1 Dyma bobl y dalaith a ddychwelodd o gaethiwed, o'r gaethglud a ddygwyd i Fabilon gan Nebuchadnesar brenin Babilon; daethant yn �l i Jerwsalem ac i Jwda, pob un i'w dref ei hun.
2 Gyda Sorobabel yr oedd Jesua, Nehemeia, Seraia, Reelaia, Mordecai, Bilsan, Mispar, Bigfai, Rehum a Baana. Rhestr pobl Israel:
3 teulu Paros, dwy fil un cant saith deg a dau;
4 teulu Seffateia, tri chant saith deg a dau;
5 teulu Ara, saith gant saith deg a phump;
6 teulu Pahath-moab, hynny yw teuluoedd Jesua a Joab, dwy fil wyth gant a deuddeg;
7 teulu Elam, mil dau gant pum deg a phedwar;
8 teulu Sattu, naw cant pedwar deg a phump;
9 teulu Saccai, saith gant chwe deg;
10 teulu Bani, chwe chant pedwar deg a dau;
11 teulu Bebai, chwe chant dau ddeg a thri;
12 teulu Asgad, mil dau gant dau ddeg a dau;
13 teulu Adonicam, chwe chant chwe deg a chwech;
14 teulu Bigfai, dwy fil pum deg a chwech;
15 teulu Adin, pedwar cant pum deg a phedwar;
16 teulu Ater, hynny yw Heseceia, naw deg ac wyth;
17 teulu Besai, tri chant dau ddeg a thri;
18 teulu Jora, cant a deuddeg;
19 teulu Hasum, dau gant dau ddeg a thri;
20 teulu Gibbar, naw deg a phump;
21 teulu Bethlehem, cant dau ddeg a thri.
22 Gwu375?r Netoffa, pum deg a chwech;
23 gwu375?r Anathoth, cant dau ddeg ac wyth.
24 Teulu Asmafeth, pedwar deg a dau;
25 teulu Ciriath-jearim a Ceffira a Beeroth, saith gant pedwar deg a thri;
26 teulu Rama a Geba, chwe chant dau ddeg ac un.
27 Gwu375?r Michmas, cant dau ddeg a dau;
28 gwu375?r Bethel ac Ai, dau gant dau ddeg a thri.
29 Teulu Nebo, pum deg a dau;
30 teulu Magbis, cant pum deg a phedwar;
31 teulu'r Elam arall, mil dau gant pum deg a phedwar;
32 teulu Harim, tri chant dau ddeg;
33 teulu Lod a Hadid ac Ono, saith gant dau ddeg a phump;
34 teulu Jericho, tri chant pedwar deg a phump;
35 teulu Senaa, tair mil chwe chant tri deg.
36 Yr offeiriaid: teulu Jedeia, o linach Jesua, naw cant saith deg a thri;
37 teulu Immer, mil pum deg a dau;
38 teulu Pasur, mil dau gant pedwar deg a saith;
39 teulu Harim, mil un deg a saith.
40 Y Lefiaid: teulu Jesua a Cadmiel, o deulu Hodafia, saith deg a phedwar.
41 Y cantorion: teulu Asaff, cant dau ddeg ac wyth.
42 Y porthorion: teuluoedd Salum, Ater, Talmon, Accub, Hatita, a Sobai, cant tri deg a naw i gyd.
43 Gweision y deml: teuluoedd Siha, Hasuffa, Tabbaoth,
45 Lebana, Hagaba, Accub,
48 Resin, Necoda, Gassam,
50 Asna, Meunim, Neffusim,
51 Bacbuc, Hacuffa, Harhur,
52 Basluth, Mehida, Harsa,
55 Disgynyddion gweision Solomon: teuluoedd Sotai, Soffereth, Peruda,
57 Seffateia, Hattil, Pochereth o Sebaim, ac Ami.
58 Cyfanswm gweision y deml a disgynyddion gweision Solomon oedd tri chant naw deg a dau.
59 Daeth y rhai canlynol i fyny o Tel-mela, Tel-harsa, Cerub, Adan ac Immer, ond ni fedrent brofi mai o Israel yr oedd eu llinach a'u tras:
60 teuluoedd Delaia, Tobeia, a Necoda, chwe chant pum deg a dau.
61 Ac o blith yr offeiriaid: teuluoedd Hobaia, Cos, a'r Barsilai a briododd un o ferched Barsilai o Gilead a chymryd ei enw.
62 Chwiliodd y rhain am gofnod o'u hachau, ond methu ei gael; felly cawsant eu hatal o'r offeiriadaeth,
63 a gwaharddodd y llywodraethwr iddynt fwyta'r pethau mwyaf cysegredig nes y ceid offeiriad i ymgynghori �'r Wrim a'r Twmim.
64 Nifer y fintai gyfan oedd pedwar deg a dwy o filoedd tri chant chwe deg,
65 heblaw eu gweision a'u morynion, oedd yn saith mil tri chant tri deg a saith. Yr oedd ganddynt hefyd ddau gant o gantorion a chantoresau.
66 Yr oedd ganddynt saith gant tri deg a chwech o geffylau, dau gant pedwar deg a phump o fulod,
67 pedwar cant tri deg a phump o gamelod, a chwe mil saith gant dau ddeg o asynnod.
68 Pan ddaethant i du375?'r ARGLWYDD yn Jerwsalem, ymrwymodd rhai o'r pennau-teuluoedd o'u gwirfodd i ailgodi tu375? Dduw ar ei hen sylfaen yn �l eu gallu.
69 Rhoesant i drysorfa'r gwaith chwe deg ac un o filoedd o ddracmonau aur a phum mil mina o arian a chant o wisgoedd offeiriadol.
70 Cartrefodd yr offeiriaid a'r Lefiaid a rhai o'r bobl yn Jerwsalem, a'r cantorion, y porthorion a gweision y deml yn y cyffiniau, a'r Israeliaid eraill yn eu trefi eu hunain.