1 1 Salm. I Asaff.0 Yn sicr, da yw Duw i'r uniawn, a'r Arglwydd i'r rhai pur o galon.
1{A Psalm of Asaph.} Truly God is good to Israel, to such as are of a pure heart.
2 Yr oedd fy nhraed bron � baglu, a bu ond y dim i'm gwadnau lithro,
2But as for me, my feet were almost gone, my steps had well nigh slipped;
3 am fy mod yn cenfigennu wrth y trahaus ac yn eiddigeddus o lwyddiant y drygionus.
3For I was envious at the arrogant, seeing the prosperity of the wicked.
4 Oherwydd nid oes ganddynt hwy ofidiau; y mae eu cyrff yn iach a graenus.
4For they have no pangs in their death, and their body is well nourished;
5 Nid ydynt hwy mewn helynt fel pobl eraill, ac nid ydynt hwy'n cael eu poenydio fel eraill.
5They have not the hardships of mankind, neither are they plagued like [other] men:
6 Am hynny, y mae balchder yn gadwyn am eu gyddfau, a thrais yn wisg amdanynt.
6Therefore pride encompasseth them as a neck-chain, violence covereth them [as] a garment;
7 Y mae eu llygaid yn disgleirio o fraster, a'u calonnau'n gorlifo o ffolineb.
7Their eyes stand out from fatness, they exceed the imaginations of their heart:
8 Y maent yn gwawdio ac yn siarad yn ddichellgar, yn s�n yn ffroenuchel am ormes.
8They mock and speak wickedly of oppression, they speak loftily:
9 Gosodant eu genau yn erbyn y nefoedd, ac y mae eu tafod yn tramwyo'r ddaear.
9They set their mouth in the heavens, and their tongue walketh through the earth.
10 Am hynny, y mae'r bobl yn troi atynt, ac ni ch�nt unrhyw fai ynddynt.
10Therefore his people turn hither, and waters in fulness are wrung out to them.
11 Dywedant, "Sut y mae Duw'n gwybod? A oes gwybodaeth gan y Goruchaf?"
11And they say, How can ùGod know, and is there knowledge in the Most High?
12 Edrych, dyma hwy y rhai drygionus � bob amser mewn esmwythyd ac yn casglu cyfoeth.
12Behold, these are the wicked, and they prosper in the world: they heap up riches.
13 Yn gwbl ofer y cedwais fy nghalon yn l�n, a golchi fy nwylo am fy mod yn ddieuog;
13Truly have I purified my heart in vain, and washed my hands in innocency:
14 ar hyd y dydd yr wyf wedi fy mhoenydio, ac fe'm cosbir bob bore.
14For all the day have I been plagued, and chastened every morning.
15 Pe buaswn wedi dweud, "Fel hyn y siaradaf", buaswn wedi bradychu cenhedlaeth dy blant.
15If I said, I will speak thus, behold, I should be faithless to the generation of thy children.
16 Ond pan geisiais ddeall hyn, yr oedd yn rhy anodd i mi,
16When I thought to be able to know this, it was a grievous task in mine eyes;
17 nes imi fynd i gysegr Duw; yno y gwelais eu diwedd.
17Until I went into the sanctuaries of ùGod; [then] understood I their end.
18 Yn sicr, yr wyt yn eu gosod ar fannau llithrig, ac yn gwneud iddynt syrthio i ddistryw.
18Truly thou settest them in slippery places, thou castest them down in ruins.
19 Fe �nt i ddinistr ar amrantiad, fe'u cipir yn llwyr gan ddychrynfeydd.
19How are they suddenly made desolate! they pass away, consumed with terrors.
20 Fel breuddwyd ar �l ymysgwyd, y maent wedi mynd; wrth ddeffro fe'u diystyrir fel hunllef.
20As a dream, when one awaketh, wilt thou, Lord, on arising despise their image.
21 Pan oedd fy nghalon yn chwerw a'm coluddion wedi eu trywanu,
21When my heart was in a ferment, and I was pricked in my reins,
22 yr oeddwn yn ddwl a diddeall, ac yn ymddwyn fel anifail tuag atat.
22Then I was brutish and knew nothing; I was [as] a beast with thee.
23 Er hynny, yr wyf gyda thi bob amser; yr wyt yn cydio yn fy neheulaw.
23Nevertheless I am continually with thee: thou hast holden my right hand;
24 Yr wyt yn fy arwain �'th gyngor, ac yna'n fy nerbyn mewn gogoniant.
24Thou wilt guide me by thy counsel, and after the glory, thou wilt receive me.
25 Pwy sydd gennyf yn y nefoedd ond ti? Ac nid wyf yn dymuno ond tydi ar y ddaear.
25Whom have I in the heavens? and there is none upon earth I desire beside thee.
26 Er i'm calon a'm cnawd ballu, eto y mae Duw yn gryfder i'm calon ac yn rhan imi am byth.
26My flesh and my heart faileth: God is the rock of my heart and my portion for ever.
27 Yn wir, fe ddifethir y rhai sy'n bell oddi wrthyt, a byddi'n dinistrio'r rhai sy'n anffyddlon i ti.
27For behold, they that are far from thee shall perish; thou destroyest every one that goeth a whoring from thee.
28 Ond da i mi yw bod yn agos at Dduw; yr wyf wedi gwneud yr Arglwydd DDUW yn gysgod i mi, er mwyn imi fynegi dy ryfeddodau.
28But as for me, it is good for me to draw near to God: I have put my trust in the Lord Jehovah, that I may declare all thy works.