1 Chwe diwrnod cyn y Pasg, daeth Iesu i Fethania, lle'r oedd Lasarus yn byw, y dyn yr oedd wedi ei godi oddi wrth y meirw.
1ܝܫܘܥ ܕܝܢ ܩܕܡ ܫܬܐ ܝܘܡܝܢ ܕܦܨܚܐ ܐܬܐ ܠܒܝܬ ܥܢܝܐ ܐܝܟܐ ܕܐܝܬܘܗܝ ܗܘܐ ܠܥܙܪ ܗܘ ܕܐܩܝܡ ܡܢ ܒܝܬ ܡܝܬܐ ܗܘ ܝܫܘܥ ܀
2 Yno gwnaethpwyd iddo swper; yr oedd Martha yn gweini, a Lasarus yn un o'r rhai oedd gydag ef wrth y bwrdd.
2ܘܥܒܕܘ ܠܗ ܬܡܢ ܚܫܡܝܬܐ ܘܡܪܬܐ ܡܫܡܫܐ ܗܘܬ ܘܠܥܙܪ ܚܕ ܡܢ ܤܡܝܟܐ ܗܘܐ ܕܥܡܗ ܀
3 A chymerodd Mair fesur o ennaint costfawr, nard pur, ac eneiniodd draed Iesu a'u sychu �'i gwallt. A llanwyd y tu375? gan bersawr yr ennaint.
3ܡܪܝܡ ܕܝܢ ܫܩܠܬ ܫܛܝܦܬܐ ܕܒܤܡܐ ܕܢܪܕܝܢ ܪܫܝܐ ܤܓܝ ܕܡܝܐ ܘܡܫܚܬ ܪܓܠܘܗܝ ܕܝܫܘܥ ܘܫܘܝܬ ܒܤܥܪܗ ܪܓܠܘܗܝ ܘܐܬܡܠܝ ܒܝܬܐ ܡܢ ܪܝܚܗ ܕܒܤܡܐ ܀
4 A dyma Jwdas Iscariot, un o'i ddisgyblion, yr un oedd yn mynd i'w fradychu, yn dweud,
4ܘܐܡܪ ܝܗܘܕܐ ܤܟܪܝܘܛܐ ܚܕ ܡܢ ܬܠܡܝܕܘܗܝ ܗܘ ܕܥܬܝܕ ܗܘܐ ܕܢܫܠܡܝܘܗܝ ܀
5 "Pam na werthwyd yr ennaint hwn am dri chant o ddarnau arian, a'i roi i'r tlodion?"
5ܠܡܢܐ ܠܐ ܐܙܕܒܢ ܡܫܚܐ ܗܢܐ ܒܬܠܬ ܡܐܐ ܕܝܢܪܝܢ ܘܐܬܝܗܒ ܠܡܤܟܢܐ ܀
6 Ond fe ddywedodd hyn, nid am fod gofal ganddo am y tlodion, ond am mai lleidr ydoedd, yn cymryd o'r cyfraniadau yn y god arian oedd yn ei ofal.
6ܗܕܐ ܕܝܢ ܐܡܪ ܠܐ ܗܘܐ ܡܛܠ ܕܥܠ ܡܤܟܢܐ ܒܛܝܠ ܗܘܐ ܠܗ ܐܠܐ ܡܛܠ ܕܓܢܒܐ ܗܘܐ ܘܓܠܘܤܩܡܐ ܠܘܬܗ ܗܘܐ ܘܡܕܡ ܕܢܦܠ ܗܘܐ ܒܗ ܗܘ ܛܥܝܢ ܗܘܐ ܀
7 "Gad lonydd iddi," meddai Iesu, "er mwyn iddi gadw'r ddefod ar gyfer dydd fy nghladdedigaeth.
7ܐܡܪ ܕܝܢ ܝܫܘܥ ܫܒܘܩܝܗ ܠܝܘܡܐ ܕܩܒܘܪܝ ܢܛܪܬܗ ܀
8 Y mae'r tlodion gyda chwi bob amser, ond nid wyf fi gyda chwi bob amser."
8ܒܟܠܙܒܢ ܓܝܪ ܡܤܟܢܐ ܐܝܬ ܠܟܘܢ ܥܡܟܘܢ ܠܝ ܕܝܢ ܠܐ ܒܟܠܙܒܢ ܐܝܬ ܠܟܘܢ ܀
9 Daeth tyrfa fawr o'r Iddewon i wybod ei fod yno, a daethant ato, nid o achos Iesu yn unig, ond er mwyn gweld Lasarus hefyd, y dyn yr oedd ef wedi ei godi oddi wrth y meirw.
