1 Yr oedd rhyw ddyn o'r enw Lasarus yn wael. Yr oedd yn byw ym Methania, pentref Mair a'i chwaer Martha.
1ܐܝܬ ܗܘܐ ܕܝܢ ܚܕ ܕܟܪܝܗ ܠܥܙܪ ܡܢ ܒܝܬ ܥܢܝܐ ܩܪܝܬܐ ܐܚܘܗ ܕܡܪܝܡ ܘܕܡܪܬܐ ܀
2 Mair oedd y ferch a eneiniodd yr Arglwydd ag ennaint, a sychu ei draed �'i gwallt; a'i brawd hi, Lasarus, oedd yn wael.
2ܡܪܝܡ ܕܝܢ ܗܕܐ ܐܝܬܝܗ ܗܝ ܕܡܫܚܬ ܒܒܤܡܐ ܪܓܠܘܗܝ ܕܝܫܘܥ ܘܫܘܝܬ ܒܤܥܪܗ ܐܚܘܗ ܗܘܐ ܕܗܕܐ ܠܥܙܪ ܕܟܪܝܗ ܗܘܐ ܀
3 Anfonodd y chwiorydd, felly, neges at Iesu: "Y mae dy gyfaill, syr, yma'n wael."
3ܘܫܕܪܝܢ ܬܪܬܝܗܝܢ ܐܚܘܬܗ ܠܘܬ ܝܫܘܥ ܘܐܡܪܢ ܡܪܢ ܗܐ ܗܘ ܕܪܚܡ ܐܢܬ ܟܪܝܗ ܀
4 Pan glywodd Iesu, meddai, "Nid yw'r gwaeledd hwn i fod yn angau i Lasarus, ond yn ogoniant i Dduw; bydd yn gyfrwng i Fab Duw gael ei ogoneddu drwyddo."
4ܝܫܘܥ ܕܝܢ ܐܡܪ ܗܢܐ ܟܘܪܗܢܐ ܠܐ ܗܘܐ ܕܡܘܬܐ ܐܠܐ ܚܠܦ ܬܫܒܘܚܬܐ ܕܐܠܗܐ ܕܢܫܬܒܚ ܒܪܗ ܕܐܠܗܐ ܡܛܠܬܗ ܀
5 Yn awr yr oedd Iesu'n caru Martha a'i chwaer a Lasarus.
5ܡܚܒ ܗܘܐ ܕܝܢ ܗܘ ܝܫܘܥ ܠܡܪܬܐ ܘܠܡܪܝܡ ܘܠܠܥܙܪ ܀
6 Ac wedi clywed ei fod ef yn wael, arhosodd am ddau ddiwrnod yn y fan lle'r oedd.
6ܘܟܕ ܫܡܥ ܕܟܪܝܗ ܟܬܪ ܒܕܘܟܬܐ ܕܐܝܬܘܗܝ ܗܘܐ ܬܪܝܢ ܝܘܡܝܢ ܀
7 Ac wedyn, dywedodd wrth ei ddisgyblion, "Gadewch inni fynd yn �l i Jwdea."
7ܘܒܬܪܟܢ ܐܡܪ ܠܬܠܡܝܕܘܗܝ ܬܘ ܢܐܙܠ ܬܘܒ ܠܝܗܘܕ ܀
8 "Rabbi," meddai'r disgyblion wrtho, "gynnau yr oedd yr Iddewon yn ceisio dy labyddio. Sut y gelli fynd yn �l yno?"
8ܐܡܪܝܢ ܠܗ ܬܠܡܝܕܘܗܝ ܪܒܢ ܗܫܐ ܝܗܘܕܝܐ ܒܥܝܢ ܗܘܘ ܠܡܪܓܡܟ ܘܬܘܒ ܐܙܠ ܐܢܬ ܠܬܡܢ ܀
9 Atebodd Iesu: "Onid oes deuddeg awr mewn diwrnod? Os yw rhywun yn cerdded yng ngolau dydd, nid yw'n baglu, oherwydd y mae'n gweld golau'r byd hwn.
