1 Atebodd Job:
1ויען איוב ויאמר׃
2 "Am ba hyd y blinwch fi, a'm dryllio � geiriau?
2עד אנה תוגיון נפשי ותדכאונני במלים׃
3 Yr ydych wedi fy ngwawdio ddengwaith, ac nid oes arnoch gywilydd fy mhoeni.
3זה עשר פעמים תכלימוני לא תבשו תהכרו לי׃
4 Os yw'n wir imi gyfeiliorni, onid arnaf fi fy hun y mae'r bai?
4ואף אמנם שגיתי אתי תלין משוגתי׃
5 Os ydych yn wir yn eich gwneud eich hunain yn well na mi, ac yn fy nghondemnio o achos fy ngwarth,
5אם אמנם עלי תגדילו ותוכיחו עלי חרפתי׃
6 ystyriwch yn awr mai Duw sydd wedi gwneud cam � mi, ac wedi taflu ei rwyd o'm hamgylch.
6דעו אפו כי אלוה עותני ומצודו עלי הקיף׃
7 Os gwaeddaf, 'Trais', ni chaf ateb; os ceisiaf help, ni chaf farn deg.
7הן אצעק חמס ולא אענה אשוע ואין משפט׃
8 Caeodd fy ffordd fel na allaf ddianc, a gwnaeth fy llwybr yn dywyll o'm blaen.
8ארחי גדר ולא אעבור ועל נתיבותי חשך ישים׃
9 Cipiodd f'anrhydedd oddi arnaf, a symudodd y goron oddi ar fy mhen.
9כבודי מעלי הפשיט ויסר עטרת ראשי׃
10 Bwriodd fi i lawr yn llwyr, a darfu amdanaf; diwreiddiodd fy ngobaith fel coeden.
10יתצני סביב ואלך ויסע כעץ תקותי׃
11 Enynnodd ei lid yn f'erbyn, ac fe'm cyfrif fel un o'i elynion.
11ויחר עלי אפו ויחשבני לו כצריו׃
12 Daeth ei fyddinoedd ynghyd; gosodasant sarn hyd ataf, ac yna gwersyllu o amgylch fy mhabell.
12יחד יבאו גדודיו ויסלו עלי דרכם ויחנו סביב לאהלי׃
13 "Cadwodd fy mherthnasau draw oddi wrthyf, ac aeth fy nghyfeillion yn ddieithr.
13אחי מעלי הרחיק וידעי אך זרו ממני׃
14 Gwadwyd fi gan fy nghymdogion a'm cydnabod, ac anwybyddwyd fi gan fy ngweision.
14חדלו קרובי ומידעי שכחוני׃
15 Fel dieithryn y meddylia fy morynion amdanaf; estron wyf yn eu golwg.
15גרי ביתי ואמהתי לזר תחשבני נכרי הייתי בעיניהם׃
16 Galwaf ar fy ngwas, ond nid yw'n fy ateb, er i mi erfyn yn daer arno.
16לעבדי קראתי ולא יענה במו פי אתחנן לו׃
17 Aeth fy anadl yn atgas i'm gwraig, ac yn ddrewdod i'm plant fy hun.
17רוחי זרה לאשתי וחנתי לבני בטני׃
18 Dirmygir fi hyd yn oed gan blantos; pan godaf ar fy nhraed, y maent yn troi cefn arnaf.
18גם עוילים מאסו בי אקומה וידברו בי׃
19 Ffieiddir fi gan fy nghyfeillion pennaf; trodd fy ffrindiau agosaf yn f'erbyn.
19תעבוני כל מתי סודי וזה אהבתי נהפכו בי׃
20 Y mae fy nghnawd yn glynu wrth fy esgyrn, a dihengais � chroen fy nannedd.
20בעורי ובבשרי דבקה עצמי ואתמלטה בעור שני׃
21 "Cymerwch drugaredd arnaf, fy nghyfeillion, oherwydd cyffyrddodd llaw Duw � mi.
21חנני חנני אתם רעי כי יד אלוה נגעה בי׃
22 Pam yr erlidiwch fi fel y gwna Duw? Oni chawsoch ddigon ar ddifa fy nghnawd?
22למה תרדפני כמו אל ומבשרי לא תשבעו׃
23 O na fyddai fy ngeiriau wedi eu hysgrifennu! O na chofnodid hwy mewn llyfr,
23מי יתן אפו ויכתבון מלי מי יתן בספר ויחקו׃
24 wedi eu hysgrifennu � phin haearn a phlwm, a'u naddu ar garreg am byth!
24בעט ברזל ועפרת לעד בצור יחצבון׃
25 Oherwydd gwn fod fy amddiffynnwr yn fyw, ac y saif o'm plaid yn y diwedd;
25ואני ידעתי גאלי חי ואחרון על עפר יקום׃
26 ac wedi i'm croen ddifa fel hyn, eto o'm cnawd caf weld Duw.
26ואחר עורי נקפו זאת ומבשרי אחזה אלוה׃
27 Fe'i gwelaf ef o'm plaid; ie, fy llygaid fy hun a'i gw�l, ac nid yw'n ddieithr. Y mae fy nghalon yn dyheu o'm mewn.
27אשר אני אחזה לי ועיני ראו ולא זר כלו כליתי בחקי׃
28 "Os dywedwch, 'Y fath erlid a fydd arno, gan fod gwreiddyn y drwg ynddo,'
28כי תאמרו מה נרדף לו ושרש דבר נמצא בי׃
29 yna arswydwch rhag y cleddyf, oherwydd daw cynddaredd � chosb y cleddyf, ac yna y cewch wybod fod barn."
29גורו לכם מפני חרב כי חמה עונות חרב למען תדעון שדין׃