1 1 C�n Esgyniad.0 C�n Esgyniad. Gwaeddais ar yr ARGLWYDD yn fy nghyfyngder, ac atebodd fi.
2 "O ARGLWYDD, gwared fi rhag genau twyllodrus, a rhag tafod enllibus."
3 Beth a roddir i ti, a beth yn ychwaneg a wneir, O dafod enllibus?
4 Saethau llymion rhyfelwr, a marwor eirias!
5 Gwae fi fy mod yn ymdeithio yn Mesech, ac yn byw ymysg pebyll Cedar.
6 Yn rhy hir y b�m yn byw gyda'r rhai sy'n cas�u heddwch.
7 Yr wyf fi am heddwch, ond pan soniaf am hynny, y maent hwy am ryfel.