9ܐܡܪ ܠܗܘܢ ܝܫܘܥ ܠܐ ܬܪܬܥܤܪܐ ܫܥܝܢ ܐܝܬ ܒܝܘܡܐ ܘܐܢ ܐܢܫ ܡܗܠܟ ܒܐܝܡܡܐ ܠܐ ܡܬܬܩܠ ܡܛܠ ܕܚܙܐ ܢܘܗܪܗ ܕܥܠܡܐ ܗܢܐ ܀
10 Ond os yw rhywun yn cerdded yn y nos, y mae'n baglu, am nad oes golau ganddo."
10ܐܢ ܐܢܫ ܕܝܢ ܒܠܠܝܐ ܢܗܠܟ ܡܬܬܩܠ ܡܛܠ ܕܢܗܝܪܐ ܠܝܬ ܒܗ ܀
11 Ar �l dweud hyn meddai wrthynt, "Y mae ein cyfaill Lasarus yn huno, ond yr wyf yn mynd yno i'w ddeffro."
11ܗܠܝܢ ܐܡܪ ܝܫܘܥ ܘܒܬܪܟܢ ܐܡܪ ܠܗܘܢ ܠܥܙܪ ܪܚܡܢ ܫܟܒ ܐܠܐ ܐܙܠ ܐܢܐ ܕܐܥܝܪܝܘܗܝ ܀
12 Dywedodd y disgyblion wrtho, "Arglwydd, os yw'n huno fe gaiff ei wella."
12ܐܡܪܝܢ ܠܗ ܬܠܡܝܕܘܗܝ ܡܪܢ ܐܢ ܕܡܟ ܡܬܚܠܡ ܀
13 Ond at ei farwolaeth ef yr oedd Iesu wedi cyfeirio, a hwythau'n meddwl mai siarad am hun cwsg yr oedd.
13ܗܘ ܕܝܢ ܝܫܘܥ ܐܡܪ ܥܠ ܡܘܬܗ ܘܗܢܘܢ ܤܒܪܘ ܕܥܠ ܡܕܡܟܐ ܗܘ ܕܫܢܬܐ ܐܡܪ ܀
14 Felly dywedodd Iesu wrthynt yn blaen, "Y mae Lasarus wedi marw.
14ܗܝܕܝܢ ܐܡܪ ܠܗܘܢ ܝܫܘܥ ܦܫܝܩܐܝܬ ܠܥܙܪ ܡܝܬ ܠܗ ܀
15 Ac er eich mwyn chwi yr wyf yn falch nad oeddwn yno, er mwyn ichwi gredu. Ond gadewch inni fynd ato."
15ܘܚܕܐ ܐܢܐ ܕܠܐ ܗܘܝܬ ܬܡܢ ܡܛܠܬܟܘܢ ܕܬܗܝܡܢܘܢ ܐܠܐ ܗܠܟܘ ܠܬܡܢ ܀
16 Ac meddai Thomas, a elwir Didymus, wrth ei gyd-ddisgyblion, "Gadewch i ninnau fynd hefyd, i farw gydag ef."
16ܐܡܪ ܬܐܘܡܐ ܕܡܬܐܡܪ ܬܐܡܐ ܠܬܠܡܝܕܐ ܚܒܪܘܗܝ ܢܐܙܠ ܐܦ ܚܢܢ ܢܡܘܬ ܥܡܗ ܀
17 Pan gyrhaeddodd yno, cafodd Iesu fod Lasarus eisoes yn ei fedd ers pedwar diwrnod.
17ܘܐܬܐ ܝܫܘܥ ܠܒܝܬ ܥܢܝܐ ܘܐܫܟܚ ܕܐܪܒܥܐ ܠܗ ܝܘܡܝܢ ܕܐܝܬܘܗܝ ܒܒܝܬ ܩܒܘܪܐ ܀
18 Yr oedd Bethania yn ymyl Jerwsalem, ryw dri chilomedr oddi yno.
18ܐܝܬܝܗ ܗܘܬ ܕܝܢ ܒܝܬ ܥܢܝܐ ܥܠ ܓܢܒ ܐܘܪܫܠܡ ܟܕ ܦܪܝܩܐ ܡܢܗ ܐܝܟ ܐܤܛܕܘܬܐ ܚܡܫܬܥܤܪ ܀
