Welsh

Syriac: NT

1 Peter

5

1 Yr wyf yn apelio, yn awr, at yr henuriaid yn eich plith. Yr wyf finnau'n gyd-henuriad � chwi, ac yn dyst o ddioddefiadau Crist, ac yn un sydd hefyd yn gyfrannog o'r gogoniant sydd ar gael ei ddatguddio.
1ܒܥܐ ܐܢܐ ܕܝܢ ܡܢ ܩܫܝܫܐ ܕܐܝܬ ܒܟܘܢ ܐܢܐ ܩܫܝܫܐ ܚܒܪܟܘܢ ܘܤܗܕܐ ܕܚܫܘܗܝ ܕܡܫܝܚܐ ܘܫܘܬܦܐ ܕܫܘܒܚܗ ܗܘ ܕܥܬܝܕ ܕܢܬܓܠܐ ܀
2 Bugeiliwch braidd Duw sydd yn eich gofal, nid dan orfod, ond o'ch gwirfodd yn �l ffordd Duw; nid er mwyn elw anonest, ond o eiddgarwch,
2ܪܥܘ ܡܪܥܝܬܐ ܕܐܠܗܐ ܕܡܫܠܡܐ ܠܟܘܢ ܘܤܥܘܪܘ ܪܘܚܢܐܝܬ ܠܐ ܒܩܛܝܪܐ ܐܠܐ ܒܨܒܝܢܐ ܠܐ ܒܝܘܬܪܢܐ ܛܢܦܐ ܐܠܐ ܡܢ ܟܠܗ ܠܒܟܘܢ ܀
3 nid fel rhai sy'n tra-arglwyddiaethu ar y rhai a osodwyd dan eu gofal, ond gan fod yn esiamplau i'r praidd.
3ܠܐ ܐܝܟ ܡܪܝܐ ܕܡܪܥܝܬܐ ܐܠܐ ܐܝܟ ܕܬܗܘܘܢ ܠܗܘܢ ܕܡܘܬܐ ܫܦܝܪܬܐ ܀
4 A phan ymddengys y Pen Bugail, fe gewch eich coroni � thorch gogoniant, nad yw byth yn gwywo.
4ܕܟܕ ܢܬܓܠܐ ܪܒ ܪܥܘܬܐ ܬܩܒܠܘܢ ܡܢܗ ܟܠܝܠܐ ܕܫܘܒܚܐ ܕܠܐ ܚܡܐ ܀
5 Yn yr un modd, chwi wu375?r ifainc, ymostyngwch i'r henuriaid. A phawb ohonoch, gwisgwch amdanoch ostyngeiddrwydd yng ngwasanaeth eich gilydd, oherwydd, fel y dywed yr Ysgrythur: "Y mae Duw'n gwrthwynebu'r beilchion, ond i'r gostyngedig y mae'n rhoi gras."
5ܘܐܢܬܘܢ ܥܠܝܡܐ ܐܫܬܥܒܕܘ ܠܩܫܝܫܝܟܘܢ ܘܐܬܥܛܦܘ ܚܝܨܐܝܬ ܡܟܝܟܘܬ ܪܥܝܢܐ ܠܘܬ ܚܕܕܐ ܡܛܠ ܕܐܠܗܐ ܤܩܘܒܠܐ ܗܘ ܕܐܝܠܝܢ ܕܡܬܬܪܝܡܝܢ ܘܠܡܟܝܟܐ ܝܗܒ ܛܝܒܘܬܐ ܀
6 Ymddarostyngwch, gan hynny, dan law gadarn Duw, fel y bydd iddo ef eich dyrchafu pan ddaw'r amser.
6ܐܬܡܟܟܘ ܗܟܝܠ ܬܚܝܬ ܐܝܕܗ ܬܩܝܦܬܐ ܕܐܠܗܐ ܕܗܝ ܬܪܝܡܟܘܢ ܒܙܒܢܐ ܕܙܕܩ ܀
7 Bwriwch eich holl bryder arno ef, oherwydd y mae gofal ganddo amdanoch.
