Welsh

Hebrew: Modern

Psalms

1

1 Gwyn ei fyd y sawl nad yw'n dilyn cyngor y drygionus nac yn ymdroi hyd ffordd pechaduriaid nac yn eistedd ar sedd gwatwarwyr,
1אשרי האיש אשר לא הלך בעצת רשעים ובדרך חטאים לא עמד ובמושב לצים לא ישב׃
2 ond sy'n cael ei hyfrydwch yng nghyfraith yr ARGLWYDD ac yn myfyrio yn ei gyfraith ef ddydd a nos.
2כי אם בתורת יהוה חפצו ובתורתו יהגה יומם ולילה׃
3 Y mae fel pren wedi ei blannu wrth ffrydiau du373?r ac yn rhoi ffrwyth yn ei dymor, a'i ddeilen heb fod yn gwywo. Beth bynnag a wna, fe lwydda.
3והיה כעץ שתול על פלגי מים אשר פריו יתן בעתו ועלהו לא יבול וכל אשר יעשה יצליח׃
4 Nid felly y bydd y drygionus, ond fel us yn cael ei yrru gan wynt.
4לא כן הרשעים כי אם כמץ אשר תדפנו רוח׃
5 Am hynny, ni saif y drygionus yn y farn na phechaduriaid yng nghynulleidfa'r cyfiawn.
5על כן לא יקמו רשעים במשפט וחטאים בעדת צדיקים׃
6 Y mae'r ARGLWYDD yn gwylio ffordd y cyfiawn, ond y mae ffordd y drygionus yn darfod.
6כי יודע יהוה דרך צדיקים ודרך רשעים תאבד׃