1 "Yr wyf wedi alaru ar fy mywyd; rhoddaf ryddid i'm cwyn, llefaraf o chwerwedd fy ysbryd.
1נקטה נפשי בחיי אעזבה עלי שיחי אדברה במר נפשי׃
2 Dywedaf wrth Dduw, 'Paid �'m collfarnu i; dangos imi pam y dadleui � mi.
2אמר אל אלוה אל תרשיעני הודיעני על מה תריבני׃
3 Ai da yw i ti orthrymu, a throi heibio lafur dy ddwylo, a ffafrio cyngor y drygionus?
3הטוב לך כי תעשק כי תמאס יגיע כפיך ועל עצת רשעים הופעת׃
4 Ai llygaid o gnawd sydd gennyt, neu a weli di fel y gw�l y meidrol?
4העיני בשר לך אם כראות אנוש תראה׃
5 A yw dy ddyddiau fel dyddiau dyn, a'th flynyddoedd fel blynyddoedd gu373?r?
5הכימי אנוש ימיך אם שנותיך כימי גבר׃
6 Oherwydd yr wyt ti'n ceisio fy nghamwedd, ac yn chwilio am fy mhechod,
6כי תבקש לעוני ולחטאתי תדרוש׃
7 a thithau'n gwybod nad wyf yn euog, ac nad oes a'm gwared o'th law.
7על דעתך כי לא ארשע ואין מידך מציל׃
8 "'Dy ddwylo a'm lluniodd ac a'm creodd, ond yn awr yr wyt yn troi i'm difetha.
8ידיך עצבוני ויעשוני יחד סביב ותבלעני׃
9 Cofia iti fy llunio fel clai, ac eto i'r pridd y'm dychweli.
9זכר נא כי כחמר עשיתני ואל עפר תשיבני׃
10 Oni thywelltaist fi fel llaeth, a'm ceulo fel caws?
10הלא כחלב תתיכני וכגבנה תקפיאני׃
11 Rhoist imi groen a chnawd, a phlethaist fi o esgyrn a g�au.
11עור ובשר תלבישני ובעצמות וגידים תסככני׃
12 Rhoist imi fywyd a daioni, a diogelodd dy ofal fy einioes.
12חיים וחסד עשית עמדי ופקדתך שמרה רוחי׃
13 Ond cuddiaist y rhain yn dy galon; gwn mai dyna dy fwriad.
13ואלה צפנת בלבבך ידעתי כי זאת עמך׃
14 Os pechaf, byddi'n sylwi arnaf, ac ni'm rhyddhei o'm camwedd.
14אם חטאתי ושמרתני ומעוני לא תנקני׃
15 Os wyf yn euog, gwae fi, ac os wyf yn ddieuog, ni chaf godi fy mhen. Yr wyf yn llawn o warth ac yn llwythog gan flinder.
15אם רשעתי אללי לי וצדקתי לא אשא ראשי שבע קלון וראה עניי׃
16 Os ymffrostiaf, yr wyt fel llew yn fy hela, ac yn parhau dy orchestion yn f'erbyn.
16ויגאה כשחל תצודני ותשב תתפלא בי׃
17 Yr wyt yn dwyn cyrch ar gyrch arnaf, ac yn cynyddu dy lid ataf, ac yn gosod dy luoedd yn f'erbyn.
17תחדש עדיך נגדי ותרב כעשך עמדי חליפות וצבא עמי׃
18 "'Pam y dygaist fi allan o'r groth? O na fuaswn farw cyn i lygad fy ngweld!
18ולמה מרחם הצאתני אגוע ועין לא תראני׃
19 O na fyddwn fel un heb fod, yn cael fy nwyn o'r groth i'r bedd!
19כאשר לא הייתי אהיה מבטן לקבר אובל׃
20 Onid prin yw dyddiau fy rhawd? Tro oddi wrthyf, imi gael ychydig lawenydd
20הלא מעט ימי יחדל ישית ממני ואבליגה מעט׃
21 cyn imi fynd i'r lle na ddychwelaf ohono, i dir tywyllwch a'r fagddu,
21בטרם אלך ולא אשוב אל ארץ חשך וצלמות׃
22 tir y tywyllwch dudew, y gwyll a'r fagddu, goleuni fel y tywyllwch.'"
22ארץ עפתה כמו אפל צלמות ולא סדרים ותפע כמו אפל׃