9ܘܫܡܥܘ ܟܢܫܐ ܤܓܝܐܐ ܡܢ ܝܗܘܕܝܐ ܕܬܡܢ ܗܘ ܝܫܘܥ ܘܐܬܘ ܠܐ ܡܛܠ ܝܫܘܥ ܒܠܚܘܕ ܐܠܐ ܐܦ ܕܢܚܙܘܢ ܠܠܥܙܪ ܗܘ ܕܐܩܝܡ ܡܢ ܒܝܬ ܡܝܬܐ ܀
10 Ond gwnaeth y prif offeiriaid gynllwyn i ladd Lasarus hefyd,
10ܘܐܬܪܥܝܘ ܗܘܘ ܪܒܝ ܟܗܢܐ ܕܐܦ ܠܠܥܙܪ ܢܩܛܠܘܢܝܗܝ ܀
11 gan fod llawer o'r Iddewon, o'i achos ef, yn gwrthgilio ac yn credu yn Iesu.
11ܡܛܠ ܕܤܓܝܐܐ ܡܢ ܝܗܘܕܝܐ ܡܛܠܬܗ ܐܙܠܝܢ ܗܘܘ ܘܡܗܝܡܢܝܢ ܒܝܫܘܥ ܀
12 Trannoeth, clywodd y dyrfa fawr a oedd wedi dod i'r u373?yl fod Iesu'n dod i Jerwsalem.
12ܘܠܝܘܡܐ ܐܚܪܢܐ ܟܢܫܐ ܤܓܝܐܐ ܐܝܢܐ ܕܐܬܐ ܗܘܐ ܠܥܕܥܕܐ ܟܕ ܫܡܥܘ ܕܝܫܘܥ ܐܬܐ ܠܐܘܪܫܠܡ ܀
13 Cymerasant ganghennau o'r palmwydd ac aethant allan i'w gyfarfod, gan weiddi: "Hosanna! Bendigedig yw'r un sy'n dod yn enw'r Arglwydd, yn Frenin Israel."
13ܫܩܠܘ ܤܘܟܐ ܕܕܩܠܐ ܘܢܦܩܘ ܠܐܘܪܥܗ ܘܩܥܝܢ ܗܘܘ ܘܐܡܪܝܢ ܐܘܫܥܢܐ ܒܪܝܟ ܗܘ ܕܐܬܐ ܒܫܡܗ ܕܡܪܝܐ ܡܠܟܐ ܕܐܝܤܪܝܠ ܀
14 Cafodd Iesu hyd i asyn ifanc ac eistedd arno, fel y mae'n ysgrifenedig:
14ܐܫܟܚ ܕܝܢ ܝܫܘܥ ܚܡܪܐ ܘܝܬܒ ܥܠܘܗܝ ܐܝܟܢܐ ܕܟܬܝܒ ܀
15 "Paid ag ofni, ferch Seion; wele dy frenin yn dod, yn eistedd ar ebol asen."
15ܠܐ ܬܕܚܠܝܢ ܒܪܬ ܨܗܝܘܢ ܗܐ ܡܠܟܟܝ ܐܬܐ ܠܟܝ ܘܪܟܝܒ ܥܠ ܥܝܠܐ ܒܪ ܐܬܢܐ ܀
16 Ar y cyntaf ni ddeallodd y disgyblion ystyr y pethau hyn, ond wedi i Iesu gael ei ogoneddu, cofiasant fod y pethau hyn yn ysgrifenedig amdano, ac iddynt eu gwneud iddo.
16ܗܠܝܢ ܕܝܢ ܠܐ ܝܕܥܘ ܬܠܡܝܕܘܗܝ ܒܗܘ ܙܒܢܐ ܐܠܐ ܟܕ ܐܫܬܒܚ ܝܫܘܥ ܐܬܕܟܪܘ ܬܠܡܝܕܘܗܝ ܕܗܠܝܢ ܟܬܝܒܢ ܗܘܝ ܥܠܘܗܝ ܘܗܠܝܢ ܥܒܕܘ ܠܗ ܀
