Welsh

Syriac: NT

2 Peter

1

1 Simeon Pedr, gwas ac apostol Iesu Grist, at y rhai sydd, trwy gyfiawnder ein Duw a'n Gwaredwr Iesu Grist, wedi derbyn ffydd gyfuwch ei gwerth �'r eiddom ninnau.
1ܫܡܥܘܢ ܦܛܪܘܤ ܥܒܕܐ ܘܫܠܝܚܐ ܕܝܫܘܥ ܡܫܝܚܐ ܠܐܝܠܝܢ ܕܠܗܝܡܢܘܬܐ ܫܘܝܬ ܒܐܝܩܪܐ ܥܡܢ ܐܫܬܘܝܘ ܒܙܕܝܩܘܬܐ ܕܡܪܢ ܘܦܪܘܩܢ ܝܫܘܥ ܡܫܝܚܐ ܀
2 Gras a thangnefedd a amlhaer i chwi trwy adnabyddiaeth o Dduw ac Iesu ein Harglwydd!
2ܛܝܒܘܬܐ ܘܫܠܡܐ ܢܤܓܐ ܠܟܘܢ ܒܫܘܘܕܥܐ ܕܡܪܢ ܝܫܘܥ ܡܫܝܚܐ ܀
3 Y mae ei allu dwyfol wedi rhoi i ni bob peth sy'n angenrheidiol i fywyd a duwioldeb trwy ein hadnabyddiaeth o'r hwn a'n galwodd �'i weithred ogoneddus a rhagorol ei hun.
3ܐܝܟ ܡܢ ܕܟܠܗܝܢ ܐܝܠܝܢ ܕܐܝܬܝܗܝܢ ܕܚܝܠܐ ܐܠܗܝܐ ܠܘܬ ܚܝܐ ܘܕܚܠܬ ܐܠܗܐ ܝܗܒ ܒܝܕ ܫܘܘܕܥܐ ܕܗܘ ܕܩܪܐ ܠܢ ܒܬܫܒܘܚܬܐ ܕܝܠܗ ܘܡܝܬܪܘܬܐ ܀
4 Trwy hyn y mae ef wedi rhoi i ni addewidion gwerthfawr dros ben, er mwyn i chwi trwyddynt hwy ddianc o afael llygredigaeth y trachwant sydd yn y byd, a dod yn gyfranogion o'r natur ddwyfol.
4ܕܒܐܝܕܝܗܝܢ ܫܘܘܕܝܐ ܪܘܪܒܐ ܘܝܩܝܪܐ ܠܟܘܢ ܝܗܒ ܕܒܝܕ ܗܠܝܢ ܬܗܘܘܢ ܫܘܬܦܐ ܕܟܝܢܐ ܐܠܗܝܐ ܟܕ ܥܪܩܝܢ ܐܢܬܘܢ ܡܢ ܚܒܠܐ ܕܪܓܝܓܬܐ ܕܒܥܠܡܐ ܀
5 Am yr union reswm yma, felly, gwnewch eich gorau glas i ychwanegu rhinwedd at eich ffydd, gwybodaeth at rinwedd,
5ܘܗܝ ܕܝܢ ܗܕܐ ܟܕ ܫܩܠܛܥܢܐ ܟܠܗ ܡܥܠܝܢ ܐܢܬܘܢ ܐܘܤܦܘ ܥܠ ܗܝܡܢܘܬܟܘܢ ܡܝܬܪܘܬܐ ܥܠ ܕܝܢ ܡܝܬܪܘܬܐ ܝܕܥܬܐ ܀
6 hunan-ddisgyblaeth at wybodaeth, dyfalbarhad at hunanddisgyblaeth, duwioldeb at ddyfalbarhad,
6ܥܠ ܕܝܢ ܝܕܥܬܐ ܡܚܡܤܢܢܘܬܐ ܥܠ ܕܝܢ ܡܚܡܤܢܢܘܬܐ ܡܤܝܒܪܢܘܬܐ ܥܠ ܕܝܢ ܡܤܝܒܪܢܘܬܐ ܕܚܠܬ ܐܠܗܐ ܀
7 brawdgarwch at dduwioldeb, a chariad at frawdgarwch.
7ܥܠ ܕܝܢ ܕܚܠܬ ܐܠܗܐ ܪܚܡܬ ܐܚܘܬܐ ܥܠ ܕܝܢ ܪܚܡܬ ܐܚܘܬܐ ܚܘܒܐ ܀
8 Oherwydd os yw'r rhain gennych, ac ar gynnydd, byddant yn peri nad diog a diffrwyth fyddwch yn eich adnabyddiaeth o'n Harglwydd Iesu Grist.
