Welsh

Koya

Ezra

3

1 Pan ddaeth y seithfed mis, a'r Israeliaid erbyn hyn yn eu trefi, ymgasglodd y bobl fel un gu373?r i Jerwsalem.
2 A dechreuodd Jesua fab Josadac a'i gyd-offeiriaid, a Sorobabel fab Salathiel a'i frodyr, ailadeiladu allor Duw Israel er mwyn aberthu poethoffrymau arni, fel y mae'n ysgrifenedig yng nghyfraith Moses gu373?r Duw.
3 Er eu bod yn ofni'r bobloedd oddi amgylch, codasant yr allor yn ei lle, ac aberthu arni boethoffrymau i'r ARGLWYDD fore a hwyr.
4 Yr oeddent yn dathlu gu373?yl y Pebyll fel yr oedd yn ysgrifenedig, ac yn aberthu'n ddyddiol y nifer priodol o boethoffrymau ar gyfer pob dydd.
5 Ar �l hyn yr oeddent yn aberthu'r poethoffrymau cyson, a'r rhai ar gyfer y newydd-loerau a holl wyliau penodedig yr ARGLWYDD, a'r holl aberthau a roddid yn wirfoddol i'r ARGLWYDD.
6 Dechreusant aberthu poethoffrymau i'r ARGLWYDD o ddydd cyntaf y seithfed mis, er nad oedd sylfaen teml yr ARGLWYDD wedi ei gosod.
7 Yna rhoesant arian i'r seiri meini a'r seiri coed, a bwyd a diod ac olew i'r Sidoniaid a'r Tyriaid i ddod � chedrwydd dros y m�r o Lebanon i Jopa trwy ganiat�d Cyrus brenin Persia.
8 Yn ail fis yr ail flwyddyn wedi iddynt ddychwelyd i du375? Dduw yn Jerwsalem, dechreuodd Sorobabel fab Salathiel a Jesua fab Josadac ar y gwaith gyda'r gweddill o'u brodyr, a'r offeiriaid a'r Lefiaid, a phawb oedd wedi dychwelyd o'r gaethglud i Jerwsalem; a phenodwyd y Lefiaid oedd dros ugain mlwydd oed i arolygu gwaith tu375?'r ARGLWYDD.
9 Jesua a'i feibion a'i frodyr oedd yn gyfrifol am arolygu'r gweithwyr yn nhu375? Dduw, a chyda hwy yr oedd y Jwdead Cadmiel a'i feibion, a meibion Henadad a'u meibion hwythau, a'u brodyr y Lefiaid.
10 Wedi i'r adeiladwyr osod sylfaen teml yr ARGLWYDD, safodd yr offeiriaid yn eu gwisgoedd gyda thrwmpedau, a'r Lefiaid, meibion Asaff, gyda symbalau i foliannu'r ARGLWYDD yn �l gorchymyn Dafydd brenin Israel.
11 Yr oeddent yn ateb ei gilydd mewn mawl a diolch i'r ARGLWYDD: "Y mae ef yn dda, a'i gariad at Israel yn parhau byth." Yna bloeddiodd yr holl bobl yn uchel mewn moliant i'r ARGLWYDD am fod sylfaen tu375?'r ARGLWYDD wedi ei gosod.
12 Yr oedd llawer o'r offeiriaid a'r Lefiaid a'r pennau-teuluoedd, a oedd yn ddigon hen i fod wedi gweld y tu375? cyntaf, yn wylo'n hidl pan welsant osod sylfaen y tu375? hwn; ond yr oedd llawer yn bloeddio'n uchel o lawenydd.
13 Ac ni fedrai neb wahaniaethu rhwng su373?n y llawenydd a su373?n y bobl yn wylo, am fod y bobl yn gweiddi mor uchel nes bod y su373?n i'w glywed o bell.