Welsh

Breton: Gospels

Psalms

119

1 Gwyn eu byd y rhai perffaith eu ffordd, y rhai sy'n rhodio yng nghyfraith yr ARGLWYDD.
2 Gwyn eu byd y rhai sy'n cadw ei farnedigaethau, ac yn ei geisio ef �'u holl galon,
3 y rhai nad ydynt wedi gwneud unrhyw ddrwg, ond sy'n rhodio yn ei ffyrdd ef.
4 Yr wyt ti wedi gwneud dy ofynion yn ddeddfau i'w cadw'n ddyfal.
5 O na allwn gerdded yn unionsyth a chadw dy ddeddfau!
6 Yna ni'm cywilyddir os cadwaf fy llygaid ar dy holl orchmynion.
7 Fe'th glodforaf di � chalon gywir wrth imi ddysgu am dy farnau cyfiawn.
8 Fe gadwaf dy ddeddfau; paid �'m gadael yn llwyr.
9 Sut y ceidw'r ifanc ei lwybr yn l�n? Trwy gadw dy air di.
10 Fe'th geisiais di �'m holl galon; paid � gadael imi wyro oddi wrth dy orchmynion.
11 Trysorais dy eiriau yn fy nghalon rhag imi bechu yn dy erbyn.
12 Bendigedig wyt ti, O ARGLWYDD; dysg i mi dy ddeddfau.
13 B�m yn ailadrodd �'m gwefusau holl farnau dy enau.
14 Ar hyd ffordd dy farnedigaethau cefais lawenydd sydd uwchlaw pob cyfoeth.
15 Byddaf yn myfyrio ar dy ofynion di, ac yn cadw dy lwybrau o flaen fy llygaid.
16 Byddaf yn ymhyfrydu yn dy ddeddfau, ac nid anghofiaf dy air.
17 Bydd dda wrth dy was; gad imi fyw, ac fe gadwaf dy air.
18 Agor fy llygaid imi weld rhyfeddodau dy gyfraith.
19 Ymdeithydd wyf fi ar y ddaear; paid � chuddio dy orchmynion oddi wrthyf.
20 Y mae fy nghalon yn dihoeni o hiraeth am dy farnau di bob amser.
21 Fe geryddaist y trahaus, y rhai melltigedig sy'n gwyro oddi wrth dy orchmynion.
22 Tyn ymaith oddi wrthyf eu gwaradwydd a'u sarhad, oherwydd b�m ufudd i'th farnedigaethau.
23 Er i dywysogion eistedd mewn cynllwyn yn f'erbyn, bydd dy was yn myfyrio ar dy ddeddfau;
24 y mae dy farnedigaethau'n hyfrydwch i mi, a hefyd yn gynghorwyr imi.
25 Y mae fy enaid yn glynu wrth y llwch; adfywia fi yn �l dy air.
26 Adroddais am fy hynt ac atebaist fi; dysg i mi dy ddeddfau.
27 Gwna imi ddeall ffordd dy ofynion, ac fe fyfyriaf ar dy ryfeddodau.
28 Y mae fy enaid yn anniddig gan ofid, cryfha fi yn �l dy air.
29 Gosod ffordd twyll ymhell oddi wrthyf, a rho imi ras dy gyfraith.
30 Dewisais ffordd ffyddlondeb, a gosod dy farnau o'm blaen.
31 Glynais wrth dy farnedigaethau. O ARGLWYDD, paid �'m cywilyddio.
32 Dilynaf ffordd dy orchmynion, oherwydd ehangaist fy neall.
33 O ARGLWYDD, dysg fi yn ffordd dy ddeddfau, ac o'i chadw fe gaf wobr.
34 Rho imi ddeall, er mwyn imi ufuddhau i'th gyfraith a'i chadw �'m holl galon;
35 gwna imi gerdded yn llwybr dy orchmynion, oherwydd yr wyf yn ymhyfrydu ynddo.
36 Tro fy nghalon at dy farnedigaethau yn hytrach nag at elw;
37 tro ymaith fy llygaid rhag gweld gwagedd; adfywia fi �'th air.
