1 Felly, gan fod gennym yr addewidion hyn, gyfeillion annwyl, ymlanhawn oddi wrth bob peth sy'n halogi cnawd ac ysbryd, gan berffeithio ein sancteiddrwydd yn ofn Duw.
1ܡܛܠ ܕܐܝܬ ܠܢ ܗܟܝܠ ܗܠܝܢ ܡܘܠܟܢܐ ܚܒܝܒܝ ܢܕܟܐ ܢܦܫܢ ܡܢ ܟܠܗ ܛܡܐܘܬܐ ܕܒܤܪܐ ܘܕܪܘܚܐ ܘܢܦܠܘܚ ܩܕܝܫܘܬܐ ܒܕܚܠܬܐ ܕܐܠܗܐ ܀
2 Rhowch le i ni yn eich calonnau. Ni wnaethom gam � neb, na llygru neb, na chymryd mantais ar neb.
2ܤܝܒܪܘܢ ܐܚܝܢ ܒܐܢܫ ܠܐ ܐܥܘܠܢ ܠܐܢܫ ܠܐ ܚܒܠܢ ܠܐܢܫ ܠܐ ܥܠܒܢ ܀
3 Nid i'ch condemnio yr wyf yn dweud hyn, oherwydd dywedais wrthych o'r blaen eich bod mor agos at ein calon, nes ein bod gyda'n gilydd, deued marwolaeth neu fywyd.
3ܠܐ ܗܘܐ ܠܡܚܝܒܘܬܟܘܢ ܐܡܪ ܐܢܐ ܩܕܡܬ ܓܝܪ ܐܡܪܬ ܕܒܠܒܢ ܐܢܬܘܢ ܠܡܡܬ ܐܟܚܕܐ ܘܠܡܚܐ ܀
4 Y mae gennyf hyder mawr ynoch, a balchder mawr o'ch herwydd. Y mae fy nghwpan yn llawn o ddiddanwch, ac yn gorlifo � llawenydd yng nghanol ein holl orthrymder.
4ܦܪܗܤܝܐ ܤܓܝܐܬܐ ܐܝܬ ܠܝ ܠܘܬܟܘܢ ܘܤܓܝ ܐܝܬ ܠܝ ܒܟܘܢ ܫܘܒܗܪܐ ܘܡܠܐ ܐܢܐ ܒܘܝܐܐ ܘܤܘܓܐܐ ܡܬܝܬܪܐ ܒܝ ܚܕܘܬܐ ܒܟܠܗܘܢ ܐܘܠܨܢܝ ܀
5 Hyd yn oed pan ddaethom i Facedonia, ni chawsom ddim llonydd yn ein gwendid; yn hytrach cawsom ein gorthrymu ym mhob ffordd � brwydrau oddi allan ac ofnau oddi mewn.
5ܐܦ ܡܢ ܕܐܬܝܢ ܓܝܪ ܠܡܩܕܘܢܝܐ ܐܦܠܐ ܚܕ ܢܝܚ ܗܘܐ ܠܦܓܪܢ ܐܠܐ ܒܟܠ ܡܕܡ ܐܬܐܠܨܢ ܡܢ ܠܒܪ ܩܪܒܐ ܘܡܢ ܠܓܘ ܕܚܠܬܐ ܀
6 Ond y mae Duw, yr un sydd yn diddanu'r digalon, wedi ein diddanu ninnau trwy ddyfodiad Titus;
6ܐܠܐ ܐܠܗܐ ܗܘ ܕܡܒܝܐ ܠܡܟܝܟܐ ܒܝܐܢ ܒܡܐܬܝܬܗ ܕܛܛܘܤ ܀
7 ac nid yn unig trwy ei ddyfodiad ef, ond hefyd trwy'r diddanwch a gafodd ef ynoch chwi. Y mae wedi dweud wrthym am eich hiraeth amdanaf, am eich galar, ac am eich s�l drosof, nes gwneud fy llawenydd yn fwy byth.
7ܘܠܐ ܒܠܚܘܕ ܒܡܐܬܝܬܗ ܐܠܐ ܐܦ ܒܢܝܚܗ ܗܘ ܕܐܬܢܝܚ ܒܟܘܢ ܤܒܪܢ ܓܝܪ ܥܠ ܚܘܒܟܘܢ ܕܠܘܬܢ ܘܥܠ ܐܒܠܟܘܢ ܘܛܢܢܟܘܢ ܕܥܠ ܐܦܝܢ ܘܟܕ ܫܡܥܬ ܚܕܘܬܐ ܤܓܝܐܬܐ ܗܘܬ ܠܝ ܀
8 Oherwydd er i mi beri loes i chwi �'m llythyr, nid yw'n flin gennyf; rwy'n gweld i'r llythyr hwnnw beri loes i chwi, o leiaf dros dro,
8ܕܐܦܢ ܐܟܪܝܬ ܠܟܘܢ ܒܐܓܪܬܐ ܠܐ ܬܘܝܐ ܠܝ ܢܦܫܝ ܐܦܢ ܬܘܝܐ ܗܘܬ ܚܙܐ ܐܢܐ ܓܝܪ ܕܗܝ ܐܓܪܬܐ ܐܦܢ ܕܫܥܬܐ ܐܟܪܝܬ ܠܟܘܢ ܀
9 ac er y bu'n flin gennyf, yr wyf yn awr yn falch, nid am i chwi gael loes, ond am i'r loes droi'n edifeirwch. Oherwydd derbyniasoch eich loes mewn ffordd dduwiol, ac felly ni chawsoch ddim colled trwom ni.
