1 1 I'r Cyfarwyddwr: ag offerynnau llinynnol. Salm. I Ddafydd.0 Ateb fi pan alwaf, O Dduw fy nghyfiawnder! Pan oeddwn mewn cyfyngder, gwaredaist fi; bydd drugarog wrthyf, a gwrando fy ngweddi.
2 Bobl, am ba hyd y bydd fy ngogoniant yn warth, ac y byddwch yn caru gwagedd ac yn ceisio celwydd? Sela.
3 Deallwch fod yr ARGLWYDD wedi neilltuo'r ffyddlon iddo'i hun; y mae'r ARGLWYDD yn gwrando pan alwaf arno.
4 Er i chwi gynddeiriogi, peidiwch � phechu; er i chwi ymson ar eich gwely, byddwch ddistaw. Sela.
5 Offrymwch aberthau cywir, ac ymddiriedwch yn yr ARGLWYDD.
6 Y mae llawer yn dweud, "Pwy a ddengys i ni ddaioni?" Cyfoded llewyrch dy wyneb arnom, ARGLWYDD.
7 Rhoddaist fwy o lawenydd yn fy nghalon na'r eiddo hwy pan oedd llawer o u375?d a gwin.
8 Yn awr gorweddaf mewn heddwch a chysgu, oherwydd ti yn unig, ARGLWYDD, sy'n peri imi fyw'n ddiogel.