Welsh

Breton: Gospels

Psalms

106

1 Molwch yr ARGLWYDD. Diolchwch i'r ARGLWYDD, oherwydd da yw, ac y mae ei gariad hyd byth.
2 Pwy all draethu gweithredoedd nerthol yr ARGLWYDD, neu gyhoeddi ei holl foliant?
3 Gwyn eu byd y rhai sy'n cadw barn, ac yn gwneud cyfiawnder bob amser.
4 Cofia fi, ARGLWYDD, pan wnei ffafr �'th bobl; ymw�l � mi, pan fyddi'n gwaredu,
5 imi gael gweld llwyddiant y rhai a ddewisi, a llawenhau yn llawenydd dy genedl, a gorfoleddu gyda'th etifeddiaeth di.
6 Yr ydym ni, fel ein hynafiaid, wedi pechu; yr ydym wedi troseddu a gwneud drygioni.
7 Pan oedd ein hynafiaid yn yr Aifft ni wnaethant sylw o'th ryfeddodau, na chofio maint dy ffyddlondeb, ond gwrthryfela yn erbyn y Goruchaf ger y M�r Coch.
8 Ond gwaredodd ef hwy er mwyn ei enw, er mwyn dangos ei rym.
9 Ceryddodd y M�r Coch ac fe sychodd, ac arweiniodd hwy trwy'r dyfnder fel pe trwy'r anialwch.
10 Gwaredodd hwy o law'r rhai oedd yn eu cas�u, a'u harbed o law'r gelyn.
11 Caeodd y dyfroedd am eu gwrthwynebwyr, ac nid arbedwyd yr un ohonynt.
12 Yna credasant ei eiriau, a chanu mawl iddo.
13 Ond yn fuan yr oeddent wedi anghofio ei weithredoedd, ac nid oeddent yn aros am ei gyngor.
14 Daeth eu blys drostynt yn yr anialwch, ac yr oeddent yn profi Duw yn y diffeithwch.
15 Rhoes yntau iddynt yr hyn yr oeddent yn ei ofyn, ond anfonodd nychdod i'w mysg.
16 Yr oeddent yn cenfigennu yn y gwersyll wrth Moses, a hefyd wrth Aaron, un sanctaidd yr ARGLWYDD.
17 Yna agorodd y ddaear a llyncu Dathan, a gorchuddio cwmni Abiram.
18 Torrodd t�n allan ymhlith y cwmni, a llosgwyd y drygionus yn y fflamau.
19 Gwnaethant lo yn Horeb, ac ymgrymu i'r ddelw,
20 gan newid yr un oedd yn ogoniant iddynt am ddelw o ych yn pori gwellt.
21 Yr oeddent wedi anghofio Duw, eu Gwaredydd, a oedd wedi gwneud pethau mawrion yn yr Aifft,
22 pethau rhyfeddol yng ngwlad Ham, a phethau ofnadwy ger y M�r Coch.
23 Felly dywedodd ef y byddai'n eu dinistrio, oni bai i Moses, yr un a ddewisodd, sefyll yn y bwlch o'i flaen, i droi'n �l ei ddigofaint rhag eu dinistrio.
24 Yna bu iddynt ddilorni'r wlad hyfryd, ac nid oeddent yn credu ei air;
25 yr oeddent yn grwgnach yn eu pebyll, a heb wrando ar lais yr ARGLWYDD.
26 Cododd yntau ei law a thyngu y byddai'n peri iddynt syrthio yn yr anialwch,
27 ac yn gwasgaru eu disgynyddion i blith y cenhedloedd, a'u chwalu trwy'r gwledydd.
28 Yna aethant i gyfathrach � Baal-peor, a bwyta ebyrth y meirw;
29 yr oeddent wedi cythruddo'r ARGLWYDD �'u gweithredoedd, a thorrodd pla allan yn eu mysg.
30 Ond cododd Phinees a'u barnu, ac ataliwyd y pla.
31 A chyfrifwyd hyn yn gyfiawnder iddo dros y cenedlaethau am byth.
32 Bu iddynt gythruddo'r Arglwydd hefyd wrth ddyfroedd Meriba, a bu'n ddrwg ar Moses o'u plegid,
33 oherwydd gwnaethant ei ysbryd yn chwerw, ac fe lefarodd yntau yn fyrbwyll.
34 Ni fu iddynt ddinistrio'r bobloedd y dywedodd yr ARGLWYDD amdanynt,
35 ond cymysgu gyda'r cenhedloedd, a dysgu gwneud fel hwythau.
36 Yr oeddent yn addoli eu delwau, a bu hynny'n fagl iddynt.
37 Yr oeddent yn aberthu eu meibion a'u merched i'r demoniaid.
38 Yr oeddent yn tywallt gwaed dieuog, gwaed eu meibion a'u merched yr oeddent yn eu haberthu i ddelwau Canaan; a halogwyd y ddaear �'u gwaed.
39 Felly aethant yn aflan trwy'r hyn a wnaent, ac yn buteiniaid trwy eu gweithredoedd.
40 Yna cythruddodd dicter yr ARGLWYDD yn erbyn ei bobl, a ffieiddiodd ei etifeddiaeth;
41 rhoddodd hwy yn llaw'r cenhedloedd, a llywodraethwyd hwy gan y rhai oedd yn eu cas�u;
42 fe'u gorthrymwyd gan eu gelynion, a'u darostwng dan eu hawdurdod.
43 Lawer gwaith y gwaredodd hwy, ond yr oeddent hwy yn wrthryfelgar eu bwriad, ac yn cael eu darostwng oherwydd eu drygioni.
44 Er hynny, cymerodd sylw o'u cyfyngder pan glywodd eu cri am gymorth;
45 cofiodd ei gyfamod � hwy, ac edifarhau oherwydd ei gariad mawr;
46 parodd iddynt gael trugaredd gan bawb oedd yn eu caethiwo.
47 Gwareda ni, O ARGLWYDD ein Duw, a chynnull ni o blith y cenhedloedd, inni gael rhoi diolch i'th enw sanctaidd, ac ymhyfrydu yn dy fawl.
48 Bendigedig fyddo'r ARGLWYDD, Duw Israel, o dragwyddoldeb hyd dragwyddoldeb; dyweded yr holl bobl, "Amen." Molwch yr ARGLWYDD.