Welsh

Hebrew: Modern

Psalms

11

1 1 I'r Cyfarwyddwr: i Ddafydd.0 Yn yr ARGLWYDD y cefais loches; sut y gallwch ddweud wrthyf, "Ffo fel aderyn i'r mynydd,
1למנצח לדוד ביהוה חסיתי איך תאמרו לנפשי נודו הרכם צפור׃
2 oherwydd y mae'r drygionus yn plygu'r bwa ac yn gosod eu saethau yn y llinyn i saethu yn y tywyllwch at yr uniawn"?
2כי הנה הרשעים ידרכון קשת כוננו חצם על יתר לירות במו אפל לישרי לב׃
3 Os dinistrir y sylfeini, beth a wna'r cyfiawn?
3כי השתות יהרסון צדיק מה פעל׃
4 Y mae'r ARGLWYDD yn ei deml sanctaidd, a gorsedd yr ARGLWYDD yn y nefoedd; y mae ei lygaid yn edrych ar y ddynolryw, a'i olygon yn ei phrofi.
4יהוה בהיכל קדשו יהוה בשמים כסאו עיניו יחזו עפעפיו יבחנו בני אדם׃
5 Profa'r ARGLWYDD y cyfiawn a'r drygionus, a chas ganddo'r sawl sy'n caru trais.
5יהוה צדיק יבחן ורשע ואהב חמס שנאה נפשו׃
6 Y mae'n glawio marwor tanllyd a brwmstan ar y drygionus; gwynt deifiol fydd eu rhan.
6ימטר על רשעים פחים אש וגפרית ורוח זלעפות מנת כוסם׃
7 Oherwydd y mae'r ARGLWYDD yn gyfiawn ac yn caru cyfiawnder, a'r uniawn sy'n gweld ei wyneb.
7כי צדיק יהוה צדקות אהב ישר יחזו פנימו׃