1 Y mae gwyth�en i arian, a gwely i'r aur a burir.
2 Tynnir yr haearn o'r ddaear, a thoddir y garreg yn gopr.
3 Rhydd dyn derfyn ar dywyllwch, a chwilio hyd yr eithaf am y mwyn yn y tywyllwch dudew.
4 Agorir pyllau yn y cymoedd ymhell oddi wrth bawb; fe'u hanghofiwyd gan y teithwyr. Y maent yn hongian ymhell o olwg pobl, gan siglo'n �l ac ymlaen.
5 Ceir bwyd o'r ddaear, eto oddi tani y mae wedi ei chynhyrfu fel gan d�n.
6 Y mae ei cherrig yn ffynhonnell y saffir, a llwch aur sydd ynddi.
7 Y mae llwybr na u373?yr hebog amdano, ac nas gwelwyd gan lygad barcud,
8 ac nas troediwyd gan anifeiliaid rhodresgar, ac na theithiodd y llew arno.
9 Estyn dyn ei law am y gallestr, a thry'r mynyddoedd yn bendramwnwgl.
10 Egyr dwnelau yn y creigiau, a gw�l ei lygaid bopeth gwerthfawr.
11 Gesyd argae i rwystro lli'r afonydd, a dwg i oleuni yr hyn a guddiwyd ynddynt.
12 Ond pa le y ceir doethineb? a pha le y mae trigfan deall?
13 Ni u373?yr neb ble mae ei chartref, ac nis ceir yn nhir y byw.
14 Dywed y dyfnder, "Nid yw gyda mi"; dywed y m�r yntau, "Nid yw ynof fi."
15 Ni ellir rhoi aur yn d�l amdani, na phwyso'i gwerth mewn arian.
16 Ni ellir mesur ei gwerth ag aur Offir, nac ychwaith �'r onyx gwerthfawr na'r saffir.
17 Ni ellir cymharu ei gwerth ag aur neu risial, na'i chyfnewid am unrhyw lestr aur.
18 Ni bydd s�n am gwrel a grisial; y mae meddu doethineb yn well na gemau.
19 Ni ellir cymharu ei gwerth �'r topas o Ethiopia, ac nid ag aur coeth y prisir hi.
20 O ble y daw doethineb? a phle mae trigfan deall?
21 Cuddiwyd hi oddi wrth lygaid popeth byw, a hefyd oddi wrth adar y nefoedd.
22 Dywedodd Abadon a marwolaeth, "Clywsom �'n clustiau s�n amdani."
23 Duw sy'n deall ei ffordd; y mae ef yn gwybod ei lle.
24 Oherwydd gall ef edrych i derfynau'r ddaear, a gweld popeth sy dan y nefoedd.
25 Pan roddodd ef ei bwysau i'r gwynt, a rhannu'r dyfroedd � mesur,
26 a gosod terfyn i'r glaw, a ffordd i'r mellt a'r taranau,
27 yna fe'i gwelodd hi a'i mynegi, fe'i sefydlodd hi a'i chwilio allan.
28 A dywedodd wrth ddynolryw, "Ofn yr ARGLWYDD yw doethineb, a chilio oddi wrth ddrwg yw deall."