Welsh

Darby's Translation

Numbers

32

1 Yr oedd gan dylwyth Reuben a thylwyth Gad lawer iawn o wartheg; a phan welsant fod tir Jaser a thir Gilead yn dir pori da i anifeiliaid,
1And the children of Reuben and the children of Gad had much cattle, a very great multitude; and they saw the land of Jaazer, and the land of Gilead, and behold, the place was a place for cattle.
2 daethant at Moses, Eleasar yr offeiriad ac arweinwyr y cynulliad, a dweud,
2And the children of Gad and the children of Reuben came and spoke to Moses, and to Eleazar the priest, and to the princes of the assembly, saying,
3 "Y mae Ataroth, Dibon, Jaser, Nimra, Hesbon, Eleale, Sebam, Nebo a Beon,
3Ataroth, and Dibon, and Jaazer, and Nimrah, and Heshbon, and Elaleh, and Sebam, and Nebo, and Beon,
4 sef y tir a orchfygodd yr ARGLWYDD o flaen cynulliad Israel, yn dir pori, ac y mae gan dy weision wartheg."
4the country that Jehovah smote before the assembly of Israel, is a land for cattle, and thy servants have cattle;
5 Yna dywedasant, "Os cawsom ffafr yn dy olwg, rho'r tir hwn yn feddiant i'th weision, a phaid � gwneud i ni groesi'r Iorddonen."
5and they said, If we have found favour in thine eyes, let this land be given to thy servants for a possession: bring us not over the Jordan.
6 Ond dywedodd Moses wrth dylwyth Gad a thylwyth Reuben, "A yw eich brodyr i fynd i ryfel tra byddwch chwi'n eistedd yma?
6And Moses said to the children of Gad, and to the children of Reuben, Shall your brethren go to war, and shall *ye* abide here?
7 Pam yr ydych am ddigalonni pobl Israel rhag mynd drosodd i'r wlad a roddodd yr ARGLWYDD iddynt?
7And why do ye discourage the children of Israel from going over into the land that Jehovah has given them?
8 Dyma a wnaeth eich hynafiaid pan anfonais hwy o Cades-barnea i edrych y wlad,
8Thus did your fathers, when I sent them from Kadesh-barnea to see the land:
9 oherwydd pan aethant i fyny i ddyffryn Escol a'i gweld, dechreusant hwythau ddigalonni pobl Israel rhag mynd i'r wlad a roddodd yr ARGLWYDD iddynt.
9they went up to the valley of Eshcol, and saw the land, and discouraged the children of Israel, that they should not go into the land that Jehovah had given them.
10 Enynnodd llid yr ARGLWYDD y diwrnod hwnnw, a thyngodd a dweud,
10And Jehovah's anger was kindled the same time, and he swore, saying,
11 'Am nad ydynt wedi fy nilyn yn ffyddlon, ni chaiff neb o'r rhai a ddaeth i fyny o'r Aifft, ac sy'n ugain oed a throsodd, weld y wlad a addewais i Abraham, Isaac a Jacob,
11If the men that came up out of Egypt, from twenty years old and upward, shall see the land that I swore to Abraham, to Isaac, and to Jacob! for they have not wholly followed me;
12 ar wah�n i Caleb fab Jeffunne y Cenesiad a Josua fab Nun, oherwydd darfu iddynt hwy ddilyn yr ARGLWYDD yn ffyddlon.'
12save Caleb the son of Jephunneh the Kenizzite, and Joshua the son of Nun; for they have wholly followed Jehovah.
13 Pan enynnodd llid yr ARGLWYDD yn erbyn Israel, gwnaeth iddynt grwydro'r anialwch am ddeugain mlynedd, nes darfod o'r cyfan o'r genhedlaeth a wnaeth ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD.
13And Jehovah's anger was kindled against Israel, and he made them wander in the wilderness forty years, until the whole generation was consumed that had done evil in the eyes of Jehovah.
14 A dyma chwi'n awr yn dilyn eich hynafiaid, yn hil o bobl bechadurus sy'n cyffroi'n fwyfwy ddicter yr ARGLWYDD yn erbyn Israel.
