1 Yna atebodd Soffar y Naamathiad:
2 "Yn awr, fe'm cynhyrfir i ateb; am hynny atebaf ar frys.
3 Clywais gerydd sy'n fy nifr�o; y mae cynnwrf fy meddwl yn fy ngorfodi i ateb.
4 Onid wyt yn gwybod hyn? o'r dechrau, er pan osodwyd pobl ar y ddaear,
5 byr yw gorfoledd y drygionus, ac am gyfnod yn unig y pery llawenydd yr annuwiol.
6 Er i'w falchder esgyn i'r uchelder, ac i'w ben gyffwrdd �'r cymylau,
7 eto derfydd am byth fel ei dom ei hun, a dywed y rhai a'i gwelodd, 'Ple mae ef?'
8 Eheda ymaith fel breuddwyd, ac ni fydd yn bod; fe'i hymlidir fel gweledigaeth nos.
9 Y llygad a'i gwelodd, ni w�l mohono mwy, ac nid edrych arno yn ei le.
10 Cais ei blant ffafr y tlawd, a dychwel ei ddwylo ei gyfoeth.
11 Y mae ei esgyrn sy'n llawn egni yn gorwedd gydag ef yn y llwch.
12 "Er i ddrygioni droi'n felys yn ei enau, a'i fod yntau am ei gadw dan ei dafod,
13 ac yn anfodlon ei ollwng, ond yn ei ddal dan daflod ei enau,
14 eto y mae ei fwyd yn ei gylla yn troi'n wenwyn asb iddo.
15 Llynca gyfoeth, ac yna'i chwydu; bydd Duw'n ei dynnu allan o'i fol.
16 Sugna wenwyn yr asb, ac yna fe'i lleddir gan golyn gwiber.
17 Ni chaiff weld ffrydiau o olew, nac afonydd o f�l a llaeth.
18 Dychwel ffrwyth ei lafur heb iddo elwa arno; er cymaint ei enillion, ni chaiff eu mwynhau.
19 Oherwydd gorthrymodd y tlawd a'i adael yn ddiymgeledd; cipiodd du375? nas adeiladodd.
20 Ni u373?yr sut i dawelu ei chwant, ac ni ddianc dim rhag ei wanc.
21 Nid oes gweddill iddo'i fwyta, ac felly nid oes parhad i'w ffyniant.
22 Wedi digoni ei chwant, �'n gyfyng arno; daw holl rym gofid arno.
23 Pan fydd ar fedr llenwi ei fol, gyrrir arno angerdd llid, a'i dywallt i lawr i'w berfedd.
24 "Fe ffy rhag arfau haearn, ond fe'i trywenir gan y saeth bres.
25 Tynnir hi allan o'i gorff, y blaen gloyw allan o'i fustl; daw dychrynfeydd arno.
26 Tywyllwch llwyr a gadwyd ar gyfer ei drysorau; ysir ef gan d�n nad oes raid ei chwythu; difethir yr hyn a adawyd yn ei babell.
27 Dadlenna'r nefoedd ei gamwedd, a chyfyd y ddaear yn ei erbyn.
28 Bydd i'r dilyw ddwyn ymaith ei du375?, a llifogydd, yn nydd ei lid.
29 Dyma dynged yr annuwiol oddi wrth Dduw, a'r etifeddiaeth a osododd iddo."