Welsh

Koya

Job

21

1 Atebodd Job:
2 "Gwrandewch eto ar fy ngeiriau; felly y rhowch gysur imi.
3 Goddefwch i mi lefaru, ac wedi imi lefaru, cewch watwar.
4 Oni chaf ddweud fy nghwyn wrth rywun? a pham na chaf fod yn ddiamynedd?
5 Edrychwch arnaf, a synnwch, a rhowch eich llaw ar eich genau.
6 Pan ystyriaf hyn, rwy'n arswydo, a daw cryndod i'm cnawd.
7 "Pam y caiff yr annuwiol fyw, a heneiddio'n gadarnach eu nerth?
8 Y mae eu plant yn byw o'u cwmpas, a'u teulu yn eu hymyl.
9 Y mae eu tylwyth yn ddiogel oddi wrth ddychryn, ac ni ddaw dyrnod Duw arnynt.
10 Y mae eu tarw'n cyfloi yn ddi-feth, a'u buwch yn bwrw lloi heb erthylu.
11 Caiff eu plantos grwydro'n rhydd fel defaid, a dawnsia'u plant yn hapus.
12 Canant gyda'r dympan a'r delyn, a byddant lawen wrth su373?n y pibau.
13 Treuliant eu dyddiau mewn esmwythyd, a disgynnant i Sheol mewn heddwch.
14 Dywedant wrth Dduw, 'Cilia oddi wrthym; ni fynnwn wybod dy ffyrdd.
15 Pwy yw'r Hollalluog i ni ei wasanaethu, a pha fantais sydd inni os gwedd�wn arno?'
16 "Ai yn eu dwylo'u hunain y mae eu ffyniant? Pell yw cyngor y drygionus oddi wrth Dduw.
17 "Pa mor aml y diffoddir lamp yr annuwiol, ac y daw eu dinistr arnynt hwy, ac y tynghedir hwy i boen gan ei lid?
18 A ydynt hwy fel gwelltyn o flaen y gwynt, neu fel us a ddygir ymaith gan y storm?
19 A geidw Duw ddinistr rhiant i'w blant? Na, taled iddo ef ei hun, a'i ddarostwng.
20 Bydded i'w lygaid ei hun weld ei ddinistr, ac yfed o lid yr Hollalluog.
21 Pa ddiddordeb fydd ganddo yn ei deulu ar ei �l, pan fydd nifer ei fisoedd wedi darfod?
22 "A ellir dysgu gwybodaeth i Dduw? Onid ef sy'n barnu'r beilchion?
23 "Bydd un farw yn ei lwyddiant, mewn llonyddwch a thawelwch,
24 ei lwynau yn llawn braster, a m�r ei esgyrn yn iraidd.
25 Bydd arall farw yn chwerw ei ysbryd, heb brofi daioni.
26 Ond gorweddant gyda'i gilydd yn y pridd, a'r pryfed yn amdo drostynt.
27 "Yn awr gwn eich meddyliau, a'r bwriadau sydd gennych i'm drygu;
28 oherwydd dywedwch, 'Ble'r aeth tu375?'r pendefig? a phle mae trigfannau'r annuwiol?'
29 Oni ofynnwch i'r rhai sy'n teithio'r ffordd? Onid ydych yn adnabod yr arwyddion,
30 yr arbedir y drygionus rhag dydd dinistr, ac y gwaredir ef rhag dydd digofaint?
31 Pwy a'i cyhudda yn ei wyneb? Pwy a d�l yn �l iddo am yr hyn a wnaeth?
32 Pan ddygir ef i'r bedd, cedwir gwyliadwriaeth ar ei feddrod.
33 Y mae tywyrch y fynwent yn dyner arno; bydd gorymdaith yn dilyn ar ei �l, a thyrfa niferus yn cerdded o'i flaen.
34 Sut, felly, y mae eich gwagedd yn gysur i mi? Nid oes ond twyll yn eich atebion."