17 Yr oedd y dyrfa, a oedd gydag ef pan alwodd Lasarus o'r bedd a'i godi o blith y meirw, yn tystiolaethu am hynny.
17ܘܤܗܕ ܗܘܐ ܟܢܫܐ ܗܘ ܕܥܡܗ ܗܘܐ ܕܩܪܐ ܠܠܥܙܪ ܡܢ ܩܒܪܐ ܘܐܩܝܡܗ ܡܢ ܒܝܬ ܡܝܬܐ ܀
18 Dyna pam yr aeth tyrfa'r u373?yl i'w gyfarfod � yr oeddent wedi clywed am yr arwydd yma yr oedd wedi ei wneud.
18ܘܡܛܠ ܗܕܐ ܢܦܩܘ ܠܩܘܒܠܗ ܟܢܫܐ ܤܓܝܐܐ ܕܫܡܥܘ ܕܐܬܐ ܗܕܐ ܥܒܕ ܀
19 Gan hynny, dywedodd y Phariseaid wrth ei gilydd, "Edrychwch, nid ydych yn llwyddo o gwbl. Aeth y byd i gyd ar ei �l ef."
19ܦܪܝܫܐ ܕܝܢ ܐܡܪܝܢ ܗܘܘ ܚܕ ܠܚܕ ܚܙܝܢ ܐܢܬܘܢ ܕܠܐ ܡܘܬܪܝܢ ܐܢܬܘܢ ܡܕܡ ܕܗܐ ܥܠܡܐ ܟܠܗ ܐܙܠ ܠܗ ܒܬܪܗ ܀
20 Ymhlith y bobl oedd yn dod i fyny i addoli ar yr u373?yl, yr oedd rhyw Roegiaid.
20ܐܝܬ ܗܘܘ ܕܝܢ ܐܦ ܡܢ ܥܡܡܐ ܐܢܫܐ ܒܗܘܢ ܕܤܠܩܘ ܠܡܤܓܕ ܒܥܕܥܕܐ ܀
21 Daeth y rhain at Philip, a oedd o Bethsaida yng Ngalilea, a gofyn iddo, "Syr, fe hoffem weld Iesu."
21ܗܠܝܢ ܐܬܘ ܩܪܒܘ ܠܘܬ ܦܝܠܝܦܘܤ ܗܘ ܕܡܢ ܒܝܬ ܨܝܕܐ ܕܓܠܝܠܐ ܘܫܐܠܘܗܝ ܘܐܡܪܝܢ ܠܗ ܡܪܝ ܨܒܝܢ ܚܢܢ ܢܚܙܐ ܠܝܫܘܥ ܀
22 Aeth Philip i ddweud wrth Andreas; ac aeth Andreas a Philip i ddweud wrth Iesu.
22ܘܐܬܐ ܗܘ ܦܝܠܝܦܘܤ ܘܐܡܪ ܠܐܢܕܪܐܘܤ ܘܐܢܕܪܐܘܤ ܘܦܝܠܝܦܘܤ ܐܡܪܘ ܠܝܫܘܥ ܀
23 A dyma Iesu'n eu hateb. "Y mae'r awr wedi dod," meddai, "i Fab y Dyn gael ei ogoneddu.
23ܝܫܘܥ ܕܝܢ ܥܢܐ ܘܐܡܪ ܠܗܘܢ ܐܬܬ ܫܥܬܐ ܕܢܫܬܒܚ ܒܪܗ ܕܐܢܫܐ ܀
24 Yn wir, yn wir, rwy'n dweud wrthych, os nad yw'r gronyn gwenith yn syrthio i'r ddaear ac yn marw, y mae'n aros ar ei ben ei hun; ond os yw'n marw, y mae'n dwyn llawer o ffrwyth.
24ܐܡܝܢ ܐܡܝܢ ܐܡܪ ܐܢܐ ܠܟܘܢ ܕܦܪܕܬܐ ܕܚܛܬܐ ܐܠܐ ܢܦܠܐ ܘܡܝܬܐ ܒܐܪܥܐ ܒܠܚܘܕܝܗ ܦܝܫܐ ܐܢ ܕܝܢ ܡܝܬܐ ܦܐܪܐ ܤܓܝܐܐ ܡܝܬܝܐ ܀
25 Y mae'r sawl sy'n caru ei einioes yn ei cholli; a'r sawl sy'n cas�u ei einioes yn y byd hwn, bydd yn ei chadw i fywyd tragwyddol.