9ܐܠܐ ܚܕܘܬܐ ܤܓܝܐܬܐ ܥܒܕܬ ܠܝ ܠܐ ܥܠ ܕܟܪܝܬ ܠܟܘܢ ܐܠܐ ܡܛܠ ܕܟܪܝܘܬܟܘܢ ܠܬܝܒܘܬܐ ܐܝܬܝܬܟܘܢ ܟܪܝܬ ܠܟܘܢ ܓܝܪ ܒܕܐܠܗܐ ܐܝܟܢܐ ܕܒܡܕܡ ܠܐ ܬܚܤܪܘܢ ܡܢܢ ܀
10 Canys y mae'r loes a dderbynnir mewn ffordd dduwiol yn creu edifeirwch sydd yn arwain i iachawdwriaeth na ellir bod yn flin amdano; ond y mae'r loes a dderbynnir mewn ffordd fydol yn peri marwolaeth.
10ܟܪܝܘܬܐ ܓܝܪ ܕܡܛܠ ܐܠܗܐ ܬܘܬ ܢܦܫܐ ܥܒܕܐ ܕܠܐ ܗܦܟܐ ܘܡܦܢܝܐ ܠܚܝܐ ܟܪܝܘܬܐ ܕܝܢ ܕܥܠܡܐ ܡܘܬܐ ܗܘ ܥܒܕܐ ܀
11 Ystyriwch ganlyniadau derbyn eich loes mewn ffordd dduwiol: y fath ymroddiad a barodd ynoch, ie, y fath hunanamddiffyniad, y fath ddicter, y fath ofn, y fath ddyhead, y fath s�l, y fath benderfyniad i gosbi'n gyfiawn. Ym mhob ffordd yr ydych wedi dangos eich bod yn ddi-fai yn y mater hwn.
11ܗܐ ܓܝܪ ܗܝ ܗܕܐ ܕܐܬܬܥܝܩܬܘܢ ܡܛܠ ܐܠܗܐ ܟܡܐ ܐܥܒܕܬ ܒܟܘܢ ܚܦܝܛܘܬܐ ܘܡܦܩ ܒܪܘܚܐ ܘܪܘܓܙܐ ܘܕܚܠܬܐ ܘܚܘܒܐ ܘܛܢܢܐ ܘܬܒܥܬܐ ܘܒܟܠܡܕܡ ܚܘܝܬܘܢ ܢܦܫܟܘܢ ܕܕܟܝܢ ܐܢܬܘܢ ܒܗ ܒܨܒܘܬܐ ܀
12 Felly, er i mi yn wir ysgrifennu atoch, nid o achos y sawl a wnaeth y cam, nac o achos y sawl a'i dioddefodd, y gwneuthum hynny, ond er mwyn amlygu i chwi, yng ngu373?ydd Duw, gymaint yw eich ymroddiad trosom.
12ܬܗܘܐ ܕܝܢ ܗܕܐ ܕܟܬܒܬ ܠܟܘܢ ܕܠܐ ܗܘܐ ܡܛܠ ܡܤܟܠܢܐ ܐܦ ܠܐ ܡܛܠ ܗܘ ܡܢ ܕܡܤܟܠ ܒܗ ܐܠܐ ܡܛܠ ܕܬܬܝܕܥ ܩܕܡ ܐܠܗܐ ܚܦܝܛܘܬܟܘܢ ܕܡܛܠܬܢ ܀
13 Dyna pam yr ydym yn awr wedi ein diddanu. Ond yn ogystal �'n diddanwch ni, cawsom lawenydd mwy o lawer yn llawenydd Titus, am i chwi oll roi esmwyth�d i'w ysbryd.
13ܡܛܠ ܗܢܐ ܐܬܒܝܐܢ ܘܥܡ ܒܘܝܐܢ ܝܬܝܪܐܝܬ ܚܕܝܢ ܒܚܕܘܬܗ ܕܛܛܘܤ ܕܐܬܢܝܚܬ ܪܘܚܗ ܥܡ ܟܠܟܘܢ ܀
14 Oherwydd os wyf wedi ymffrostio rywfaint wrtho amdanoch chwi, ni chefais fy nghywilyddio, ond fel y mae popeth a ddywedais wrthych chwi yn wir, felly hefyd daeth fy ymffrost wrth Titus yn wir.
14ܕܒܡܕܡ ܕܐܫܬܒܗܪܬ ܠܗ ܥܠ ܐܦܝܟܘܢ ܠܐ ܒܗܬܬ ܐܠܐ ܐܝܟ ܕܟܠ ܡܕܡ ܩܘܫܬܐ ܡܠܠܢ ܥܡܟܘܢ ܗܟܢܐ ܐܦ ܫܘܒܗܪܢ ܕܠܘܬ ܛܛܘܤ ܒܩܘܫܬܐ ܐܫܬܟܚ ܀
15 Y mae ei galon yn cynhesu fwyfwy tuag atoch o gofio ufudd-dod pob un ohonoch, a'r modd y derbyniasoch ef mewn ofn a dychryn.
15ܐܦ ܪܚܡܘܗܝ ܝܬܝܪܐܝܬ ܤܓܝܘ ܥܠܝܟܘܢ ܟܕ ܡܬܕܟܪ ܡܫܬܡܥܢܘܬܐ ܕܟܠܟܘܢ ܕܒܕܚܠܬܐ ܘܒܪܬܝܬܐ ܩܒܠܬܘܢܝܗܝ ܀
16 Yr wyf yn llawenhau y gallaf ymddiried yn llwyr ynoch.
16ܚܕܐ ܐܢܐ ܕܒܟܠ ܡܕܡ ܬܟܝܠ ܐܢܐ ܥܠܝܟܘܢ ܀