7ܘܨܦܬܟܘܢ ܟܠܗ ܫܕܘ ܥܠ ܐܠܗܐ ܕܠܗ ܒܛܝܠ ܥܠܝܟܘܢ ܀
8 Ymddisgyblwch a byddwch effro. Y mae eich gwrthwynebydd, y diafol, yn prowla o gwmpas fel llew yn rhuo, gan chwilio am rywun i'w lyncu.
8ܐܬܬܥܝܪܘ ܘܥܗܕܘ ܡܛܠ ܕܒܥܠܕܒܒܟܘܢ ܤܛܢܐ ܐܝܟ ܐܪܝܐ ܢܗܡ ܘܡܗܠܟ ܘܒܥܐ ܕܠܡܢܘ ܢܒܠܥ ܀
9 Gwrthsafwch ef yn gadarn mewn ffydd, gan wybod fod eich cyd-Gristionogion yn y byd yn profi'r un math o ddioddefiadau.
9ܩܘܡܘ ܗܟܝܠ ܠܩܘܒܠܗ ܟܕ ܡܫܪܪܝܢ ܐܢܬܘܢ ܒܗܝܡܢܘܬܐ ܘܕܥܘ ܕܐܦ ܥܠ ܐܚܝܟܘܢ ܕܒܥܠܡܐ ܗܢܘܢ ܗܠܝܢ ܚܫܐ ܥܪܨܝܢ ܀
10 Ond wedi ichwi ddioddef am ychydig, bydd Duw pob gras, yr hwn a'ch galwodd i'w dragwyddol ogoniant yng Nghrist Iesu, yn eich gwneud yn gymwys, yn gadarn, yn gryf ac yn ddiysgog.
10ܐܠܗܐ ܕܝܢ ܕܛܝܒܘܬܐ ܗܘ ܕܩܪܢ ܠܫܘܒܚܗ ܕܠܥܠܡ ܒܝܕ ܝܫܘܥ ܡܫܝܚܐ ܗܘ ܕܝܗܒ ܠܢ ܕܟܕ ܢܤܝܒܪ ܗܠܝܢ ܐܘܠܨܢܐ ܙܥܘܪܐ ܕܢܬܚܝܠ ܘܢܫܬܪܪ ܘܢܬܩܝܡ ܒܗ ܠܥܠܡ ܀
11 Iddo ef y perthyn y gallu am byth. Amen.
11ܕܠܗ ܫܘܒܚܐ ܘܐܘܚܕܢܐ ܘܐܝܩܪܐ ܠܥܠܡ ܥܠܡܝܢ ܐܡܝܢ ܀
12 Yr wyf yn ysgrifennu'r ychydig hyn trwy law Silfanus, brawd y gellir, yn �l fy nghyfrif i, ymddiried ynddo. Fy mwriad yw eich calonogi, a thystio mai dyma wir ras Duw. Safwch yn ddi-sigl ynddo.
12ܗܠܝܢ ܙܥܘܪܝܬܐ ܐܝܟ ܕܤܒܪ ܐܢܐ ܟܬܒܬ ܠܟܘܢ ܒܝܕ ܤܠܘܢܘܤ ܐܚܐ ܡܗܝܡܢܐ ܘܡܦܤ ܐܢܐ ܘܤܗܕ ܐܢܐ ܕܗܕܐ ܗܝ ܛܝܒܘܬܐ ܫܪܝܪܬܐ ܕܐܠܗܐ ܗܕܐ ܕܩܝܡܝܢ ܐܢܬܘܢ ܒܗ ܀
13 Y mae'r hon ym Mabilon sydd yn gydetholedig � chwi yn eich cyfarch, a Marc, fy mab.
13ܫܐܠܐ ܫܠܡܟܘܢ ܥܕܬܐ ܓܒܝܬܐ ܕܒܒܒܠ ܘܡܪܩܘܤ ܒܪܝ ܀
14 Cyfarchwch eich gilydd � chusan cariad. Tangnefedd i chwi oll sydd yng Nghrist!
14ܫܐܠܘ ܒܫܠܡܐ ܚܕ ܕܚܕ ܒܢܘܫܩܬܐ ܩܕܝܫܬܐ ܫܠܡܐ ܥܡ ܟܠܗܘܢ ܐܝܠܝܢ ܕܒܡܫܝܚܐ ܐܢܘܢ ܐܡܝܢ ܀