14And behold, ye are risen up in your fathers' stead, a progeny of sinful men, to augment yet the fierce anger of Jehovah toward Israel.
15 Os gwrthodwch ei ddilyn, bydd yn gadael yr holl bobl hyn unwaith eto yn yr anialwch, a chwi fydd wedi eu difa."
15If ye turn away from after him, he will yet again leave them in the wilderness; and ye shall destroy all this people.
16 Yna daethant ato a dweud, "Fe adeiladwn gorlannau yma i'n praidd, a dinasoedd i'n plant;
16And they drew near to him, and said, We will build sheepfolds here for our cattle, and cities for our little ones;
17 caiff ein plant fyw yn y dinasoedd caerog, yn ddiogel rhag trigolion y wlad, tra byddwn ninnau'n cymryd arfau, yn arwain pobl Israel, ac yn eu tywys i'w lle eu hunain.
17but we ourselves will go with diligence armed before the children of Israel, until we have brought them to their place; and our little ones shall dwell in the strong cities because of the inhabitants of the land.
18 Ni ddychwelwn adref nes i bob un o'r Israeliaid feddiannu ei etifeddiaeth.
18We will not return to our houses, until the children of Israel have inherited each one his inheritance.
19 Ond ni fyddwn ni'n cymryd etifeddiaeth gyda hwy yr ochr draw i'r Iorddonen, oherwydd rhoddwyd etifeddiaeth i ni yr ochr yma, o'r tu dwyrain i'r Iorddonen."
19For we will not inherit with them on yonder side the Jordan, and further, because our inheritance is fallen to us on this side the Jordan eastward.
20 Dywedodd Moses wrthynt, "Os gwnewch hyn, a chymryd arfau a mynd i ryfel o flaen yr ARGLWYDD,
20And Moses said to them, If ye do this thing, if ye arm yourselves before Jehovah for war,
21 ac os � pob dyn arfog sydd yn eich plith dros yr Iorddonen o flaen yr ARGLWYDD, a gyrru ei elynion allan,
21and all of you that are armed go over the Jordan before Jehovah, until he have dispossessed his enemies from before him,
22 a darostwng y wlad o flaen yr ARGLWYDD, yna cewch ddychwelyd, a byddwch yn rhydd o'ch dyletswydd i'r ARGLWYDD ac i Israel, a bydd y tir hwn yn etifeddiaeth i chwi gerbron yr ARGLWYDD.
22and the land is subdued before Jehovah, and afterwards ye return, ye shall be guiltless toward Jehovah and toward Israel, and this land shall be your possession before Jehovah.
23 Ond os na wnewch hyn, byddwch yn pechu yn erbyn yr ARGLWYDD, a chewch wybod y bydd eich pechod yn eich dal.
23But if ye do not do so, behold, ye have sinned against Jehovah, and be sure your sin will find you out.
24 Adeiladwch ddinasoedd i'ch plant, a chorlannau i'ch praidd, a gwnewch yr hyn a addawsoch."
24Build yourselves cities for your little ones, and folds for your flocks, and do that which has gone out of your mouth.
25 Dywedodd tylwyth Gad a thylwyth Reuben wrth Moses, "Fe wna dy weision fel y mae ein harglwydd yn gorchymyn.
25And the children of Gad and the children of Reuben spoke to Moses, saying, Thy servants will do as my lord commands.
26 Bydd ein plant a'n gwragedd, ein gwartheg a'n holl anifeiliaid, yn aros yma yn ninasoedd Gilead,
26Our little ones, our wives, our cattle, and all our beasts shall be there in the cities of Gilead;
27 ond fe � dy weision drosodd o flaen yr ARGLWYDD, pob un yn arfog ar gyfer rhyfel, fel y mae ein harglwydd yn gorchymyn."
27but thy servants will pass over, every one armed for war, before Jehovah to battle, as my lord says.
28 Rhoddodd Moses orchymyn ynglu375?n � hwy i Eleasar yr offeiriad a Josua fab Nun, ac i bennau-teuluoedd llwythau pobl Israel.