19 Ac yr oedd llawer o'r Iddewon wedi dod at Martha a Mair i'w cysuro ar golli eu brawd.
19ܘܤܓܝܐܐ ܡܢ ܝܗܘܕܝܐ ܐܬܝܐܝܢ ܗܘܘ ܠܘܬ ܡܪܬܐ ܘܡܪܝܡ ܕܢܡܠܘܢ ܒܠܒܗܝܢ ܡܛܠ ܐܚܘܗܝܢ ܀
20 Pan glywodd Martha fod Iesu yn dod, aeth i'w gyfarfod; ond eisteddodd Mair yn y tu375?.
20ܡܪܬܐ ܕܝܢ ܟܕ ܫܡܥܬ ܕܝܫܘܥ ܐܬܐ ܢܦܩܬ ܠܐܘܪܥܗ ܡܪܝܡ ܕܝܢ ܒܒܝܬܐ ܝܬܒܐ ܗܘܬ ܀
21 Dywedodd Martha wrth Iesu, "Pe buasit ti yma, syr, ni buasai fy mrawd wedi marw.
21ܘܐܡܪܬ ܡܪܬܐ ܠܝܫܘܥ ܡܪܝ ܐܠܘ ܬܢܢ ܗܘܝܬ ܠܐ ܡܐܬ ܗܘܐ ܐܚܝ ܀
22 A hyd yn oed yn awr, mi wn y rhydd Duw i ti beth bynnag a ofynni ganddo."
22ܐܠܐ ܐܦ ܗܫܐ ܝܕܥܐ ܐܢܐ ܕܟܡܐ ܕܬܫܐܠ ܠܐܠܗܐ ܝܗܒ ܠܟ ܀
23 Dywedodd Iesu wrthi, "Fe atgyfoda dy frawd."
23ܐܡܪ ܠܗ ܝܫܘܥ ܩܐܡ ܐܚܘܟܝ ܀
24 "Mi wn," meddai Martha wrtho, "y bydd yn atgyfodi yn yr atgyfodiad ar y dydd olaf."
24ܐܡܪܐ ܠܗ ܡܪܬܐ ܝܕܥܐܢܐ ܕܩܐܡ ܒܢܘܚܡܐ ܒܝܘܡܐ ܐܚܪܝܐ ܀
25 Dywedodd Iesu wrthi, "Myfi yw'r atgyfodiad a'r bywyd. Pwy bynnag sy'n credu ynof fi, er iddo farw, fe fydd byw;
25ܐܡܪ ܠܗ ܝܫܘܥ ܐܢܐ ܐܢܐ ܢܘܚܡܐ ܘܚܝܐ ܡܢ ܕܡܗܝܡܢ ܒܝ ܐܦܢ ܢܡܘܬ ܢܚܐ ܀
26 a phob un sy'n byw ac yn credu ynof fi, ni bydd marw byth. A wyt ti'n credu hyn?"
26ܘܟܠ ܕܚܝ ܘܡܗܝܡܢ ܒܝ ܠܥܠܡ ܠܐ ܢܡܘܬ ܡܗܝܡܢܬܝ ܗܕܐ ܀
27 "Ydwyf, Arglwydd," atebodd hithau, "yr wyf fi'n credu mai tydi yw'r Meseia, Mab Duw, yr Un sy'n dod i'r byd."
27ܐܡܪܐ ܠܗ ܐܝܢ ܡܪܝ ܐܢܐ ܡܗܝܡܢܐ ܐܢܐ ܕܐܢܬ ܗܘ ܡܫܝܚܐ ܒܪܗ ܕܐܠܗܐ ܕܐܬܐ ܠܥܠܡܐ ܀
28 Wedi iddi ddweud hyn, aeth ymaith a galw ei chwaer Mair a dweud wrthi o'r neilltu, "Y mae'r Athro wedi cyrraedd, ac y mae am dy weld."