38 Cyflawna i'th was yr addewid a roddaist i'r rhai sy'n dy ofni.
39 Tro ymaith y gwaradwydd yr wyf yn ei ofni, oherwydd y mae dy farnau'n dda.
40 Yr wyf yn dyheu am dy ofynion; adfywia fi �'th gyfiawnder.
41 P�r i'th gariad ddod ataf, O ARGLWYDD, a'th iachawdwriaeth yn �l dy addewid;
42 yna rhoddaf ateb i'r rhai sy'n fy ngwatwar, oherwydd ymddiriedais yn dy air.
43 Paid � chymryd gair y gwirionedd o'm genau, oherwydd fe obeithiais yn dy farnau.
44 Cadwaf dy gyfraith bob amser, hyd byth bythoedd.
45 Rhodiaf oddi amgylch yn rhydd, oherwydd ceisiais dy ofynion.
46 Siaradaf am dy farnedigaethau gerbron brenhinoedd, ac ni fydd arnaf gywilydd;
47 ymhyfrydaf yn dy orchmynion am fy mod yn eu caru.
48 Parchaf dy orchmynion am fy mod yn eu caru, a myfyriaf ar dy ddeddfau.
49 Cofia dy air i'th was, y gair y gwnaethost imi ymddiried ynddo.
50 Hyn fu fy nghysur mewn adfyd, fod dy addewid di yn fy adfywio.
51 Y mae'r trahaus yn fy ngwawdio o hyd, ond ni throis oddi wrth dy gyfraith.
52 Yr wyf yn cofio dy farnau erioed, ac yn cael cysur ynddynt, O ARGLWYDD.
53 Cydia digofaint ynof oherwydd y rhai drygionus sy'n gwrthod dy gyfraith.
54 Daeth dy ddeddfau'n g�n i mi ymhle bynnag y b�m yn byw.
55 Yr wyf yn cofio dy enw yn y nos, O ARGLWYDD, ac fe gadwaf dy gyfraith.
56 Hyn sydd wir amdanaf, imi ufuddhau i'th ofynion.
57 Ti yw fy rhan, O ARGLWYDD; addewais gadw dy air.
58 Yr wyf yn erfyn arnat �'m holl galon, bydd drugarog wrthyf yn �l dy addewid.
59 Pan feddyliaf am fy ffyrdd, trof fy nghamre'n �l at dy farnedigaethau;
60 brysiaf, heb oedi, i gadw dy orchmynion.
61 Er i glymau'r drygionus dynhau amdanaf, eto nid anghofiais dy gyfraith.
62 Codaf ganol nos i'th foliannu di am dy farnau cyfiawn.
63 Yr wyf yn gymar i bawb sy'n dy ofni, i'r rhai sy'n ufuddhau i'th ofynion.
64 Y mae'r ddaear, O ARGLWYDD, yn llawn o'th ffyddlondeb; dysg i mi dy ddeddfau.
65 Gwnaethost ddaioni i'th was, yn unol �'th air, O ARGLWYDD.
66 Dysg imi ddirnadaeth a gwybodaeth, oherwydd yr wyf yn ymddiried yn dy orchmynion.
67 Cyn imi gael fy ngheryddu euthum ar gyfeiliorn, ond yn awr yr wyf yn cadw dy air.
68 Yr wyt ti yn dda, ac yn gwneud daioni; dysg i mi dy ddeddfau.
69 Y mae'r trahaus yn fy mhardduo � chelwydd, ond yr wyf fi'n ufuddhau i'th ofynion �'m holl galon;
70 y mae eu calon hwy'n drwm gan fraster, ond yr wyf fi'n ymhyfrydu yn dy gyfraith.
