1 1 Salm. I Ddafydd.0 Rhowch i'r ARGLWYDD, fodau nefol, rhowch i'r ARGLWYDD ogoniant a nerth.
1מזמור לדוד הבו ליהוה בני אלים הבו ליהוה כבוד ועז׃
2 Rhowch i'r ARGLWYDD ogoniant ei enw; ymgrymwch i'r ARGLWYDD yn ysblander ei sancteiddrwydd.
2הבו ליהוה כבוד שמו השתחוו ליהוה בהדרת קדש׃
3 Y mae llais yr ARGLWYDD yn uwch na'r dyfroedd; Duw'r gogoniant sy'n taranu; y mae'r ARGLWYDD yn uwch na'r dyfroedd cryfion!
3קול יהוה על המים אל הכבוד הרעים יהוה על מים רבים׃
4 Y mae llais yr ARGLWYDD yn nerthol, y mae llais yr ARGLWYDD yn ogoneddus.
4קול יהוה בכח קול יהוה בהדר׃
5 Y mae llais yr ARGLWYDD yn dryllio cedrwydd; dryllia'r ARGLWYDD gedrwydd Lebanon.
5קול יהוה שבר ארזים וישבר יהוה את ארזי הלבנון׃
6 Gwna i Lebanon lamu fel llo, a Sirion fel ych ifanc.
6וירקידם כמו עגל לבנון ושרין כמו בן ראמים׃
7 Y mae llais yr ARGLWYDD yn fflachio'n fflamau t�n.
7קול יהוה חצב להבות אש׃
8 Y mae llais yr ARGLWYDD yn gwneud i'r anialwch grynu; gwna'r ARGLWYDD i anialwch Cades grynu.
8קול יהוה יחיל מדבר יחיל יהוה מדבר קדש׃
9 Y mae llais yr ARGLWYDD yn gwneud i'r ewigod lydnu, ac yn prysuro geni'r llwdn; yn ei deml dywed pawb, "Gogoniant."
9קול יהוה יחולל אילות ויחשף יערות ובהיכלו כלו אמר כבוד׃
10 Y mae'r ARGLWYDD wedi ei orseddu uwch y llifeiriant, y mae'r ARGLWYDD wedi ei orseddu'n frenin byth.
10יהוה למבול ישב וישב יהוה מלך לעולם׃
11 Rhodded yr ARGLWYDD nerth i'w bobl! Bendithied yr ARGLWYDD ei bobl � heddwch!
11יהוה עז לעמו יתן יהוה יברך את עמו בשלום׃