Welsh

Hebrew: Modern

Job

7

1 "Onid llafur caled sydd i ddyn ar y ddaear, a'i ddyddiau fel dyddiau gwas cyflog?
1הלא צבא לאנוש על ארץ וכימי שכיר ימיו׃
2 Fel caethwas yn dyheu am gysgod, a gwas yn disgwyl am ei d�l,
2כעבד ישאף צל וכשכיר יקוה פעלו׃
3 felly y daeth misoedd ofer i'm rhan innau, a threfnwyd imi nosweithiau gofidus.
3כן הנחלתי לי ירחי שוא ולילות עמל מנו לי׃
4 Pan orweddaf, dywedaf, 'Pa bryd y caf godi?' Y mae'r nos yn hir, a byddaf yn blino yn troi a throsi hyd doriad gwawr.
4אם שכבתי ואמרתי מתי אקום ומדד ערב ושבעתי נדדים עדי נשף׃
5 Gorchuddiwyd fy nghnawd gan bryfed a budreddi; crawniodd fy nghroen, ac yna torri allan.
5לבש בשרי רמה וגיש עפר עורי רגע וימאס׃
6 Y mae fy nyddiau'n gyflymach na gwennol gwehydd; darfyddant fel edafedd yn dirwyn i ben.
6ימי קלו מני ארג ויכלו באפס תקוה׃
7 "Cofia mai awel o wynt yw fy hoedl; ni w�l fy llygaid ddaioni eto.
7זכר כי רוח חיי לא תשוב עיני לראות טוב׃
8 Y llygad sy'n edrych arnaf, ni'm gw�l; ar amrantiad ni fyddaf ar gael iti.
8לא תשורני עין ראי עיניך בי ואינני׃
9 Fel y cilia'r cwmwl a diflannu, felly'r sawl sy'n mynd i Sheol, ni ddychwel oddi yno;
9כלה ענן וילך כן יורד שאול לא יעלה׃
10 ni ddaw eto i'w gartref, ac nid edwyn ei le mohono mwy.
10לא ישוב עוד לביתו ולא יכירנו עוד מקמו׃
11 "Ond myfi, nid ataliaf fy ngeiriau; llefaraf yng nghyfyngder fy ysbryd, cwynaf yn chwerwder fy enaid.
11גם אני לא אחשך פי אדברה בצר רוחי אשיחה במר נפשי׃
12 Ai'r m�r ydwyf, neu'r ddraig, gan dy fod yn gosod gwyliwr arnaf?
12הים אני אם תנין כי תשים עלי משמר׃
13 "Pan ddywedaf, 'Fy ngwely a rydd gysur imi; fy ngorweddfa a liniara fy nghwyn',
13כי אמרתי תנחמני ערשי ישא בשיחי משכבי׃
14 yr wyt yn fy nychryn � breuddwydion, ac yn f'arswydo � gweledigaethau.
14וחתתני בחלמות ומחזינות תבעתני׃
15 Gwell fyddai gennyf fy nhagu, a marw yn hytrach na goddef fy mhoen.
15ותבחר מחנק נפשי מות מעצמותי׃
16 Rwy'n ddiobaith; ni ddymunaf fyw am amser maith. Gad lonydd imi, canys y mae fy nyddiau fel anadl.
16מאסתי לא לעלם אחיה חדל ממני כי הבל ימי׃
17 Beth yw meidrolyn i ti ei ystyried, ac iti roi cymaint o sylw iddo?
17מה אנוש כי תגדלנו וכי תשית אליו לבך׃
18 Yr wyt yn ymweld ag ef bob bore, ac yn ei brofi bob eiliad.
18ותפקדנו לבקרים לרגעים תבחננו׃
19 Pa bryd y peidi ag edrych arnaf, ac y rhoi lonydd imi lyncu fy mhoeri?
19כמה לא תשעה ממני לא תרפני עד בלעי רקי׃
20 Os pechais, beth a wneuthum i ti, O wyliwr dynolryw? Pam y cymeraist fi'n nod, nes fy mod yn faich i mi fy hun?
20חטאתי מה אפעל לך נצר האדם למה שמתני למפגע לך ואהיה עלי למשא׃
21 Pam na faddeui fy nhrosedd a symud fy mai? Yn awr rwy'n gorwedd yn y llwch, ac er i ti chwilio amdanaf, ni fyddaf ar gael."
21ומה לא תשא פשעי ותעביר את עוני כי עתה לעפר אשכב ושחרתני ואינני׃