1 1 I Ddafydd.0 Na fydd yn ddig wrth y rhai drygionus, na chenfigennu wrth y rhai sy'n gwneud drwg.
1לדוד אל תתחר במרעים אל תקנא בעשי עולה׃
2 Oherwydd fe wywant yn sydyn fel glaswellt, a chrino fel glesni gwanwyn.
2כי כחציר מהרה ימלו וכירק דשא יבולון׃
3 Ymddiried yn yr ARGLWYDD a gwna ddaioni, iti gael byw yn y wlad mewn cymdeithas ddiogel.
3בטח ביהוה ועשה טוב שכן ארץ ורעה אמונה׃
4 Ymhyfryda yn yr ARGLWYDD, a rhydd iti ddeisyfiad dy galon.
4והתענג על יהוה ויתן לך משאלת לבך׃
5 Rho dy ffyrdd i'r ARGLWYDD; ymddiried ynddo, ac fe weithreda.
5גול על יהוה דרכך ובטח עליו והוא יעשה׃
6 Fe wna i'th gywirdeb ddisgleirio fel goleuni a'th uniondeb fel haul canol dydd.
6והוציא כאור צדקך ומשפטך כצהרים׃
7 Disgwyl yn dawel am yr ARGLWYDD, aros yn amyneddgar amdano; paid � bod yn ddig wrth yr un sy'n llwyddo, y gu373?r sy'n gwneud cynllwynion.
7דום ליהוה והתחולל לו אל תתחר במצליח דרכו באיש עשה מזמות׃
8 Paid � digio; rho'r gorau i lid; paid � bod yn ddig, ni ddaw ond drwg o hynny.
8הרף מאף ועזב חמה אל תתחר אך להרע׃
9 Oherwydd dinistrir y rhai drwg, ond bydd y rhai sy'n gobeithio yn yr ARGLWYDD yn etifeddu'r tir.
9כי מרעים יכרתון וקוי יהוה המה יירשו ארץ׃
10 Ymhen ychydig eto, ni fydd y drygionus; er iti edrych yn ddyfal am ei le, ni fydd ar gael.
10ועוד מעט ואין רשע והתבוננת על מקומו ואיננו׃
11 Ond bydd y gostyngedig yn meddiannu'r tir ac yn mwynhau heddwch llawn.
11וענוים יירשו ארץ והתענגו על רב שלום׃
12 Y mae'r drygionus yn cynllwyn yn erbyn y cyfiawn, ac yn ysgyrnygu ei ddannedd arno;
12זמם רשע לצדיק וחרק עליו שניו׃
13 ond y mae'r Arglwydd yn chwerthin am ei ben, oherwydd gu373?yr fod ei amser yn dyfod.
13אדני ישחק לו כי ראה כי יבא יומו׃
14 Y mae'r drygionus yn chwifio cleddyf ac yn plygu eu bwa, i ddarostwng y tlawd a'r anghenus, ac i ladd yr union ei gerddediad;
14חרב פתחו רשעים ודרכו קשתם להפיל עני ואביון לטבוח ישרי דרך׃
15 ond fe drywana eu cleddyf i'w calon eu hunain, a thorrir eu bw�u.
15חרבם תבוא בלבם וקשתותם תשברנה׃
16 Gwell yw'r ychydig sydd gan y cyfiawn na chyfoeth mawr y drygionus;
16טוב מעט לצדיק מהמון רשעים רבים׃
17 oherwydd torrir nerth y drygionus, ond bydd yr ARGLWYDD yn cynnal y cyfiawn.
17כי זרועות רשעים תשברנה וסומך צדיקים יהוה׃
18 Y mae'r ARGLWYDD yn gwylio dros ddyddiau'r difeius, ac fe bery eu hetifeddiaeth am byth.
18יודע יהוה ימי תמימם ונחלתם לעולם תהיה׃
19 Ni ddaw cywilydd arnynt mewn cyfnod drwg, a bydd ganddynt ddigon mewn dyddiau o newyn.
19לא יבשו בעת רעה ובימי רעבון ישבעו׃
20 Oherwydd fe dderfydd am y drygionus; bydd gelynion yr ARGLWYDD fel cynnud mewn t�n, pob un ohonynt yn diflannu mewn mwg.
