Welsh

Hebrew: Modern

Psalms

17

1 1 Gweddi. I Ddafydd.0 Gwrando, ARGLWYDD, gri am gyfiawnder; rho sylw i'm llef a gwrandawiad i'm gweddi oddi ar wefusau didwyll.
1תפלה לדוד שמעה יהוה צדק הקשיבה רנתי האזינה תפלתי בלא שפתי מרמה׃
2 Doed fy marn oddi wrthyt ti, edryched dy lygaid ar yr hyn sy'n iawn.
2מלפניך משפטי יצא עיניך תחזינה מישרים׃
3 Profaist fy nghalon a'm gwylio yn y nos, chwiliaist fi ond heb gael drygioni ynof.
3בחנת לבי פקדת לילה צרפתני בל תמצא זמתי בל יעבר פי׃
4 Ni throseddodd fy ngenau fel y gwna eraill, ond fe gedwais eiriau dy wefusau.
4לפעלות אדם בדבר שפתיך אני שמרתי ארחות פריץ׃
5 Ar lwybrau'r anufudd byddai fy nghamau'n pallu, ond ar dy lwybrau di nid yw fy nhraed yn methu.
5תמך אשרי במעגלותיך בל נמוטו פעמי׃
6 Gwaeddaf arnat ti am dy fod yn f'ateb, O Dduw; tro dy glust ataf, gwrando fy ngeiriau.
6אני קראתיך כי תענני אל הט אזנך לי שמע אמרתי׃
7 Dangos dy ffyddlondeb rhyfeddol, ti, sy'n gwaredu �'th ddeheulaw y rhai sy'n llochesu ynot rhag eu gwrthwynebwyr.
7הפלה חסדיך מושיע חוסים ממתקוממים בימינך׃
8 Cadw fi fel cannwyll dy lygad, cuddia fi dan gysgod dy adenydd
8שמרני כאישון בת עין בצל כנפיך תסתירני׃
9 rhag y drygionus sy'n fy nistrywio, y gelynion sydd yn eu gwanc yn f'amgylchu.
9מפני רשעים זו שדוני איבי בנפש יקיפו עלי׃
10 Maent wedi mygu tosturi, y mae eu genau'n llefaru balchder;
10חלבמו סגרו פימו דברו בגאות׃
11 y maent ar fy sodlau ac ar gau amdanaf, wedi gosod eu bryd ar fy mwrw i'r llawr;
11אשרינו עתה סבבוני עיניהם ישיתו לנטות בארץ׃
12 y maent fel llew yn barod i larpio, fel llew ifanc yn llechu yn ei guddfan.
12דמינו כאריה יכסוף לטרוף וככפיר ישב במסתרים׃
13 Cyfod, ARGLWYDD, saf yn eu herbyn a'u bwrw i lawr! �'th gleddyf gwared fy mywyd rhag y drygionus;
13קומה יהוה קדמה פניו הכריעהו פלטה נפשי מרשע חרבך׃
14 �'th law, ARGLWYDD, gwna ddiwedd arnynt, difa hwy o'u rhan yng nghanol bywyd. Llanwer eu bol �'r hyn sydd gennyt ar eu cyfer, bydded i'w plant gael digon, a chadw gweddill i'w babanod!
14ממתים ידך יהוה ממתים מחלד חלקם בחיים וצפינך תמלא בטנם ישבעו בנים והניחו יתרם לעולליהם׃
15 Ond byddaf fi yn fy nghyfiawnder yn gweld dy wyneb; pan ddeffroaf, digonir fi o weld dy wedd.
15אני בצדק אחזה פניך אשבעה בהקיץ תמונתך׃