1 Ger afonydd Babilon yr oeddem yn eistedd ac yn wylo wrth inni gofio am Seion.
2 Ar yr helyg yno bu inni grogi ein telynau,
3 oherwydd yno gofynnodd y rhai a'n caethiwai am g�n, a'r rhai a'n hanrheithiai am ddifyrrwch. "Canwch inni," meddent, "rai o ganeuon Seion."
4 Sut y medrwn ganu c�n yr ARGLWYDD mewn tir estron?
5 Os anghofiaf di, Jerwsalem, bydded fy neheulaw'n ddiffrwyth;
6 bydded i'm tafod lynu wrth daflod fy ngenau os na chofiaf di, os na osodaf Jerwsalem yn uwch na'm llawenydd pennaf.
7 O ARGLWYDD, dal yn erbyn pobl Edom ddydd gofid Jerwsalem, am iddynt ddweud, "I lawr � hi, i lawr � hi hyd at ei sylfeini."
8 O ferch Babilon, a ddistrywir, gwyn ei fyd y sawl sy'n talu'n �l i ti am y cyfan a wnaethost i ni.
9 Gwyn ei fyd y sawl sy'n cipio dy blant ac yn eu dryllio yn erbyn y graig.