25ܡܢ ܕܪܚܡ ܢܦܫܗ ܢܘܒܕܝܗ ܘܡܢ ܕܤܢܐ ܢܦܫܗ ܒܥܠܡܐ ܗܢܐ ܢܛܪܝܗ ܠܚܝܐ ܕܠܥܠܡ ܀
26 Os yw rhywun am fy ngwasanaethu i, rhaid iddo fy nghanlyn i; lle bynnag yr wyf fi, yno hefyd y bydd fy ngwasanaethwr. Os yw rhywun yn fy ngwasanaethu i, fe gaiff ei anrhydeddu gan y Tad.
26ܐܢ ܠܝ ܐܢܫ ܡܫܡܫ ܢܐܬܐ ܒܬܪܝ ܘܐܝܟܐ ܕܐܢܐ ܐܝܬܝ ܬܡܢ ܢܗܘܐ ܐܦ ܡܫܡܫܢܝ ܡܢ ܕܠܝ ܡܫܡܫ ܢܝܩܪܝܘܗܝ ܐܒܐ ܀
27 "Yn awr y mae fy enaid mewn cynnwrf. Beth a ddywedaf? 'O Dad, gwared fi rhag yr awr hon'? Na, i'r diben hwn y deuthum i'r awr hon.
27ܗܫܐ ܢܦܫܝ ܗܐ ܫܓܝܫܐ ܘܡܢܐ ܐܡܪ ܐܒܝ ܦܨܢܝ ܡܢ ܗܕܐ ܫܥܬܐ ܐܠܐ ܡܛܠ ܗܢܐ ܐܬܝܬ ܠܗܕܐ ܫܥܬܐ ܀
28 O Dad, gogonedda dy enw." Yna daeth llais o'r nef: "Yr wyf wedi ei ogoneddu, ac fe'i gogoneddaf eto."
28ܐܒܐ ܫܒܚ ܫܡܟ ܘܩܠܐ ܐܫܬܡܥ ܡܢ ܫܡܝܐ ܫܒܚܬ ܘܬܘܒ ܡܫܒܚ ܐܢܐ ܀
29 Pan glywodd y dyrfa oedd yn sefyll gerllaw, dechreusant ddweud mai taran oedd; dywedodd eraill, "Angel sydd wedi llefaru wrtho."
29ܘܟܢܫܐ ܕܩܐܡ ܗܘܐ ܫܡܥܘ ܘܐܡܪܝܢ ܪܥܡܐ ܗܘܐ ܐܚܪܢܐ ܕܝܢ ܐܡܪܝܢ ܡܠܐܟܐ ܡܠܠ ܥܡܗ ܀
30 Atebodd Iesu, "Nid er fy mwyn i, ond er eich mwyn chwi, y daeth y llais hwn.
30ܥܢܐ ܝܫܘܥ ܘܐܡܪ ܠܗܘܢ ܠܐ ܗܘܐ ܡܛܠܬܝ ܗܘܐ ܩܠܐ ܗܢܐ ܐܠܐ ܡܛܠܬܟܘܢ ܀
31 Dyma awr barnu'r byd hwn; yn awr y mae tywysog y byd hwn i gael ei fwrw allan.
31ܗܫܐ ܕܝܢܗ ܗܘ ܕܥܠܡܐ ܗܢܐ ܗܫܐ ܐܪܟܘܢܐ ܕܥܠܡܐ ܗܢܐ ܡܫܬܕܐ ܠܒܪ ܀
32 A minnau, os caf fy nyrchafu oddi ar y ddaear, fe dynnaf bawb ataf fy hun."
32ܘܐܢܐ ܡܐ ܕܐܬܬܪܝܡܬ ܡܢ ܐܪܥܐ ܐܓܕ ܟܠܢܫ ܠܘܬܝ ܀
33 Dywedodd hyn i ddangos beth fyddai dull y farwolaeth oedd yn ei aros.
33ܗܕܐ ܕܝܢ ܐܡܪ ܕܢܚܘܐ ܒܐܝܢܐ ܡܘܬܐ ܡܐܬ ܀
34 Yna atebodd y dyrfa ef: "Yr ydym ni wedi dysgu o'r Gyfraith fod y Meseia i aros am byth. Sut yr wyt ti'n dweud, felly, bod yn rhaid i Fab y Dyn gael ei ddyrchafu? Pwy yw'r Mab y Dyn yma?"