28So concerning them Moses commanded Eleazar the priest, and Joshua the son of Nun, and the chief fathers of the tribes of the children of Israel.
29 Dywedodd Moses wrthynt, "Os � tylwyth Gad a thylwyth Reuben gyda chwi dros yr Iorddonen o flaen yr ARGLWYDD, a phob un ohonynt yn arfog ar gyfer rhyfel, ac os byddant yn darostwng y wlad o'ch blaen, yna rhowch wlad Gilead iddynt yn etifeddiaeth;
29And Moses said unto them, If the children of Gad and the children of Reuben pass with you over the Jordan, every one armed for battle, before Jehovah, and the land be subdued before you, then ye shall give them the land of Gilead for a possession;
30 ond os nad �nt drosodd yn arfog gyda chwi, yna c�nt etifeddiaeth yn eich plith chwi yng ngwlad Canaan."
30but if they do not pass over with you armed, they shall have possessions among you in the land of Canaan.
31 Atebodd tylwyth Gad a thylwyth Reuben, "Fe wnawn fel y gorchmynnodd yr ARGLWYDD i'th weision.
31And the children of Gad and the children of Reuben answered, saying, As Jehovah has said to thy servants, so will we do.
32 Awn drosodd i wlad Canaan yn arfog o flaen yr ARGLWYDD, a chadwn ein hetifeddiaeth yr ochr yma i'r Iorddonen."
32We will pass over armed before Jehovah into the land of Canaan, and the possession of our inheritance on this side the Jordan shall be ours.
33 Rhoddodd Moses i dylwyth Gad a thylwyth Reuben, ac i hanner llwyth Manasse fab Joseff, deyrnas Sihon brenin yr Amoriaid, a theyrnas Og brenin Basan, yn cynnwys holl ddinasoedd y wlad a'u tiriogaethau oddi amgylch.
33And Moses gave to them, to the children of Gad, and to the children of Reuben, and to half the tribe of Manasseh the son of Joseph, the kingdom of Sihon king of the Amorites, and the kingdom of Og the king of Bashan, the land, according to its cities and territories, the cities of the land round about.
34 Adeiladodd tylwyth Gad Dibon, Ataroth, Aroer,
34And the children of Gad built Dibon, and Ataroth, and Aroer,
35 Atroth-soffan, Jaser, Jogbeha,
35and Atroth-Shophan, and Jaazer, and Jogbebah,
36 Beth-nimra a Beth-haran yn ddinasoedd caerog, a chorlannau i'r praidd.
36and Beth-Nimrah, and Beth-haran, strong cities, and sheepfolds.
37 Adeiladodd tylwyth Reuben Hesbon, Eleale, Ciriathaim,
37-- And the children of Reuben built Heshbon, and Elaleh, and Kirjathaim,
38 Nebo, Baal-meon, a Sibma, a rhoddwyd enwau newydd ar y dinasoedd a adeiladwyd ganddynt.
38and Nebo, and Baal-meon (of which the names were changed), and Sibmah; and they gave other names to the cities that they built.
39 Aeth meibion Machir fab Manasse i Gilead, a'i meddiannu, a gyrrwyd ymaith yr Amoriaid oedd yno.
39-- And the children of Machir the son of Manasseh went to Gilead, and took it, and they dispossessed the Amorites that were therein.
40 Rhoddodd Moses Gilead i Machir fab Manasse, ac fe ymsefydlodd ef yno.
40And Moses gave Gilead to Machir the son of Manasseh; and he dwelt therein.
41 Aeth Jair fab Manasse i gymryd meddiant o bentrefi Gilead, a rhoddodd iddynt yr enw Hafoth-jair.
41And Jair the son of Manasseh went and took their hamlets, and called them Havoth-Jair.
42 Aeth Noba i gymryd meddiant o Cenath a'i phentrefi, a'i galw'n Noba, ar �l ei enw ei hun.
42And Nobah went and took Kenath, and its dependent villages, and called it Nobah, after his name.