Welsh

Koya

Psalms

3

1 1 Salm. I Ddafydd, pan ffodd rhag ei fab Absalom.0 ARGLWYDD, mor lluosog yw fy ngwrthwynebwyr! Y mae llawer yn codi yn f'erbyn,
2 a llawer yn dweud amdanaf, "Ni chaiff waredigaeth yn Nuw." Sela.
3 Ond yr wyt ti, ARGLWYDD, yn darian i mi, yn ogoniant i mi ac yn fy nyrchafu.
4 Gwaeddaf yn uchel ar yr ARGLWYDD, ac etyb fi o'i fynydd sanctaidd. Sela.
5 Yr wyf yn gorwedd ac yn cysgu, ac yna'n deffro am fod yr ARGLWYDD yn fy nghynnal.
6 Nid ofnwn pe bai myrddiwn o bobl yn ymosod arnaf o bob tu.
7 Cyfod, ARGLWYDD; gwareda fi, O fy Nuw. Byddi'n taro fy holl elynion yn eu hwyneb, ac yn torri dannedd y drygionus.
8 I'r ARGLWYDD y perthyn gwaredigaeth; bydded dy fendith ar dy bobl. Sela.