28ܘܟܕ ܐܡܪܬ ܗܠܝܢ ܐܙܠܬ ܩܪܬ ܠܡܪܝܡ ܚܬܗ ܟܤܝܐܝܬ ܘܐܡܪܐ ܠܗ ܪܒܢ ܐܬܐ ܘܩܪܐ ܠܟܝ ܀
29 Pan glywodd Mair hyn, cododd ar frys a mynd ato ef.
29ܘܡܪܝܡ ܟܕ ܫܡܥܬ ܩܡܬ ܥܓܠ ܘܐܬܝܐ ܗܘܬ ܠܘܬܗ ܀
30 Nid oedd Iesu wedi dod i mewn i'r pentref eto, ond yr oedd yn dal yn y fan lle'r oedd Martha wedi ei gyfarfod.
30ܗܘ ܕܝܢ ܝܫܘܥ ܠܐ ܥܕܟܝܠ ܐܬܐ ܗܘܐ ܠܩܪܝܬܐ ܐܠܐ ܒܗ ܗܘܐ ܒܗܝ ܕܘܟܬܐ ܕܐܪܥܬܗ ܡܪܬܐ ܀
31 Pan welodd yr Iddewon, a oedd gyda hi yn y tu375? yn ei chysuro, fod Mair wedi codi ar frys a mynd allan, aethant ar ei h�l gan dybio ei bod hi'n mynd at y bedd, i wylo yno.
31ܐܦ ܗܢܘܢ ܕܝܢ ܝܗܘܕܝܐ ܕܐܝܬ ܗܘܘ ܥܡܗ ܒܒܝܬܐ ܕܡܒܝܐܝܢ ܗܘܘ ܠܗ ܕܚܙܘ ܠܡܪܝܡ ܕܥܓܠ ܩܡܬ ܢܦܩܬ ܐܙܠܘ ܠܗܘܢ ܒܬܪܗ ܤܒܪܘ ܓܝܪ ܕܠܩܒܪܐ ܐܙܠܐ ܠܡܒܟܐ ܀
32 A phan ddaeth Mair i'r fan lle'r oedd Iesu, a'i weld, syrthiodd wrth ei draed ac meddai wrtho, "Pe buasit ti yma, syr, ni buasai fy mrawd wedi marw."
32ܗܝ ܕܝܢ ܡܪܝܡ ܟܕ ܐܬܬ ܐܝܟܐ ܕܐܝܬܘܗܝ ܗܘܐ ܝܫܘܥ ܘܚܙܬܗ ܢܦܠܬ ܥܠ ܪܓܠܘܗܝ ܘܐܡܪܐ ܠܗ ܐܠܘ ܬܢܢ ܗܘܝܬ ܡܪܝ ܠܐ ܡܐܬ ܗܘܐ ܐܚܝ ܀
33 Wrth ei gweld hi'n wylo, a'r Iddewon oedd wedi dod gyda hi hwythau'n wylo, cynhyrfwyd ysbryd Iesu gan deimlad dwys.
33ܝܫܘܥ ܕܝܢ ܟܕ ܚܙܗ ܕܒܟܝܐ ܘܠܝܗܘܕܝܐ ܗܢܘܢ ܕܐܬܘ ܥܡܗ ܕܒܟܝܢ ܐܬܥܙܙ ܒܪܘܚܗ ܘܐܙܝܥ ܢܦܫܗ ܀
34 "Ble'r ydych wedi ei roi i orwedd?" gofynnodd. "Tyrd i weld, syr," meddant wrtho.
