Welsh

Hebrew: Modern

Job

23

1 Atebodd Job:
1ויען איוב ויאמר׃
2 "Heddiw eto y mae fy nghwyn yn chwerw, a'i law sy'n drwm er gwaethaf f'ochenaid.
2גם היום מרי שחי ידי כבדה על אנחתי׃
3 O na wyddwn ble y cawn ef, a pha fodd i ddod at ei drigfan!
3מי יתן ידעתי ואמצאהו אבוא עד תכונתו׃
4 Yna gosodwn fy achos o'i flaen, a llenwi fy ngenau � dadleuon.
4אערכה לפניו משפט ופי אמלא תוכחות׃
5 Mynnwn wybod sut yr atebai fi, a deall beth a ddywedai wrthyf.
5אדעה מלים יענני ואבינה מה יאמר לי׃
6 Ai gyda'i holl nerth y dadleuai � mi? Na, ond fe roddai sylw imi.
6הברב כח יריב עמדי לא אך הוא ישם בי׃
7 Sylwai mai un uniawn a ymresymai ag ef, a chawn fy rhyddhau am byth gan fy marnwr.
7שם ישר נוכח עמו ואפלטה לנצח משפטי׃
8 "Os af i'r dwyrain, nid yw ef yno; ac os i'r gorllewin, ni chanfyddaf ef.
8הן קדם אהלך ואיננו ואחור ולא אבין לו׃
9 Pan weithreda yn y gogledd, ni sylwaf; os try i'r de, nis gwelaf.
9שמאול בעשתו ולא אחז יעטף ימין ולא אראה׃
10 Ond y mae ef yn deall fy ffordd; wedi iddo fy mhrofi, dof allan fel aur.
10כי ידע דרך עמדי בחנני כזהב אצא׃
11 Dilyn fy nhroed ei lwybr; cadwaf ei ffordd heb wyro.
11באשרו אחזה רגלי דרכו שמרתי ולא אט׃
12 Ni chiliaf oddi wrth orchmynion ei enau; cadwaf ei eiriau yn fy mynwes.
12מצות שפתיו ולא אמיש מחקי צפנתי אמרי פיו׃
13 Erys ef yr un, a phwy a'i try? Fe wna beth bynnag a ddymuna.
13והוא באחד ומי ישיבנו ונפשו אותה ויעש׃
14 Yn wir fe ddwg fy nedfryd i ben, fel llawer o rai eraill sydd ganddo.
14כי ישלים חקי וכהנה רבות עמו׃
15 Am hyn yr arswydaf rhagddo; pan ystyriaf, fe'i hofnaf.
15על כן מפניו אבהל אתבונן ואפחד ממנו׃
16 Duw sy'n gwanychu fy nghalon; yr Hollalluog sy'n fy nychryn;
16ואל הרך לבי ושדי הבהילני׃
17 nid y tywyllwch sy'n cyfyngu arnaf, na'r fagddu'n fy nghuddio.
17כי לא נצמתי מפני חשך ומפני כסה אפל׃