1 1 C�n Esgyniad.0 Gwyn ei fyd pob un sy'n ofni'r ARGLWYDD ac yn rhodio yn ei ffyrdd.
2 Cei fwyta o ffrwyth dy lafur; byddi'n hapus ac yn wyn dy fyd.
3 Bydd dy wraig yng nghanol dy du375? fel gwinwydden ffrwythlon, a'th blant o amgylch dy fwrdd fel blagur olewydd.
4 Wele, fel hyn y bendithir y sawl sy'n ofni'r ARGLWYDD.
5 Bydded i'r ARGLWYDD dy fendithio o Seion, iti gael gweld llwyddiant Jerwsalem holl ddyddiau dy fywyd,
6 ac iti gael gweld plant dy blant. Bydded heddwch ar Israel!