Welsh

Breton: Gospels

Psalms

130

1 1 C�n Esgyniad.0 O'r dyfnderau y gwaeddais arnat, O ARGLWYDD.
2 Arglwydd, clyw fy llef; bydded dy glustiau'n agored i lef fy ngweddi.
3 Os wyt ti, ARGLWYDD, yn cadw cyfrif o gamweddau, pwy, O Arglwydd, a all sefyll?
4 Ond y mae gyda thi faddeuant, fel y cei dy ofni.
5 Disgwyliaf wrth yr ARGLWYDD; y mae fy enaid yn disgwyl, a gobeithiaf yn ei air;
6 y mae fy enaid yn disgwyl wrth yr Arglwydd yn fwy nag y mae'r gwylwyr am y bore, yn fwy nag y mae'r gwylwyr am y bore.
7 O Israel, gobeithia yn yr ARGLWYDD, oherwydd gyda'r ARGLWYDD y mae ffyddlondeb, a chydag ef y mae gwaredigaeth helaeth.
8 Ef sydd yn gwaredu Israel oddi wrth ei holl gamweddau.