir y drygionus gan ei gamwedd ei hun, ac fe'i caethiwir yng nghadwynau ei bechod;
23 bydd farw o ddiffyg disgyblaeth, ar goll oherwydd ei ffolineb mawr.