8ܗܠܝܢ ܓܝܪ ܟܕ ܫܟܝܚܢ ܠܟܘܢ ܘܝܬܝܪܢ ܠܐ ܗܘܐ ܒܛܝܠܐ ܐܦܠܐ ܕܠܐ ܦܐܪܐ ܡܩܝܡܢ ܠܟܘܢ ܒܫܘܘܕܥܗ ܕܡܪܢ ܝܫܘܥ ܡܫܝܚܐ ܀
9 Ond hebddynt y mae rhywun mor fyr ei olwg nes bod yn ddall, heb ddim cof ganddo am y glanhad oddi wrth ei bechodau gynt.
9ܗܘ ܓܝܪ ܕܠܐ ܫܟܝܚܢ ܠܗ ܗܠܝܢ ܤܡܝܐ ܐܝܬܘܗܝ ܕܠܐ ܚܙܐ ܕܛܥܐ ܕܘܟܝܐ ܕܚܛܗܘܗܝ ܩܕܡܝܐ ܀
10 Dyna pam, gyfeillion, y dylech ymdrechu'n fwy byth i wneud eich galwad a'ch etholedigaeth yn sicr. Oherwydd os gwnewch hyn, ni lithrwch byth.
10ܘܥܠ ܗܝ ܝܬܝܪܐܝܬ ܐܚܝ ܝܨܦܘ ܕܒܝܕ ܥܒܕܝܟܘܢ ܛܒܐ ܩܪܝܬܟܘܢ ܘܓܒܝܬܟܘܢ ܡܫܪܪܬܐ ܬܥܒܕܘܢ ܟܕ ܓܝܪ ܗܠܝܢ ܥܒܕܝܢ ܐܢܬܘܢ ܠܐ ܡܬܘܡ ܡܫܬܪܥܝܢ ܐܢܬܘܢ ܀
11 Felly y rhydd Duw ichwi, o'i haelioni, fynediad i dragwyddol deyrnas ein Harglwydd a'n Gwaredwr, Iesu Grist.
11ܗܟܢܐ ܓܝܪ ܥܬܝܪܐܝܬ ܡܬܝܗܒܐ ܠܟܘܢ ܡܥܠܬܐ ܕܡܠܟܘܬܐ ܕܠܥܠܡ ܕܡܪܢ ܘܦܪܘܩܢ ܝܫܘܥ ܡܫܝܚܐ ܀
12 Am hynny, rwy'n bwriadu eich atgoffa'n wastad am y pethau hyn, er eich bod yn eu gwybod, ac wedi eich sefydlu'n gadarn yn y gwirionedd sydd gennych.
12ܘܥܠ ܗܕܐ ܠܐ ܡܡܐܢ ܐܢܐ ܡܢ ܕܡܥܗܕ ܐܢܐ ܠܟܘܢ ܐܡܝܢܐܝܬ ܥܠ ܗܠܝܢ ܟܕ ܛܒ ܐܦ ܝܕܥܝܢ ܐܢܬܘܢ ܘܤܡܝܟܝܢ ܐܢܬܘܢ ܥܠ ܫܪܪܐ ܗܢܐ ܀
13 Tra bydd y cnawd hwn yn babell imi, yr wyf yn ystyried ei bod hi'n iawn imi eich deffro trwy eich atgoffa amdanynt.
13ܕܟܐܢܐ ܕܝܢ ܐܤܬܒܪܬ ܠܝ ܕܟܡܐ ܕܐܝܬܝ ܒܦܓܪܐ ܗܢܐ ܐܥܝܪܟܘܢ ܒܥܘܗܕܢܐ ܀
14 Gwn y bydd yn rhaid i mi roi fy mhabell heibio yn fuan, fel y mae ein Harglwydd Iesu Grist, yn wir, wedi gwneud yn eglur imi.
14ܟܕ ܝܕܥ ܐܢܐ ܕܥܘܢܕܢܐ ܕܦܓܪܝ ܒܥܓܠ ܗܘܐ ܐܝܟܢܐ ܕܐܦ ܡܪܢ ܝܫܘܥ ܡܫܝܚܐ ܐܘܕܥܢܝ ܀
15 Gwnaf fy ngorau, felly, i ofalu y byddwch, ar �l fy ymadawiad, yn gallu dwyn y pethau hyn yn wastad i gof.
15ܝܨܦ ܐܢܐ ܕܝܢ ܕܐܦ ܐܡܝܢܐܝܬ ܗܘܐ ܐܝܬ ܠܟܘܢ ܕܐܦ ܡܢ ܒܬܪ ܡܦܩܢܐ ܕܝܠܝ ܥܘܗܕܢܐ ܕܗܠܝܢ ܬܗܘܘܢ ܥܒܕܝܢ ܀
16 Nid dilyn chwedlau wedi eu dyfeisio'n gyfrwys yr oeddem wrth hysbysu i chwi allu ein Harglwydd Iesu Grist a'i ddyfodiad; yn hytrach, yr oeddem wedi ei weld �'n llygaid ein hunain yn ei fawredd.
