1 Aeth Job ymlaen �'i ddadl, gan ddweud:
2 "O na byddwn fel yn yr amser gynt, yn y dyddiau pan oedd Duw yn fy ngwarchod,
3 pan wn�i i'w lamp oleuo uwch fy mhen, a minnau'n rhodio wrth ei goleuni trwy'r tywyllwch;
4 pan oeddwn yn nyddiau f'anterth, a Duw'n cysgodi dros fy nhrigfan;
5 pan oedd yr Hollalluog yn parhau gyda mi, a'm plant o'm cwmpas.
6 Gallwn olchi fy nghamau mewn llaeth, ac yr oedd y graig yn tywallt ffrydiau o olew imi.
7 "Awn allan i borth y ddinas, ac eisteddwn yn fy sedd ar y sgw�r;
8 a phan welai'r llanciau fi, cilient, a chodai'r hynafgwyr ar eu traed;
9 peidiai'r arweinwyr � llefaru, a rhoddent eu llaw ar eu genau;
10 tawai siarad y pendefigion, a glynai eu tafod wrth daflod eu genau.
11 "Pan glywai clust, galwai fi'n ddedwydd, a phan welai llygad, canmolai fi;
12 oherwydd gwaredwn y tlawd a lefai, a'r amddifad a'r diymgeledd.
13 Bendith yr un ar ddarfod amdano a dd�i arnaf, a gwnawn i galon y weddw lawenhau.
14 Gwisgwn gyfiawnder fel dillad amdanaf; yr oedd fy marn fel mantell a thwrban.
15 Yr oeddwn yn llygaid i'r dall, ac yn draed i'r cloff.
16 Yr oeddwn yn dad i'r tlawd, a chwiliwn i achos y sawl nad adwaenwn.
17 Drylliwn gilddannedd yr anghyfiawn, a pheri iddo ollwng yr ysglyfaeth o'i enau.
18 Yna dywedais, 'Byddaf farw yn f'anterth, a'm dyddiau mor niferus �'r tywod,
19 a'm gwreiddiau yn ymestyn at y dyfroedd, a'r gwlith yn aros drwy'r nos ar fy mrigau,
20 a'm hanrhydedd o hyd yn iraidd, a'm bwa yn adnewyddu yn fy llaw.'
21 "Gwrandawai pobl arnaf, a disgwylient yn ddistaw am fy nghyngor.
22 Wedi imi lefaru, ni ddywedent air; diferai fy ngeiriau arnynt.
23 Disgwylient wrthyf fel am y glaw, ac agorent eu genau fel am law y gwanwyn.
24 Pan wenwn arnynt, oni chaent hyder? A phan lewyrchai fy wyneb, ni fyddent brudd.
25 Dewiswn eu ffordd iddynt, ac eistedd yn ben arnynt; eisteddwn fel brenin yng nghanol ei lu, fel un yn cysuro'r galarus.