Welsh

Hebrew: Modern

Job

11

1 Atebodd Soffar y Naamathiad:
1ויען צפר הנעמתי ויאמר׃
2 "Oni ddylid ateb y pentyrru hwn ar eiriau? A gyfiawnheir rhywun siaradus?
2הרב דברים לא יענה ואם איש שפתים יצדק׃
3 A wneir pawb yn fud gan dy faldorddi? A gei di watwar heb neb i'th geryddu?
3בדיך מתים יחרישו ותלעג ואין מכלם׃
4 Dywedaist, 'Y mae f'athrawiaeth yn bur, a dilychwin wyf yn d'olwg.'
4ותאמר זך לקחי ובר הייתי בעיניך׃
5 O na lefarai Duw, ac agor ei wefusau i siarad � thi,
5ואולם מי יתן אלוה דבר ויפתח שפתיו עמך׃
6 a hysbysu iti gyfrinachau doethineb, a bod dwy ochr i ddeall! Yna gwybydd fod Duw yn anghofio peth o'th gamwedd.
6ויגד לך תעלמות חכמה כי כפלים לתושיה ודע כי ישה לך אלוה מעונך׃
7 A elli di ddarganfod dirgelwch Duw, neu gyrraedd at gyflawnder yr Hollalluog?
7החקר אלוה תמצא אם עד תכלית שדי תמצא׃
8 Y mae'n uwch na'r nefoedd. Beth a wnei di? Y mae'n is na Sheol. Beth a wyddost ti?
8גבהי שמים מה תפעל עמקה משאול מה תדע׃
9 Y mae ei fesur yn hwy na'r ddaear, ac yn ehangach na'r m�r.
9ארכה מארץ מדה ורחבה מני ים׃
10 "Os daw ef heibio, i garcharu neu i alw llys barn, pwy a'i rhwystra?
10אם יחלף ויסגיר ויקהיל ומי ישיבנו׃
11 Oherwydd y mae ef yn adnabod pobl dwyllodrus, a phan w�l ddrygioni, onid yw'n sylwi arno?
11כי הוא ידע מתי שוא וירא און ולא יתבונן׃
12 A ddaw'r dwl yn ddeallus � asyn gwyllt yn cael ei eni'n ddyn?
12ואיש נבוב ילבב ועיר פרא אדם יולד׃
13 "Os cyfeiri dy feddwl yn iawn, fe estynni dy ddwylo tuag ato;
13אם אתה הכינות לבך ופרשת אליו כפך׃
14 ac os oes drygioni ynot, bwrw ef ymhell oddi wrthyt, ac na thriged anghyfiawnder yn dy bebyll;
14אם און בידך הרחיקהו ואל תשכן באהליך עולה׃
15 yna gelli godi dy olwg heb gywilydd, a byddi'n gadarn a di-ofn.
15כי אז תשא פניך ממום והיית מצק ולא תירא׃
16 Fe anghofi orthrymder; fel du373?r a giliodd y cofi amdano.
16כי אתה עמל תשכח כמים עברו תזכר׃
17 Bydd gyrfa bywyd yn oleuach na chanol dydd, a'r gwyll fel boreddydd.
17ומצהרים יקום חלד תעפה כבקר תהיה׃
18 Byddi'n hyderus am fod gobaith, ac wedi edrych o'th gwmpas, fe orweddi'n ddiogel.
18ובטחת כי יש תקוה וחפרת לבטח תשכב׃
19 Fe orffwysi heb neb i'th ddychryn; a bydd llawer yn ceisio dy ffafr.
19ורבצת ואין מחריד וחלו פניך רבים׃
20 Palla llygaid y drygionus, diflanna ymwared oddi wrthynt, a'u gobaith yw'r anadl olaf."
20ועיני רשעים תכלינה ומנוס אבד מנהם ותקותם מפח נפש׃