1 Diolchwch i'r ARGLWYDD. Galwch ar ei enw, gwnewch yn hysbys ei weithredoedd ymysg y bobloedd.
2 Canwch iddo, moliannwch ef, dywedwch am ei holl ryfeddodau.
3 Gorfoleddwch yn ei enw sanctaidd; llawenhaed calon y rhai sy'n ceisio'r ARGLWYDD.
4 Ceisiwch yr ARGLWYDD a'i nerth, ceisiwch ei wyneb bob amser.
5 Cofiwch y rhyfeddodau a wnaeth, ei wyrthiau a'r barnedigaethau a gyhoeddodd,
6 chwi ddisgynyddion Abraham, ei was, disgynyddion Jacob, ei etholedig.
7 Ef yw'r ARGLWYDD ein Duw, ac y mae ei farnedigaethau dros yr holl ddaear.
8 Y mae'n cofio ei gyfamod dros byth, gair ei orchymyn hyd fil o genedlaethau,
9 sef y cyfamod a wnaeth ag Abraham, a'i lw i Isaac �
10 yr hyn a osododd yn ddeddf i Jacob, ac yn gyfamod tragwyddol i Israel,
11 a dweud, "I chwi y rhoddaf wlad Canaan yn gyfran eich etifeddiaeth."
12 Pan oeddent yn fychan o rif, yn ychydig, ac yn grwydriaid yn y wlad,
13 yn crwydro o genedl i genedl, ac o un deyrnas at bobl eraill,
14 ni adawodd i neb eu darostwng, ond ceryddodd frenhinoedd o'u hachos,
15 a dweud, "Peidiwch � chyffwrdd �'m heneiniog, na gwneud niwed i'm proffwydi."
16 Pan alwodd am newyn dros y wlad, a thorri ymaith eu cynhaliaeth o fara,
17 yr oedd wedi anfon gu373?r o'u blaenau, Joseff, a werthwyd yn gaethwas.
18 Doluriwyd ei draed yn y cyffion, a rhoesant haearn am ei wddf,
19 nes i'r hyn a ddywedodd ef ddod yn wir, ac i air yr ARGLWYDD ei brofi'n gywir.
20 Anfonodd y brenin i'w ryddhau � brenin y cenhedloedd yn ei wneud yn rhydd;
21 gwnaeth ef yn feistr ar ei du375?, ac yn llywodraethwr ar ei holl eiddo,
22 i hyfforddi ei dywysogion yn �l ei ddymuniad, ac i ddysgu doethineb i'w henuriaid.
23 Yna daeth Israel hefyd i'r Aifft, a Jacob i grwydro yn nhir Ham.
24 A gwnaeth yr Arglwydd ei bobl yn ffrwythlon iawn, ac aethant yn gryfach na'u gelynion.
25 Trodd yntau eu calon i gas�u ei bobl, ac i ymddwyn yn ddichellgar at ei weision.
26 Yna anfonodd ei was Moses, ac Aaron, yr un yr oedd wedi ei ddewis,
27 a thrwy eu geiriau hwy gwnaeth arwyddion a gwyrthiau yn nhir Ham.
28 Anfonodd dywyllwch, ac aeth yn dywyll, eto yr oeddent yn gwrthryfela yn erbyn ei eiriau.
29 Trodd eu dyfroedd yn waed, a lladdodd eu pysgod.
30 Llanwyd eu tir � llyffaint, hyd yn oed ystafelloedd eu brenhinoedd.
31 Pan lefarodd ef, daeth haid o bryfed a llau trwy'r holl wlad.
32 Rhoes iddynt genllysg yn lle glaw, a mellt yn fflachio trwy eu gwlad.
33 Trawodd y gwinwydd a'r ffigyswydd, a malurio'r coed trwy'r wlad.
34 Pan lefarodd ef, daeth locustiaid a lindys heb rifedi,
35 nes iddynt fwyta'r holl laswellt trwy'r wlad, a difa holl gynnyrch y ddaear.
36 A thrawodd bob cyntafanedig yn y wlad, blaenffrwyth eu holl nerth.
37 Yna dygodd hwy allan gydag arian ac aur, ac nid oedd un yn baglu ymysg y llwythau.
38 Llawenhaodd yr Eifftiaid pan aethant allan, oherwydd bod arnynt eu hofn hwy.
39 Lledaenodd gwmwl i'w gorchuddio, a th�n i oleuo iddynt yn y nos.
40 Pan fu iddynt ofyn, anfonodd soflieir iddynt, a digonodd hwy � bara'r nefoedd.
41 Holltodd graig nes bod du373?r yn pistyllio, ac yn llifo fel afon trwy'r diffeithwch.
42 Oherwydd yr oedd yn cofio ei addewid sanctaidd i Abraham ei was.
43 Dygodd ei bobl allan mewn llawenydd, ei rai etholedig mewn gorfoledd.
44 Rhoes iddynt diroedd y cenhedloedd, a chymerasant feddiant o ffrwyth llafur pobloedd,
45 er mwyn iddynt gadw ei ddeddfau, ac ufuddhau i'w gyfreithiau. Molwch yr ARGLWYDD.