34ܐܡܪܝܢ ܠܗ ܟܢܫܐ ܚܢܢ ܫܡܥܢ ܡܢ ܢܡܘܤܐ ܕܡܫܝܚܐ ܠܥܠܡ ܡܩܘܐ ܐܝܟܢܐ ܐܡܪ ܐܢܬ ܕܥܬܝܕ ܗܘ ܕܢܬܬܪܝܡ ܒܪܗ ܕܐܢܫܐ ܡܢܘ ܗܢܐ ܒܪܗ ܕܐܢܫܐ ܀
35 Dywedodd Iesu wrthynt, "Am ychydig amser eto y bydd y goleuni yn eich plith. Rhodiwch tra bo'r goleuni gennych, rhag i'r tywyllwch eich goddiweddyd. Nid yw'r sawl sy'n rhodio yn y tywyllwch yn gwybod lle y mae'n mynd.
35ܐܡܪ ܠܗܘܢ ܝܫܘܥ ܩܠܝܠ ܐܚܪܝܢ ܙܒܢܐ ܢܘܗܪܐ ܥܡܟܘܢ ܗܘ ܗܠܟܘ ܥܕ ܐܝܬ ܠܟܘܢ ܢܘܗܪܐ ܕܠܐ ܚܫܘܟܐ ܢܕܪܟܟܘܢ ܘܡܢ ܕܡܗܠܟ ܒܚܫܘܟܐ ܠܐ ܝܕܥ ܠܐܝܟܐ ܐܙܠ ܀
36 Tra bo'r goleuni gennych, credwch yn y goleuni, ac felly plant y goleuni fyddwch." Wedi iddo lefaru'r geiriau hyn, aeth Iesu i ffwrdd ac ymguddio rhagddynt.
36ܥܕ ܐܝܬ ܠܟܘܢ ܢܘܗܪܐ ܗܝܡܢܘ ܒܢܘܗܪܐ ܕܒܢܘܗܝ ܕܢܘܗܪܐ ܬܗܘܘܢ ܗܠܝܢ ܡܠܠ ܝܫܘܥ ܘܐܙܠ ܐܬܛܫܝ ܡܢܗܘܢ ܀
37 Er iddo wneud cynifer o arwyddion yng ngu373?ydd y bobl, nid oeddent yn credu ynddo.
37ܘܟܕ ܗܠܝܢ ܟܠܗܝܢ ܐܬܘܬܐ ܥܒܕ ܩܕܡܝܗܘܢ ܠܐ ܗܝܡܢܘ ܒܗ ܀
38 Cyflawnwyd felly y gair a ddywedodd y proffwyd Eseia: "Arglwydd, pwy a gredodd yr hyn a glywsant gennym? I bwy y datguddiwyd braich yr Arglwydd?"
38ܕܬܬܡܠܐ ܡܠܬܐ ܕܐܫܥܝܐ ܢܒܝܐ ܕܐܡܪ ܡܪܝ ܡܢܘ ܗܝܡܢ ܠܫܡܥܢ ܘܕܪܥܗ ܕܡܪܝܐ ܠܡܢ ܐܬܓܠܝ ܀
39 O achos hyn ni allent gredu, oherwydd dywedodd Eseia beth arall:
39ܡܛܠ ܗܢܐ ܠܐ ܡܫܟܚܝܢ ܗܘܘ ܕܢܗܝܡܢܘܢ ܡܛܠ ܕܬܘܒ ܐܡܪ ܐܫܥܝܐ ܀
40 "Y mae ef wedi dallu eu llygaid, ac wedi tywyllu eu deall, rhag iddynt weld �'u llygaid, a deall �'u meddwl, a throi'n �l, i mi eu hiach�u."
40ܕܥܘܪܘ ܥܝܢܝܗܘܢ ܘܐܚܫܟܘ ܠܒܗܘܢ ܕܠܐ ܢܚܙܘܢ ܒܥܝܢܝܗܘܢ ܘܢܤܬܟܠܘܢ ܒܠܒܗܘܢ ܘܢܬܦܢܘܢ ܘܐܤܐ ܐܢܘܢ ܀
41 Dywedodd Eseia hyn am iddo weld ei ogoniant; amdano ef yr oedd yn llefaru.
41ܗܠܝܢ ܐܡܪ ܐܫܥܝܐ ܟܕ ܚܙܐ ܫܘܒܚܗ ܘܡܠܠ ܥܠܘܗܝ ܀
42 Eto i gyd fe gredodd llawer hyd yn oed o'r llywodraethwyr ynddo ef; ond o achos y Phariseaid ni fynnent ei arddel, rhag iddynt gael eu torri allan o'r synagog.
