Welsh

Syriac: NT

2 Corinthians

8

1 Fe garem ichwi wybod, gyfeillion, am y gras a roddwyd gan Dduw yn yr eglwysi ym Macedonia.
1ܡܘܕܥܝܢܢ ܠܟܘܢ ܕܝܢ ܐܚܝܢ ܛܝܒܘܬܗ ܕܐܠܗܐ ܕܐܬܝܗܒܬ ܒܥܕܬܐ ܕܡܩܕܘܢܝܐ ܀
2 Er iddynt gael eu profi'n llym gan orthrymder, gorlifodd cyflawnder eu llawenydd a dyfnder eu tlodi yn gyfoeth o haelioni ynddynt.
2ܕܒܒܘܩܝܐ ܤܓܝܐܐ ܕܐܘܠܨܢܗܘܢ ܝܬܝܪܘܬܐ ܗܘܬ ܠܚܕܘܬܗܘܢ ܘܥܘܡܩܐ ܕܡܤܟܢܘܬܗܘܢ ܐܬܝܬܪ ܒܥܘܬܪܐ ܕܦܫܝܛܘܬܗܘܢ ܀
3 Yr wyf yn dyst iddynt roi yn �l eu gallu, a'r tu hwnt i'w gallu, a hynny o'u gwirfodd eu hunain,
3ܤܗܕ ܐܢܐ ܓܝܪ ܕܐܝܟ ܚܝܠܗܘܢ ܘܝܬܝܪ ܡܢ ܚܝܠܗܘܢ ܒܨܒܝܢ ܢܦܫܗܘܢ ܀
4 gan ddeisyf arnom yn daer iawn am gael y fraint o gyfrannu tuag at y cymorth i'r saint �
4ܒܥܘ ܡܢܢ ܒܒܥܘܬܐ ܤܓܝܐܬܐ ܕܢܫܬܘܬܦܘܢ ܒܛܝܒܘܬܐ ܕܬܫܡܫܬܐ ܕܩܕܝܫܐ ܀
5 ac aethant ymhellach na dim y gobeithiais amdano, gan eu rhoi eu hunain yn gyntaf i'r Arglwydd, ac i ninnau yn �l ewyllys Duw.
5ܘܠܐ ܐܝܟ ܡܐ ܕܤܒܪܝܢ ܗܘܝܢ ܐܠܐ ܢܦܫܗܘܢ ܐܫܠܡܘ ܠܘܩܕܡ ܠܡܪܢ ܘܐܦ ܠܢ ܒܨܒܝܢܗ ܕܐܠܗܐ ܀
6 Felly yr ydym wedi gofyn i Titus orffen y gwaith grasusol hwn yn eich plith yn union fel y dechreuodd arno.
6ܕܚܢܢ ܢܒܥܐ ܡܢ ܛܛܘܤ ܕܐܝܟ ܕܫܪܝ ܗܟܢܐ ܢܫܠܡ ܒܟܘܢ ܐܦ ܛܝܒܘܬܐ ܗܕܐ ܀
7 Ym mhob peth yr ydych yn helaeth, yn eich ffydd a'ch ymadrodd a'ch gwybodaeth, yn eich ymroddiad llwyr ac yn y cariad a enynnwyd ynoch gan ein cariad ni. Felly hefyd byddwch yn helaeth yn y gorchwyl grasusol hwn.
7ܐܠܐ ܐܝܟܢܐ ܕܒܟܠܡܕܡ ܡܬܝܬܪܝܢ ܐܢܬܘܢ ܒܗܝܡܢܘܬܐ ܘܒܡܠܬܐ ܘܒܝܕܥܬܐ ܘܒܟܠ ܚܦܝܛܘ ܘܒܚܘܒܢ ܕܠܘܬܟܘܢ ܗܟܢܐ ܐܦ ܒܗܕܐ ܛܝܒܘܬܐ ܬܬܝܬܪܘܢ ܀
8 Nid fel gorchymyn yr wyf yn dweud hyn, ond i brofi didwylledd eich cariad chwi trwy s�n am ymroddiad pobl eraill.
8ܠܐ ܗܘܐ ܡܦܩܕ ܦܩܕ ܐܢܐ ܠܟܘܢ ܐܠܐ ܒܚܦܝܛܘܬܐ ܕܚܒܪܝܟܘܢ ܫܪܪܐ ܕܚܘܒܟܘܢ ܡܢܤܐ ܐܢܐ ܀
9 Oherwydd yr ydych yn gwybod am ras ein Harglwydd Iesu Grist, fel y bu iddo, ac yntau'n gyfoethog, ddod yn dlawd drosoch chwi, er mwyn i chwi ddod yn gyfoethog trwy ei dlodi ef.
