1 1 Gweddi. I Ddafydd.0 Tro dy glust ataf, ARGLWYDD, ac ateb fi, oherwydd tlawd ac anghenus ydwyf.
2 Arbed fy mywyd, oherwydd teyrngar wyf fi; gwared dy was sy'n ymddiried ynot.
3 Ti yw fy Nuw; bydd drugarog wrthyf, O Arglwydd, oherwydd arnat ti y gwaeddaf trwy'r dydd.
4 Llawenha enaid dy was, oherwydd atat ti, Arglwydd, y dyrchafaf fy enaid.
5 Yr wyt ti, Arglwydd, yn dda a maddeugar, ac yn llawn trugaredd i bawb sy'n galw arnat.
6 Clyw, O ARGLWYDD, fy ngweddi, a gwrando ar fy ymbil.
7 Yn nydd fy nghyfyngder galwaf arnat, oherwydd yr wyt ti yn fy ateb.
8 Nid oes neb fel ti ymhlith y duwiau, O Arglwydd, ac nid oes gweithredoedd fel dy rai di.
9 Bydd yr holl genhedloedd a wnaethost yn dod ac yn ymgrymu o'th flaen, O Arglwydd, ac yn anrhydeddu dy enw.
10 Oherwydd yr wyt ti yn fawr ac yn gwneud rhyfeddodau; ti yn unig sydd Dduw.
11 O ARGLWYDD, dysg i mi dy ffordd, imi rodio yn dy wirionedd; rho imi galon unplyg i ofni dy enw.
12 Clodforaf di �'m holl galon, O Arglwydd fy Nuw, ac anrhydeddaf dy enw hyd byth.
13 Oherwydd mawr yw dy ffyddlondeb tuag ataf, a gwaredaist fy mywyd o Sheol isod.
14 O Dduw, cododd gwu375?r trahaus yn f'erbyn, ac y mae criw didostur yn ceisio fy mywyd, ac nid ydynt yn meddwl amdanat ti.
15 Ond yr wyt ti, O Arglwydd, yn Dduw trugarog a graslon, araf i ddigio, a llawn cariad a gwirionedd.
16 Tro ataf, a bydd drugarog, rho dy nerth i'th was, a gwared un o hil dy weision.
17 Rho imi arwydd o'th ddaioni, a bydded i'r rhai sy'n fy nghas�u weld a chywilyddio, am i ti, ARGLWYDD, fy nghynorthwyo a'm cysuro.