71 Mor dda yw imi gael fy ngheryddu, er mwyn imi gael dysgu dy ddeddfau!
72 Y mae cyfraith dy enau yn well i mi na miloedd o aur ac arian.
73 Dy ddwylo di a'm gwnaeth ac a'm lluniodd; rho imi ddeall i ddysgu dy orchmynion.
74 Pan fydd y rhai sy'n dy ofni yn fy ngweld, fe lawenychant am fy mod yn gobeithio yn dy air.
75 Gwn, O ARGLWYDD, fod dy farnau'n gyfiawn, ac mai mewn ffyddlondeb yr wyt wedi fy ngheryddu.
76 Bydded dy gariad yn gysur i mi, yn unol �'th addewid i'th was.
77 P�r i'th drugaredd ddod ataf, fel y byddaf fyw, oherwydd y mae dy gyfraith yn hyfrydwch i mi.
78 Cywilyddier y trahaus oherwydd i'w celwydd fy niweidio, ond byddaf fi'n myfyrio ar dy ofynion.
79 Bydded i'r rhai sy'n dy ofni droi ataf fi, iddynt gael gwybod dy farnedigaethau.
80 Bydded fy nghalon bob amser yn dy ddeddfau, rhag imi gael fy nghywilyddio.
81 Y mae fy enaid yn dyheu am dy iachawdwriaeth, ac yn gobeithio yn dy air;
82 y mae fy llygaid yn pylu wrth ddisgwyl am dy addewid; dywedaf, "Pa bryd y byddi'n fy nghysuro?"
83 Er imi grebachu fel costrel groen mewn mwg, eto nid anghofiaf dy ddeddfau.
84 Am ba hyd y disgwyl dy was cyn iti roi barn ar fy erlidwyr?
85 Y mae gwu375?r trahaus, rhai sy'n anwybyddu dy gyfraith, wedi cloddio pwll ar fy nghyfer.
86 Y mae dy holl orchmynion yn sicr; pan fyddant yn fy erlid � chelwydd, cynorthwya fi.
87 Bu ond y dim iddynt fy nifetha oddi ar y ddaear, ond eto ni throis fy nghefn ar dy ofynion.
88 Yn �l dy gariad adfywia fi, ac fe gadwaf farnedigaethau dy enau.
89 Y mae dy air, O ARGLWYDD, yn dragwyddol, wedi ei osod yn sefydlog yn y nefoedd.
90 Y mae dy ffyddlondeb hyd genhedlaeth a chenhedlaeth; seiliaist y ddaear, ac y mae'n sefyll.
91 Yn �l dy ordeiniadau y maent yn sefyll hyd heddiw, oherwydd gweision i ti yw'r cyfan.
92 Oni bai i'th gyfraith fod yn hyfrydwch i mi, byddai wedi darfod amdanaf yn fy adfyd;
93 nid anghofiaf dy ofynion hyd byth, oherwydd trwyddynt hwy adfywiaist fi.