9ܝܕܥܝܢ ܐܢܬܘܢ ܓܝܪ ܛܝܒܘܬܗ ܕܡܪܢ ܝܫܘܥ ܡܫܝܚܐ ܕܡܛܠܬܟܘܢ ܐܬܡܤܟܢ ܟܕ ܐܝܬܘܗܝ ܥܬܝܪܐ ܕܐܢܬܘܢ ܒܡܤܟܢܘܬܗ ܬܥܬܪܘܢ ܀
10 Yn hyn o beth, rhoi fy marn yr wyf, a hynny sydd orau i chwi, y rhai a fu'n gyntaf, nid yn unig i weithredu ond i ewyllysio gweithredu, er y llynedd.
10ܡܡܠܟ ܕܝܢ ܡܠܟ ܐܢܐ ܠܟܘܢ ܗܕܐ ܕܡܥܕܪܐ ܠܟܘܢ ܡܛܠ ܕܡܢ ܐܫܬܩܕܝ ܫܪܝܬܘܢ ܠܘ ܠܡܨܒܐ ܒܠܚܘܕ ܐܠܐ ܐܦ ܠܡܥܒܕ ܀
11 Yn awr gorffennwch y gweithredu yn �l eich gallu, fel y bydd y gorffen yn cyfateb i eiddgarwch eich bwriad.
11ܗܫܐ ܕܝܢ ܫܠܡܘ ܒܥܒܕܐ ܗܘ ܡܕܡ ܕܨܒܝܬܘܢ ܕܐܝܟܢܐ ܕܗܘܐ ܠܟܘܢ ܤܘܘܚܐ ܠܡܨܒܐ ܗܟܢܐ ܒܥܒܕܐ ܬܫܠܡܘܢ ܡܢ ܡܐ ܕܐܝܬ ܠܟܘܢ ܀
12 Oherwydd os ydych yn eiddgar i roi, y mae hynny'n dderbyniol gan Dduw, ar sail yr hyn sydd gan rywun, nid yr hyn nad yw ganddo.
12ܐܢ ܓܝܪ ܨܒܝܢܐ ܐܝܬܘܗܝ ܐܝܟ ܡܐ ܕܐܝܬ ܠܗ ܗܟܘܬ ܡܬܩܒܠ ܠܐ ܗܘܐ ܐܝܟ ܡܐ ܕܠܝܬ ܠܗ ܀
13 Nid fy mwriad yw cael esmwythyd i eraill ar draul gorthrymder i chwi,
13ܠܐ ܗܘܐ ܓܝܪ ܕܠܐܚܪܢܐ ܬܗܘܐ ܪܘܚܬܐ ܘܠܟܘܢ ܐܘܠܨܢܐ ܀
14 ond eich gwneud yn gyfartal. Yn yr amser presennol hwn y mae'r hyn sydd dros ben gennych chwi yn cyflenwi eu diffyg hwy, fel y bydd i'r hyn sydd dros ben ganddynt hwy gyflenwi eich diffyg chwi maes o law. Cyfartaledd yw'r diben.
14ܐܠܐ ܒܫܘܝܘܬܐ ܗܘܘ ܒܙܒܢܐ ܗܢܐ ܕܝܬܝܪܘܬܟܘܢ ܕܝܠܟܘܢ ܬܗܘܐ ܠܚܤܝܪܘܬܗܘܢ ܕܗܠܝܢ ܕܐܦ ܝܬܝܪܘܬܗܘܢ ܕܗܢܘܢ ܬܗܘܐ ܠܚܤܝܪܘܬܟܘܢ ܕܝܠܟܘܢ ܕܬܗܘܐ ܫܘܝܘܬܐ ܀
15 Fel y mae'n ysgrifenedig: "Nid oedd gormod gan y sawl a gasglodd lawer, na phrinder gan y sawl a gasglodd ychydig."
15ܐܝܟ ܕܟܬܝܒ ܕܗܘ ܕܐܤܓܝ ܫܩܠ ܠܐ ܐܬܝܬܪ ܠܗ ܘܗܘ ܕܩܠܝܠ ܫܩܠ ܠܐ ܐܬܒܨܪ ܠܗ ܀
16 Diolch i Dduw, yr hwn a roddodd yng nghalon Titus yr un ymroddiad drosoch.
16ܛܝܒܘ ܕܝܢ ܠܐܠܗܐ ܕܝܗܒܗ ܚܦܝܛܘܬܐ ܗܕܐ ܚܠܦܝܟܘܢ ܒܠܒܗ ܕܛܛܘܤ ܀
17 Oherwydd nid yn unig gwrandawodd ar ein hap�l, ond gymaint yw ei ymroddiad fel y mae o'i wirfodd ei hun yn ymadael i fynd atoch.
