Welsh

Breton: Gospels

Psalms

85

1 1 I'r Cyfarwyddwr: i feibion Cora. Salm.0 O Arglwydd, buost drugarog wrth dy dir; adferaist lwyddiant i Jacob.
2 Maddeuaist gamwedd dy bobl, a dileu eu holl bechod. Sela.
3 Tynnaist dy holl ddigofaint yn �l, a throi oddi wrth dy lid mawr.
4 Adfer ni eto, O Dduw ein hiachawdwriaeth, a rho heibio dy ddicter tuag atom.
5 A fyddi'n digio wrthym am byth, ac yn dal dig atom am genedlaethau?
6 Oni fyddi'n ein hadfywio eto, er mwyn i'th bobl lawenhau ynot?
7 Dangos i ni dy ffyddlondeb, O ARGLWYDD, a rho dy waredigaeth inni.
8 Bydded imi glywed yr hyn a lefara'r Arglwydd DDUW, oherwydd bydd yn cyhoeddi heddwch i'w bobl ac i'w ffyddloniaid, rhag iddynt droi drachefn at ffolineb.
9 Yn wir, y mae ei waredigaeth yn agos at y rhai sy'n ei ofni, fel bod gogoniant yn aros yn ein tir.
10 Bydd cariad a gwirionedd yn cyfarfod, a chyfiawnder a heddwch yn cusanu ei gilydd.
11 Bydd ffyddlondeb yn tarddu o'r ddaear, a chyfiawnder yn edrych i lawr o'r nefoedd.
12 Bydd yr ARGLWYDD yn rhoi daioni, a'n tir yn rhoi ei gnwd.
13 Bydd cyfiawnder yn mynd o'i flaen, a heddwch yn dilyn yn �l ei droed.