94 Eiddot ti ydwyf; gwareda fi, oherwydd ceisiais dy ofynion.
95 Y mae'r drygionus yn gwylio amdanaf i'm dinistrio, ond fe ystyriaf fi dy farnedigaethau.
96 Gwelaf fod popeth yn dod i ben, ond nid oes terfyn i'th orchymyn di.
97 O fel yr wyf yn caru dy gyfraith! Hi yw fy myfyrdod drwy'r dydd.
98 Y mae dy orchymyn yn fy ngwneud yn ddoethach na'm gelynion, oherwydd y mae gyda mi bob amser.
99 Yr wyf yn fwy deallus na'm holl athrawon, oherwydd bod dy farnedigaethau'n fyfyrdod i mi.
100 Yr wyf yn deall yn well na'r rhai hen, oherwydd imi ufuddhau i'th ofynion.
101 Cedwais fy nhraed rhag pob llwybr drwg, er mwyn imi gadw dy air.
102 Nid wyf wedi troi oddi wrth dy farnau, oherwydd ti fu'n fy nghyfarwyddo.
103 Mor felys yw dy addewid i'm genau, melysach na m�l i'm gwefusau.
104 O'th ofynion di y caf ddeall; dyna pam yr wyf yn cas�u llwybrau twyll.
105 Y mae dy air yn llusern i'm troed, ac yn oleuni i'm llwybr.
106 Tyngais lw, a gwneud adduned i gadw dy farnau cyfiawn.
107 Yr wyf mewn gofid mawr; O ARGLWYDD, adfywia fi yn �l dy air.
108 Derbyn deyrnged fy ngenau, O ARGLWYDD, a dysg i mi dy farnedigaethau.
109 Bob dydd y mae fy mywyd yn fy nwylo, ond nid wyf yn anghofio dy gyfraith.
110 Gosododd y drygionus rwyd i mi, ond nid wyf wedi gwyro oddi wrth dy ofynion.
111 Y mae dy farnedigaethau yn etifeddiaeth imi am byth, oherwydd y maent yn llonder i'm calon.
112 Yr wyf wedi gosod fy mryd ar ufuddhau i'th ddeddfau; y mae eu gwobr yn dragwyddol.
113 Yr wyf yn cas�u rhai anwadal, ond yn caru dy gyfraith.
114 Ti yw fy lloches a'm tarian; yr wyf yn gobeithio yn dy air.
115 Trowch ymaith oddi wrthyf, chwi rai drwg, er mwyn imi gadw gorchmynion fy Nuw.
116 Cynnal fi yn �l dy addewid, fel y byddaf fyw, ac na chywilyddier fi yn fy hyder.
117 Dal fi i fyny, fel y caf waredigaeth, imi barchu dy ddeddfau yn wastad.
118 Yr wyt yn gwrthod pawb sy'n gwyro oddi wrth dy ddeddfau, oherwydd mae eu twyll yn ofer.
119 Yn sothach yr ystyri holl rai drygionus y ddaear; am hynny yr wyf yn caru dy farnedigaethau.
120 Y mae fy nghnawd yn crynu gan dy arswyd, ac yr wyf yn ofni dy farnau.
121 Gwneuthum farn a chyfiawnder; paid �'m gadael i'm gorthrymwyr.
122 Bydd yn feichiau er lles dy was; paid � gadael i'r trahaus fy ngorthrymu.
123 Y mae fy llygaid yn pylu wrth ddisgwyl am dy iachawdwriaeth, ac am dy addewid o fuddugoliaeth.
124 Gwna �'th was yn �l dy gariad, a dysg i mi dy ddeddfau.
125 Dy was wyf fi; rho imi ddeall i wybod dy farnedigaethau.
126 Y mae'n amser i'r ARGLWYDD weithredu, oherwydd torrwyd dy gyfraith.
127 Er hynny yr wyf yn caru dy orchmynion yn fwy nag aur, nag aur coeth.
128 Am hyn cerddaf yn union yn �l dy holl ofynion, a chas�f lwybrau twyll.
129 Y mae dy farnedigaethau'n rhyfeddol; am hynny yr wyf yn eu cadw.
130 Pan ddatguddir dy air, bydd yn goleuo ac yn rhoi deall i'r syml.
131 Yr wyf yn agor fy ngheg mewn blys, oherwydd yr wyf yn dyheu am dy orchmynion.
132 Tro ataf a bydd drugarog, yn �l dy arfer i'r rhai sy'n caru dy enw.
133 Cadw fy ngham yn sicr fel yr addewaist, a phaid � gadael i ddrygioni fy meistroli.
134 Rhyddha fi oddi wrth ormes dynol, er mwyn imi ufuddhau i'th ofynion di.
135 Bydded llewyrch dy wyneb ar dy was, a dysg i mi dy ddeddfau.
