Welsh

Breton: Gospels

Psalms

138

1 1 I Ddafydd.0 Clodforaf di �'m holl galon, canaf fawl i ti yng ngu373?ydd duwiau.
2 Ymgrymaf tuag at dy deml sanctaidd, a chlodforaf dy enw am dy gariad a'th ffyddlondeb, oherwydd dyrchefaist dy enw a'th air uwchlaw popeth.
3 Pan elwais arnat, atebaist fi, a chynyddaist fy nerth ynof.
4 Bydded i holl frenhinoedd y ddaear dy glodfori, O ARGLWYDD, am iddynt glywed geiriau dy enau;
5 bydded iddynt ganu am ffyrdd yr ARGLWYDD, oherwydd mawr yw gogoniant yr ARGLWYDD.
6 Er bod yr ARGLWYDD yn uchel, fe gymer sylw o'r isel, ac fe ddarostwng y balch o bell.
7 Er imi fynd trwy ganol cyfyngder, adfywiaist fi; estynnaist dy law yn erbyn llid fy ngelynion, a gwaredaist fi �'th ddeheulaw.
8 Bydd yr ARGLWYDD yn gweithredu ar fy rhan. O ARGLWYDD, y mae dy gariad hyd byth; paid � gadael gwaith dy ddwylo.