34ܘܐܡܪ ܐܝܟܐ ܤܡܬܘܢܝܗܝ ܘܐܡܪܝܢ ܠܗ ܡܪܢ ܬܐ ܚܙܝ ܀
35 Torrodd Iesu i wylo.
35ܘܐܬܝܢ ܗܘܝ ܕܡܥܘܗܝ ܕܝܫܘܥ ܀
36 Yna dywedodd yr Iddewon, "Gwelwch gymaint yr oedd yn ei garu ef."
36ܘܐܡܪܝܢ ܗܘܘ ܝܗܘܕܝܐ ܚܙܘ ܟܡܐ ܪܚܡ ܗܘܐ ܠܗ ܀
37 Ond dywedodd rhai ohonynt, "Oni allai hwn, a agorodd lygaid y dall, gadw'r dyn yma hefyd rhag marw?"
37ܐܢܫܝܢ ܕܝܢ ܡܢܗܘܢ ܐܡܪܘ ܠܐ ܡܫܟܚ ܗܘܐ ܗܢܐ ܕܦܬܚ ܥܝܢܘܗܝ ܕܗܘ ܤܡܝܐ ܢܥܒܕ ܕܐܦ ܗܢܐ ܠܐ ܢܡܘܬ ܀
38 Dan deimlad dwys drachefn, daeth Iesu at y bedd. Ogof ydoedd, a maen yn gorwedd ar ei thraws.
38ܝܫܘܥ ܕܝܢ ܟܕ ܡܬܥܙܙ ܒܝܢܘܗܝ ܘܠܗ ܐܬܐ ܠܒܝܬ ܩܒܘܪܐ ܘܗܘ ܒܝܬ ܩܒܘܪܐ ܐܝܬܘܗܝ ܗܘܐ ܡܥܪܬܐ ܘܟܐܦܐ ܤܝܡܐ ܗܘܬ ܥܠ ܬܪܥܗ ܀
39 "Symudwch y maen," meddai Iesu. A dyma Martha, chwaer y dyn oedd wedi marw, yn dweud wrtho, "Erbyn hyn, syr, y mae'n drewi; y mae yma ers pedwar diwrnod."
39ܘܐܡܪ ܝܫܘܥ ܫܩܘܠܘ ܟܐܦܐ ܗܕܐ ܐܡܪܐ ܠܗ ܡܪܬܐ ܚܬܗ ܕܗܘ ܡܝܬܐ ܡܪܝ ܡܢ ܟܕܘ ܤܪܝ ܠܗ ܐܪܒܥܐ ܠܗ ܓܝܪ ܝܘܡܝܢ ܀
40 "Oni ddywedais wrthyt," meddai Iesu wrthi, "y cait weld gogoniant Duw, dim ond iti gredu?"
40ܐܡܪ ܠܗ ܝܫܘܥ ܠܐ ܐܡܪܬ ܠܟܝ ܕܐܢ ܬܗܝܡܢܝܢ ܬܚܙܝܢ ܫܘܒܚܗ ܕܐܠܗܐ ܀
41 Felly symudasant y maen. A chododd Iesu ei lygaid i fyny a dweud, "O Dad, rwy'n diolch i ti am wrando arnaf.
41ܘܫܩܠܘ ܟܐܦܐ ܗܝ ܘܗܘ ܝܫܘܥ ܐܪܝܡ ܥܝܢܘܗܝ ܠܥܠ ܘܐܡܪ ܐܒܐ ܡܘܕܐ ܐܢܐ ܠܟ ܕܫܡܥܬܢܝ ܀
42 Roeddwn i'n gwybod dy fod bob amser yn gwrando arnaf, ond dywedais hyn o achos y dyrfa sy'n sefyll o gwmpas, er mwyn iddynt gredu mai tydi a'm hanfonodd."
42ܘܐܢܐ ܝܕܥ ܐܢܐ ܕܒܟܠܙܒܢ ܫܡܥ ܐܢܬ ܠܝ ܐܠܐ ܡܛܠ ܟܢܫܐ ܗܢܐ ܕܩܐܡ ܐܡܪ ܐܢܐ ܗܠܝܢ ܕܢܗܝܡܢܘܢ ܕܐܢܬ ܫܕܪܬܢܝ ܀
43 Ac wedi dweud hyn, gwaeddodd � llais uchel, "Lasarus, tyrd allan."
43ܘܟܕ ܐܡܪ ܗܠܝܢ ܩܥܐ ܒܩܠܐ ܪܡܐ ܠܥܙܪ ܬܐ ܠܒܪ ܀
44 Daeth y dyn a fu farw allan, a'i draed a'i ddwylo wedi eu rhwymo � llieiniau, a chadach am ei wyneb. Dywedodd Iesu wrthynt, "Datodwch ei rwymau, a gadewch iddo fynd."
