Welsh

Breton: Gospels

Psalms

84

1 1 I'r Cyfarwyddwr: ar y Gittith. I feibion Cora. Salm.0 Mor brydferth yw dy breswylfod, O ARGLWYDD y Lluoedd.
2 Yr wyf yn hiraethu, yn dyheu hyd at lewyg am gynteddau'r ARGLWYDD; y mae'r cyfan ohonof yn gweiddi'n llawen ar y Duw byw.
3 Cafodd hyd yn oed aderyn y to gartref, a'r wennol nyth iddi ei hun, lle mae'n magu ei chywion, wrth dy allorau di, O ARGLWYDD y Lluoedd, fy Mrenin a'm Duw.
4 Gwyn eu byd y rhai sy'n trigo yn dy du375?, yn canu mawl i ti'n wastadol.
5 Gwyn eu byd y rhai yr wyt ti'n noddfa iddynt, a ffordd y pererinion yn eu calon.
6 Wrth iddynt fynd trwy ddyffryn Baca fe'i c�nt yn ffynnon; bydd y glaw cynnar yn ei orchuddio � bendith.
7 �nt o nerth i nerth, a bydd Duw y duwiau yn ymddangos yn Seion.
8 O ARGLWYDD Dduw'r Lluoedd, clyw fy ngweddi; gwrando arnaf, O Dduw Jacob. Sela.
9 Edrych ar ein tarian, O Dduw; rho ffafr i'th eneiniog.
10 Gwell yw diwrnod yn dy gynteddau di na mil gartref; gwell sefyll wrth y drws yn nhu375? fy Nuw na thrigo ym mhebyll drygioni.
11 Oherwydd haul a tharian yw'r ARGLWYDD Dduw; rhydd ras ac anrhydedd. Nid atal yr ARGLWYDD unrhyw ddaioni oddi wrth y rhai sy'n rhodio'n gywir.
12 O ARGLWYDD y Lluoedd, gwyn ei fyd y sawl sy'n ymddiried ynot.