Welsh

Hebrew: Modern

Psalms

20

1 1 I'r Cyfarwyddwr: Salm. I Ddafydd.0 Bydded i'r ARGLWYDD dy ateb yn nydd cyfyngder, ac i enw Duw Jacob dy amddiffyn.
1למנצח מזמור לדוד יענך יהוה ביום צרה ישגבך שם אלהי יעקב׃
2 Bydded iddo anfon cymorth i ti o'r cysegr, a'th gynnal o Seion.
2ישלח עזרך מקדש ומציון יסעדך׃
3 Bydded iddo gofio dy holl offrymau, ac edrych yn ffafriol ar dy boethoffrymau. Sela.
3יזכר כל מנחתך ועולתך ידשנה סלה׃
4 Bydded iddo roi i ti dy ddymuniad, a chyflawni dy holl gynlluniau.
4יתן לך כלבבך וכל עצתך ימלא׃
5 Bydded inni orfoleddu yn dy waredigaeth, a chodi banerau yn enw ein Duw. Bydded i'r ARGLWYDD roi iti'r cyfan a ddeisyfi.
5נרננה בישועתך ובשם אלהינו נדגל ימלא יהוה כל משאלותיך׃
6 Yn awr fe wn fod yr ARGLWYDD yn gwaredu ei eneiniog; y mae'n ei ateb o'i nefoedd sanctaidd trwy waredu'n nerthol �'i ddeheulaw.
6עתה ידעתי כי הושיע יהוה משיחו יענהו משמי קדשו בגברות ישע ימינו׃
7 Ymffrostia rhai mewn cerbydau ac eraill mewn meirch, ond fe ymffrostiwn ni yn enw'r ARGLWYDD ein Duw.
7אלה ברכב ואלה בסוסים ואנחנו בשם יהוה אלהינו נזכיר׃
8 Y maent hwy'n crynu ac yn syrthio, ond yr ydym ni'n codi ac yn sefyll i fyny.
8המה כרעו ונפלו ואנחנו קמנו ונתעודד׃
9 O ARGLWYDD, gwareda'r brenin; ateb ni pan fyddwn yn galw.
9יהוה הושיעה המלך יעננו ביום קראנו׃