44ܘܢܦܩ ܗܘ ܡܝܬܐ ܟܕ ܐܤܝܪܢ ܐܝܕܘܗܝ ܘܪܓܠܘܗܝ ܒܦܤܩܝܬܐ ܘܐܦܘܗܝ ܐܤܝܪܢ ܒܤܘܕܪܐ ܐܡܪ ܠܗܘܢ ܝܫܘܥ ܫܪܐܘܗܝ ܘܫܒܘܩܘ ܐܙܠ ܀
45 Felly daeth llawer o'r Iddewon, y rhai oedd wedi dod at Mair a gweld beth yr oedd Iesu wedi ei wneud, i gredu ynddo.
45ܘܤܓܝܐܐ ܡܢ ܝܗܘܕܝܐ ܕܐܬܘ ܠܘܬ ܡܪܝܡ ܟܕ ܚܙܘ ܡܕܡ ܕܥܒܕ ܝܫܘܥ ܗܝܡܢܘ ܒܗ ܀
46 Ond aeth rhai ohonynt i ffwrdd at y Phariseaid a dweud wrthynt beth yr oedd Iesu wedi ei wneud.
46ܘܐܢܫܝܢ ܡܢܗܘܢ ܐܙܠܘ ܠܘܬ ܦܪܝܫܐ ܘܐܡܪܘ ܠܗܘܢ ܡܕܡ ܕܥܒܕ ܝܫܘܥ ܀
47 Am hynny galwodd y prif offeiriaid a'r Phariseaid gyfarfod o'r Sanhedrin, a dywedasant: "Beth yr ydym am ei wneud? Y mae'r dyn yma'n gwneud llawer o arwyddion.
47ܘܐܬܟܢܫܘ ܪܒܝ ܟܗܢܐ ܘܦܪܝܫܐ ܘܐܡܪܝܢ ܗܘܘ ܡܢܐ ܢܥܒܕ ܕܗܢܐ ܓܒܪܐ ܐܬܘܬܐ ܤܓܝܐܬܐ ܥܒܕ ܀
48 Os gadawn iddo barhau fel hyn, bydd pawb yn credu ynddo, ac fe ddaw'r Rhufeiniaid a chymryd oddi wrthym ein teml a'n cenedl hefyd."
48ܘܐܢ ܫܒܩܝܢ ܚܢܢ ܠܗ ܗܟܢܐ ܟܠܗܘܢ ܐܢܫܐ ܡܗܝܡܢܝܢ ܒܗ ܘܐܬܝܢ ܪܗܘܡܝܐ ܫܩܠܝܢ ܐܬܪܢ ܘܥܡܢ ܀
49 Ond dyma un ohonynt, Caiaffas, a oedd yn archoffeiriad y flwyddyn honno, yn dweud wrthynt: "Nid ydych chwi'n deall dim.
49ܚܕ ܕܝܢ ܡܢܗܘܢ ܕܫܡܗ ܩܝܦܐ ܪܒ ܟܗܢܐ ܗܘܐ ܕܗܝ ܫܢܬܐ ܘܐܡܪ ܠܗܘܢ ܐܢܬܘܢ ܠܐ ܝܕܥܝܢ ܐܢܬܘܢ ܡܕܡ ܀
50 Nid ydych yn sylweddoli mai mantais i chwi fydd i un dyn farw dros y bobl, yn hytrach na bod y genedl gyfan yn cael ei difodi."