42ܐܦ ܡܢ ܪܫܐ ܕܝܢ ܤܓܝܐܐ ܗܝܡܢܘ ܒܗ ܐܠܐ ܡܛܠ ܦܪܝܫܐ ܠܐ ܡܘܕܝܢ ܗܘܘ ܕܠܐ ܢܗܘܘܢ ܠܒܪ ܡܢ ܟܢܘܫܬܐ ܀
43 Dewisach oedd ganddynt glod gan bobl na chlod gan Dduw.
43ܪܚܡܘ ܓܝܪ ܫܘܒܚܐ ܕܒܢܝܢܫܐ ܝܬܝܪ ܡܢ ܫܘܒܚܗ ܕܐܠܗܐ ܀
44 Cyhoeddodd Iesu: "Y mae'r sawl sy'n credu ynof fi yn credu nid ynof fi ond yn yr un a'm hanfonodd i.
44ܝܫܘܥ ܕܝܢ ܩܥܐ ܘܐܡܪ ܡܢ ܕܡܗܝܡܢ ܒܝ ܠܐ ܗܘܐ ܒܝ ܡܗܝܡܢ ܐܠܐ ܒܡܢ ܕܫܕܪܢܝ ܀
45 Ac y mae'r sawl sy'n fy ngweld i yn gweld yr un a'm hanfonodd i.
45ܘܡܢ ܕܠܝ ܚܙܐ ܚܙܐ ܠܡܢ ܕܫܕܪܢܝ ܀
46 Yr wyf fi wedi dod i'r byd yn oleuni, ac felly nid yw neb sy'n credu ynof fi yn aros yn y tywyllwch.
46ܐܢܐ ܢܘܗܪܐ ܐܬܝܬ ܠܥܠܡܐ ܕܟܠ ܡܢ ܕܡܗܝܡܢ ܒܝ ܠܐ ܢܩܘܐ ܒܚܫܘܟܐ ܀
47 Os yw rhywun yn clywed fy ngeiriau i ac yn gwrthod eu cadw, nid myfi sy'n ei farnu, oherwydd ni ddeuthum i farnu'r byd ond i achub y byd.
47ܘܡܢ ܕܫܡܥ ܡܠܝ ܘܠܐ ܢܛܪ ܠܗܝܢ ܐܢܐ ܠܐ ܕܐܢ ܐܢܐ ܠܗ ܠܐ ܓܝܪ ܐܬܝܬ ܕܐܕܘܢ ܠܥܠܡܐ ܐܠܐ ܕܐܚܐ ܠܥܠܡܐ ܀
48 Y mae gan y sawl sy'n fy ngwrthod i, ac yn peidio � derbyn fy ngeiriau, un sydd yn ei farnu. Bydd y gair hwnnw a leferais i yn ei farnu yn y dydd olaf.
48ܡܢ ܕܛܠܡ ܠܝ ܘܠܐ ܡܩܒܠ ܡܠܝ ܐܝܬ ܡܢ ܕܕܐܢ ܠܗ ܡܠܬܐ ܕܡܠܠܬ ܗܝ ܕܝܢܐ ܠܗ ܒܝܘܡܐ ܐܚܪܝܐ ܀
49 Oherwydd nid ohonof fy hunan y lleferais, ond y Tad ei hun, hwnnw a'm hanfonodd i, sydd wedi rhoi gorchymyn i mi beth a ddywedaf a beth a lefaraf.
49ܕܐܢܐ ܡܢ ܢܦܫܝ ܠܐ ܡܠܠܬ ܐܠܐ ܐܒܐ ܕܫܕܪܢܝ ܗܘ ܝܗܒ ܠܝ ܦܘܩܕܢܐ ܡܢܐ ܐܡܪ ܘܡܢܐ ܐܡܠܠ ܀
50 A gwn fod ei orchymyn ef yn fywyd tragwyddol. Yr hyn yr wyf fi'n ei lefaru, felly, rwy'n ei lefaru yn union fel y mae'r Tad wedi dweud wrthyf."
50ܘܝܕܥ ܐܢܐ ܕܦܘܩܕܢܗ ܚܝܐ ܐܢܘܢ ܕܠܥܠܡ ܐܝܠܝܢ ܗܟܝܠ ܕܡܡܠܠ ܐܢܐ ܐܝܟܢܐ ܕܐܡܪ ܠܝ ܐܒܝ ܗܟܢܐ ܡܡܠܠ ܐܢܐ ܀