17ܒܥܘܬܢ ܓܝܪ ܩܒܠ ܘܡܛܠ ܕܛܒ ܒܛܝܠ ܠܗ ܡܢ ܨܒܝܢܗ ܢܦܩ ܨܐܕܝܟܘܢ ܀
18 Yr ydym yn anfon gydag ef y brawd sy'n uchel ei glod drwy'r holl eglwysi am ei waith dros yr Efengyl,
18ܫܕܪܢ ܕܝܢ ܥܡܗ ܠܐܚܘܢ ܐܝܢܐ ܕܬܫܒܘܚܬܗ ܒܐܘܢܓܠܝܘܢ ܒܟܠܗܝܢ ܥܕܬܐ ܀
19 un sydd, heblaw hyn, wedi ei benodi gan yr eglwysi i fod yn gyd-deithiwr � ni, ac i'n cynorthwyo yn y rhodd raslon yr ydym yn ei gweinyddu, i ddangos gogoniant yr Arglwydd ei hun a'n heiddgarwch ni.
19ܗܟܢܐ ܕܐܦ ܡܓܒܐ ܓܒܐ ܡܢ ܥܕܬܐ ܕܢܦܘܩ ܥܡܢ ܒܛܝܒܘܬܐ ܗܕܐ ܕܡܫܬܡܫܐ ܡܢܢ ܠܫܘܒܚܗ ܕܝܠܗ ܕܐܠܗܐ ܘܠܠܘܒܒܢ ܕܝܠܢ ܀
20 Yn hyn oll yr ydym yn gofalu na chaiff neb fai ynom mewn perthynas �'r rhodd hael hon a weinyddir gennym.
20ܩܢܝܛܝܢܢ ܕܝܢ ܒܗܕܐ ܕܠܐ ܐܢܫ ܢܤܝܡ ܒܢ ܡܘܡܐ ܒܗܕܐ ܪܒܘܬܐ ܕܡܫܬܡܫܐ ܡܢܢ ܀
21 Oherwydd y mae ein hamcanion yn anrhydeddus, nid yn unig yng ngolwg yr Arglwydd, ond hefyd yng ngolwg pobl.
21ܝܨܝܦܝܢܢ ܓܝܪ ܕܫܦܝܪܬܐ ܠܐ ܩܕܡ ܐܠܗܐ ܒܠܚܘܕ ܐܠܐ ܐܦ ܩܕܡ ܒܢܝܢܫܐ ܀
22 Yr ydym hefyd yn anfon gyda hwy ein brawd, yr un y cawsom brawf o'i ymroddiad mewn llawer modd a llawer gwaith. Y mae yn awr yn fwy ymroddgar byth oherwydd yr ymddiriedaeth lwyr sydd ganddo ynoch.
22ܫܕܪܢ ܕܝܢ ܥܡܗܘܢ ܐܦ ܠܐܚܘܢ ܐܝܢܐ ܕܠܢ ܒܩܐ ܒܟܠܙܒܢ ܒܤܓܝܐܬܐ ܕܚܦܝܛܐ ܗܘ ܗܫܐ ܕܝܢ ܝܬܝܪܐܝܬ ܚܦܝܛ ܒܬܘܟܠܢܐ ܤܓܝܐܐ ܕܥܠܝܟܘܢ ܀
23 Os gofynnir am Titus, fy nghydymaith yw, a'm cydweithiwr yn eich gwasanaeth; neu am y brodyr, cenhadau'r eglwysi ydynt, a gogoniant Crist.
23ܐܢ ܗܟܝܠ ܛܛܘܤ ܫܘܬܦܐ ܗܘ ܕܝܠܝ ܘܡܥܕܪܢܐ ܒܟܘܢ ܘܐܢ ܐܚܝܢ ܐܚܪܢܐ ܫܠܝܚܐ ܐܢܘܢ ܕܥܕܬܐ ܕܫܘܒܚܗ ܕܡܫܝܚܐ ܀
24 Am hynny, dangoswch iddynt brawf o'ch cariad, ac o'n hymffrost ni amdanoch, yng ngu373?ydd yr eglwysi.
24ܡܟܝܠ ܬܚܘܝܬܐ ܕܚܘܒܟܘܢ ܘܫܘܒܗܪܢ ܕܒܟܘܢ ܒܗܘܢ ܚܘܘ ܒܦܪܨܘܦ ܥܕܬܐ ܟܠܗܝܢ ܀