50ܘܠܐ ܡܬܚܫܒܝܢ ܐܢܬܘܢ ܕܦܩܚ ܠܢ ܕܚܕ ܓܒܪܐ ܢܡܘܬ ܚܠܦ ܥܡܐ ܘܠܐ ܟܠܗ ܥܡܐ ܢܐܒܕ ܀
51 Nid ohono'i hun y dywedodd hyn, ond proffwydo yr oedd, ac yntau'n archoffeiriad y flwyddyn honno, fod Iesu'n mynd i farw dros y genedl,
51ܗܕܐ ܕܝܢ ܡܢ ܨܒܘܬ ܢܦܫܗ ܠܐ ܐܡܪ ܐܠܐ ܡܛܠ ܕܪܒ ܟܗܢܐ ܗܘܐ ܕܗܝ ܫܢܬܐ ܐܬܢܒܝ ܕܥܬܝܕ ܗܘܐ ܝܫܘܥ ܕܢܡܘܬ ܚܠܦ ܥܡܐ ܀
52 ac nid dros y genedl yn unig ond hefyd er mwyn casglu plant Duw oedd ar wasgar, a'u gwneud yn un.
52ܘܠܐ ܒܠܚܘܕ ܚܠܦ ܥܡܐ ܐܠܐ ܕܐܦ ܒܢܝܐ ܕܐܠܗܐ ܕܡܒܕܪܝܢ ܢܟܢܫ ܠܚܕܐ ܀
53 o'r diwrnod hwnnw, felly, gwnaethant gynllwyn i'w ladd ef.
53ܘܡܢ ܗܘ ܝܘܡܐ ܐܬܚܫܒܘ ܗܘܘ ܕܢܩܛܠܘܢܝܗܝ ܀
54 Am hynny, peidiodd Iesu mwyach � mynd oddi amgylch yn agored ymhlith yr Iddewon. Aeth i ffwrdd oddi yno i'r wlad sydd yn ymyl yr anialwch, i dref a elwir Effraim, ac arhosodd yno gyda'i ddisgyblion.
54ܗܘ ܕܝܢ ܝܫܘܥ ܠܐ ܡܗܠܟ ܗܘܐ ܓܠܝܐܝܬ ܒܝܬ ܝܗܘܕܝܐ ܐܠܐ ܐܙܠ ܠܗ ܡܢ ܬܡܢ ܠܐܬܪܐ ܕܩܪܝܒ ܠܚܘܪܒܐ ܠܟܪܟܐ ܕܡܬܩܪܐ ܐܦܪܝܡ ܘܬܡܢ ܡܬܗܦܟ ܗܘܐ ܥܡ ܬܠܡܝܕܘܗܝ ܀
55 Yn awr yr oedd Pasg yr Iddewon yn ymyl, ac aeth llawer i fyny i Jerwsalem o'r wlad cyn y Pasg, ar gyfer defod eu puredigaeth.
55ܩܪܝܒ ܗܘܐ ܕܝܢ ܦܨܚܐ ܕܝܗܘܕܝܐ ܘܤܠܩܘ ܤܓܝܐܐ ܡܢ ܩܘܪܝܐ ܠܐܘܪܫܠܡ ܩܕܡ ܥܕܥܕܐ ܕܢܕܟܘܢ ܢܦܫܗܘܢ ܀
56 Ac yr oeddent yn chwilio am Iesu, ac yn sefyll yn y deml a dweud wrth ei gilydd, "Beth dybiwch chwi? Nad yw ef ddim yn dod i'r u373?yl?"
56ܘܒܥܝܢ ܗܘܘ ܠܗ ܠܝܫܘܥ ܘܐܡܪܝܢ ܗܘܘ ܚܕ ܠܚܕ ܒܗܝܟܠܐ ܡܢܐ ܤܒܪܝܢ ܐܢܬܘܢ ܕܠܐ ܐܬܐ ܠܥܕܥܕܐ ܀
57 Ac er mwyn iddynt ei ddal, yr oedd y prif offeiriaid a'r Phariseaid wedi rhoi gorchmynion, os oedd rhywun yn gwybod lle'r oedd ef, ei fod i'w hysbysu hwy.
57ܪܒܝ ܟܗܢܐ ܕܝܢ ܘܦܪܝܫܐ ܦܩܕܘ ܗܘܘ ܕܐܢ ܐܢܫ ܢܕܥ ܐܝܟܘ ܢܒܕܩ ܠܗܘܢ ܐܝܟ ܕܢܐܚܕܘܢܝܗܝ ܀