16ܠܐ ܗܘܐ ܓܝܪ ܟܕ ܒܬܪ ܡܬܠܐ ܕܥܒܝܕܝܢ ܒܐܘܡܢܘܬܐ ܐܙܠܝܢܢ ܐܘܕܥܢܟܘܢ ܚܝܠܗ ܘܡܐܬܝܬܗ ܕܡܪܢ ܝܫܘܥ ܡܫܝܚܐ ܐܠܐ ܟܕ ܚܙܝܐ ܗܘܝܢ ܕܪܒܘܬܐ ܕܝܠܗ ܀
17 Yr oeddem yno pan roddwyd iddo anrhydedd a gogoniant gan Dduw Dad, pan ddaeth y llais ato o'r Gogoniant goruchel yn dweud: "Hwn yw fy Mab, fy Anwylyd; ynddo ef yr wyf yn ymhyfrydu."
17ܟܕ ܓܝܪ ܢܤܒ ܡܢ ܐܠܗܐ ܐܒܐ ܐܝܩܪܐ ܘܬܫܒܘܚܬܐ ܟܕ ܩܠܐ ܐܬܐ ܠܗ ܕܐܝܟ ܗܢܐ ܡܢ ܬܫܒܘܚܬܐ ܦܐܝܬ ܒܪܒܘܬܗ ܕܗܢܘ ܒܪܝ ܗܘ ܚܒܝܒܐ ܗܘ ܕܒܗ ܐܨܛܒܝܬ ܀
18 Fe glywsom ni'r llais hwn yn dod o'r nef, oherwydd yr oeddem gydag ef ar y mynydd sanctaidd.
18ܐܦ ܚܢܢ ܠܗ ܠܗܢܐ ܩܠܐ ܫܡܥܢܢ ܡܢ ܫܡܝܐ ܕܐܬܐ ܠܗ ܟܕ ܐܝܬܝܢ ܗܘܝܢ ܥܡܗ ܒܛܘܪܐ ܩܕܝܫܐ ܀
19 Y mae gennym hefyd genadwri gwbl ddibynadwy y proffwydi; a pheth da fydd i chwi roi sylw iddi, gan ei bod fel cannwyll yn disgleirio mewn lle tywyll, hyd nes y bydd y Dydd yn gwawrio a seren y bore yn codi i lewyrchu yn eich calonnau.
19ܘܐܝܬ ܠܢ ܕܫܪܝܪܐ ܐܦ ܡܠܬܐ ܕܢܒܝܘܬܐ ܗܝ ܕܫܦܝܪ ܥܒܕܝܢ ܐܢܬܘܢ ܟܕ ܒܗ ܚܝܪܝܢ ܐܢܬܘܢ ܐܝܟ ܕܒܫܪܓܐ ܕܡܢܗܪ ܒܐܬܪܐ ܥܡܘܛܐ ܥܕܡܐ ܕܐܝܡܡܐ ܢܢܗܪ ܘܫܡܫܐ ܢܕܢܚ ܒܠܒܘܬܟܘܢ ܀
20 Ond sylwch ar hyn yn gyntaf: nid yw'r un broffwydoliaeth o'r Ysgrythur
20ܟܕ ܗܕܐ ܠܘܩܕܡ ܝܕܥܝܢ ܐܢܬܘܢ ܕܟܠ ܢܒܝܘܬܐ ܫܪܝܐ ܕܟܬܒܐ ܕܝܠܗ ܠܐ ܗܘܝܐ ܀
21 yn fater o ddehongliad personol, oherwydd ni ddaeth yr un broffwydoliaeth erioed trwy ewyllys ddynol; pobl oeddent a lefarodd air oddi wrth Dduw wrth gael eu hysgogi gan yr Ysbryd Gl�n.
21ܠܐ ܗܘܐ ܓܝܪ ܒܨܒܝܢܐ ܕܒܪܢܫܐ ܐܬܬ ܡܢ ܡܬܘܡ ܢܒܝܘܬܐ ܐܠܐ ܟܕ ܡܢ ܪܘܚܐ ܩܕܝܫܐ ܡܬܢܓܕܝܢ ܡܠܠܘ ܩܕܝܫܐ ܒܢܝܢܫܐ ܕܐܠܗܐ ܀