20כי רשעים יאבדו ואיבי יהוה כיקר כרים כלו בעשן כלו׃
21 Y mae'r drygionus yn benthyca heb dalu'n �l, ond y cyfiawn yn rhoddwr trugarog.
21לוה רשע ולא ישלם וצדיק חונן ונותן׃
22 Bydd y rhai a fendithiwyd gan yr ARGLWYDD yn etifeddu'r tir, ond fe dorrir ymaith y rhai a felltithiwyd ganddo.
22כי מברכיו יירשו ארץ ומקלליו יכרתו׃
23 Yr ARGLWYDD sy'n cyfeirio camau'r difeius, y mae'n ei gynnal ac yn ymhyfrydu yn ei gerddediad;
23מיהוה מצעדי גבר כוננו ודרכו יחפץ׃
24 er iddo syrthio, nis bwrir i'r llawr, oherwydd y mae'r ARGLWYDD yn ei gynnal �'i law.
24כי יפל לא יוטל כי יהוה סומך ידו׃
25 B�m ifanc, ac yn awr yr wyf yn hen, ond ni welais y cyfiawn wedi ei adael, na'i blant yn cardota am fara;
25נער הייתי גם זקנתי ולא ראיתי צדיק נעזב וזרעו מבקש לחם׃
26 y mae bob amser yn drugarog ac yn rhoi benthyg, a'i blant yn fendith.
26כל היום חונן ומלוה וזרעו לברכה׃
27 Tro oddi wrth ddrwg a gwna dda, a chei gartref diogel am byth,
27סור מרע ועשה טוב ושכן לעולם׃
28 oherwydd y mae'r ARGLWYDD yn caru barn, ac nid yw'n gadael ei ffyddloniaid; ond difethir yr anghyfiawn am byth, a thorrir ymaith blant y drygionus.
28כי יהוה אהב משפט ולא יעזב את חסידיו לעולם נשמרו וזרע רשעים נכרת׃
29 Y mae'r cyfiawn yn etifeddu'r tir, ac yn cartrefu ynddo am byth.
29צדיקים יירשו ארץ וישכנו לעד עליה׃
30 Y mae genau'r cyfiawn yn llefaru doethineb, a'i dafod yn mynegi barn;
30פי צדיק יהגה חכמה ולשונו תדבר משפט׃
31 y mae cyfraith ei Dduw yn ei galon, ac nid yw ei gamau'n methu.
31תורת אלהיו בלבו לא תמעד אשריו׃
32 Y mae'r drygionus yn gwylio'r cyfiawn ac yn ceisio cyfle i'w ladd;
32צופה רשע לצדיק ומבקש להמיתו׃
33 ond nid yw'r ARGLWYDD yn ei adael yn ei law, nac yn caniat�u ei gondemnio pan fernir ef.
33יהוה לא יעזבנו בידו ולא ירשיענו בהשפטו׃
34 Disgwyl wrth yr ARGLWYDD a glu375?n wrth ei ffordd, ac fe'th ddyrchafa i etifeddu'r tir, a chei weld y drygionus yn cael eu torri ymaith.
34קוה אל יהוה ושמר דרכו וירוממך לרשת ארץ בהכרת רשעים תראה׃
35 Gwelais y drygionus yn ddidostur, yn taflu fel blaguryn iraidd;
35ראיתי רשע עריץ ומתערה כאזרח רענן׃
36 ond pan euthum heibio, nid oedd dim ohono; er imi chwilio amdano, nid oedd i'w gael.
36ויעבר והנה איננו ואבקשהו ולא נמצא׃
37 Sylwa ar y difeius, ac edrych ar yr uniawn; oherwydd y mae disgynyddion gan yr heddychlon.
37שמר תם וראה ישר כי אחרית לאיש שלום׃
38 Difethir y gwrthryfelwyr i gyd, a dinistrir disgynyddion y drygionus.
38ופשעים נשמדו יחדו אחרית רשעים נכרתה׃
39 Ond daw gwaredigaeth y cyfiawn oddi wrth yr ARGLWYDD; ef yw eu hamddiffyn yn amser adfyd.
39ותשועת צדיקים מיהוה מעוזם בעת צרה׃
40 Bydd yr ARGLWYDD yn eu cynorthwyo ac yn eu harbed; bydd yn eu harbed rhag y drygionus ac yn eu hachub, am iddynt lochesu ynddo.
40ויעזרם יהוה ויפלטם יפלטם מרשעים ויושיעם כי חסו בו׃