136 Y mae fy llygaid yn ffrydio dagrau am nad yw pobl yn cadw dy gyfraith.
137 Cyfiawn wyt ti, O ARGLWYDD, a chywir yw dy farnau.
138 Y mae'r barnedigaethau a roddi yn gyfiawn ac yn gwbl ffyddlon.
139 Y mae fy nghynddaredd yn fy ysu am fod fy ngelynion yn anghofio dy eiriau.
140 Y mae dy addewid wedi ei phrofi'n llwyr, ac y mae dy was yn ei charu.
141 Er fy mod i yn fychan ac yn ddinod, nid wyf yn anghofio dy ofynion.
142 Y mae dy gyfiawnder di yn gyfiawnder tragwyddol, ac y mae dy gyfraith yn wirionedd.
143 Daeth cyfyngder a gofid ar fy ngwarthaf, ond yr wyf yn ymhyfrydu yn dy orchmynion.
144 Y mae dy farnedigaethau di'n gyfiawn byth; rho imi ddeall, fel y byddaf fyw.
145 Gwaeddaf �'m holl galon; ateb fi, ARGLWYDD, ac fe fyddaf ufudd i'th ddeddfau.
146 Gwaeddaf arnat ti; gwareda fi, ac fe gadwaf dy farnedigaethau.
147 Codaf cyn y wawr a gofyn am gymorth, a gobeithiaf yn dy eiriau.
148 Y mae fy llygaid yn effro yng ngwyliadwriaethau'r nos, i fyfyrio ar dy addewid.
149 Gwrando fy llef yn �l dy gariad; O ARGLWYDD, yn �l dy farnau adfywia fi.
150 Y mae fy erlidwyr dichellgar yn agos�u, ond y maent yn bell oddi wrth dy gyfraith.
151 Yr wyt ti yn agos, O ARGLWYDD, ac y mae dy holl orchmynion yn wirionedd.
152 Gwn erioed am dy farnedigaethau, i ti eu sefydlu am byth.
153 Edrych ar fy adfyd a gwared fi, oherwydd nid anghofiais dy gyfraith.
154 Amddiffyn fy achos ac achub fi; adfywia fi yn �l dy addewid.
155 Y mae iachawdwriaeth ymhell oddi wrth y drygionus, oherwydd nid ydynt yn ceisio dy ddeddfau.
156 Mawr yw dy drugaredd, O ARGLWYDD; adfywia fi yn �l dy farn.
157 Y mae fy erlidwyr a'm gelynion yn niferus, ond eto ni wyrais oddi wrth dy farnedigaethau.
158 Gwelais y rhai twyllodrus, a ffieiddiais am nad ydynt yn cadw dy air.
159 Gw�l fel yr wyf yn caru dy ofynion; O ARGLWYDD, adfywia fi yn �l dy gariad.
160 Hanfod dy air yw gwirionedd, ac y mae dy holl farnau cyfiawn yn dragwyddol.
161 Y mae tywysogion yn fy erlid yn ddiachos, ond dy air di yw arswyd fy nghalon.
162 Yr wyf yn llawenhau o achos dy addewid, fel un sy'n cael ysbail fawr.
163 Yr wyf yn cas�u ac yn ffieiddio twyll, ond yn caru dy gyfraith di.
164 Seithwaith y dydd yr wyf yn dy foli oherwydd dy farnau cyfiawn.
165 Caiff y rhai sy'n caru dy gyfraith wir heddwch, ac nid oes dim yn peri iddynt faglu.
166 Yr wyf yn disgwyl am dy iachawdwriaeth, O ARGLWYDD, ac yn ufuddhau i'th orchmynion.
167 Yr wyf yn cadw dy farnedigaethau ac yn eu caru'n fawr.
168 Yr wyf yn ufudd i'th ofynion a'th farnedigaethau, oherwydd y mae fy holl ffyrdd o'th flaen.
169 Doed fy llef atat, O ARGLWYDD; rho imi ddeall yn �l dy air.
170 Doed fy neisyfiad atat; gwared fi yn �l dy addewid.
171 Bydd fy ngwefusau'n tywallt moliant am iti ddysgu i mi dy ddeddfau.
172 Bydd fy nhafod yn canu am dy addewid, oherwydd y mae dy holl orchmynion yn gyfiawn.
173 Bydded dy law yn barod i'm cynorthwyo, oherwydd yr wyf wedi dewis dy ofynion.
174 Yr wyf yn dyheu am dy iachawdwriaeth, O ARGLWYDD, ac yn ymhyfrydu yn dy gyfraith.
175 Gad imi fyw i'th foliannu di, a bydded i'th farnau fy nghynorthwyo.
176 Euthum ar gyfeiliorn fel dafad ar goll; chwilia am dy was, oherwydd nid anghofiais dy orchmynion.