Welsh

World English Bible

1 Kings

2

1 Pan nesaodd y dyddiau i Ddafydd farw, gorchmynnodd i'w fab Solomon, a dweud,
1Now the days of David drew near that he should die; and he commanded Solomon his son, saying,
2 "Yr wyf fi ar fynd i ffordd yr holl ddaear; am hynny ymnertha, a bydd yn ddyn.
2“I am going the way of all the earth. You be strong therefore, and show yourself a man;
3 Cadw ofynion yr ARGLWYDD dy Dduw, gan rodio yn ei ffyrdd, ac ufuddhau i'w ddeddfau, ei orchmynion, ei farnedigaethau a'i dystiolaethau, fel yr ysgrifennwyd hwy yng nghyfraith Moses. Yna fe lwyddi ym mhob peth a wnei ym mhle bynnag y byddi'n troi;
3and keep the instruction of Yahweh your God, to walk in his ways, to keep his statutes, his commandments, his ordinances, and his testimonies, according to that which is written in the law of Moses, that you may prosper in all that you do, and wherever you turn yourself.
4 ac fe gyflawna'r ARGLWYDD ei air, a addawodd wrthyf pan ddywedodd, 'Os gwylia dy ddisgynyddion eu ffordd, a rhodio ger fy mron mewn gwirionedd, �'u holl galon ac �'u holl enaid, yna ni thorrir ymaith u373?r o'th dylwyth oddi ar orsedd Israel.'
4That Yahweh may establish his word which he spoke concerning me, saying, ‘If your children take heed to their way, to walk before me in truth with all their heart and with all their soul, there shall not fail you,’ he said, ‘a man on the throne of Israel.’
5 "Gwyddost yr hyn a wnaeth Joab fab Serfia � mi, sef yr hyn a wnaeth i ddau gadfridog lluoedd Israel, Abner fab Ner ac Amasa fab Jether; fe'u lladdodd, a thywallt gwaed rhyfel ar adeg heddwch, a thaenu gwaed rhyfel ar y gwregys am ei lwynau a'r esgidiau am ei draed.
5“Moreover you know also what Joab the son of Zeruiah did to me, even what he did to the two captains of the armies of Israel, to Abner the son of Ner, and to Amasa the son of Jether, whom he killed, and shed the blood of war in peace, and put the blood of war on his sash that was about his waist, and in his shoes that were on his feet.
6 Am hynny gwna yn �l dy ddoethineb; paid � gadael i'w benwynni ddisgyn i'r bedd mewn heddwch.
6Do therefore according to your wisdom, and don’t let his gray head go down to Sheol in peace.
7 Ond bydd yn garedig wrth feibion Barsilai o Gilead; gad iddynt fod ymysg y rhai a fydd yn bwyta wrth dy fwrdd, oherwydd daethant ataf pan oeddwn yn ffoi rhag dy frawd Absalom.
7But show kindness to the sons of Barzillai the Gileadite, and let them be of those who eat at your table; for so they came to me when I fled from Absalom your brother.
8 Y mae hefyd gyda thi Simei fab Gera, y Benjaminiad o Bahurim; fe'm melltithiodd yn filain y dydd yr euthum i Mahanaim, ond daeth i'm cyfarfod at yr Iorddonen, a thyngais wrtho yn enw'r ARGLWYDD, 'Ni 'th laddaf �'r cleddyf.'
8“Behold, there is with you Shimei the son of Gera, the Benjamite, of Bahurim, who cursed me with a grievous curse in the day when I went to Mahanaim; but he came down to meet me at the Jordan, and I swore to him by Yahweh, saying, ‘I will not put you to death with the sword.’
9 Ond yn awr, paid �'i adael yn ddi-gosb; yr wyt yn u373?r doeth, a gwyddost beth i'w wneud iddo; p�r i'w benwynni ddisgyn mewn gwaed i'r bedd."
9Now therefore don’t hold him guiltless, for you are a wise man; and you will know what you ought to do to him, and you shall bring his gray head down to Sheol with blood.”
10 Bu farw Dafydd, a chladdwyd ef yn Ninas Dafydd.
10David slept with his fathers, and was buried in the city of David.
11 Deugain mlynedd oedd y cyfnod y teyrnasodd Dafydd ar Israel; teyrnasodd yn Hebron am saith mlynedd, ac yn Jerwsalem am dri deg a thair o flynyddoedd.
11The days that David reigned over Israel were forty years; he reigned seven years in Hebron, and he reigned thirty-three years in Jerusalem.
12 Yna eisteddodd Solomon ar orsedd ei dad Dafydd, a sicrhawyd ei frenhiniaeth yn gadarn.
12Solomon sat on the throne of David his father; and his kingdom was firmly established.
13 Daeth Adoneia fab Haggith at Bathseba mam Solomon, a dywedodd hi, "Ai mewn heddwch yr wyt yn dod?" Atebodd yntau, "Mewn heddwch.
13Then Adonijah the son of Haggith came to Bathsheba the mother of Solomon. She said, “Do you come peaceably?” He said, “Peaceably.
14 Hoffwn air � thi." Atebodd hithau, "Llefara."
14He said moreover, I have something to tell you.” She said, “Say on.”
15 Yna dywedodd ef, "Fe wyddost mai eiddof fi oedd y frenhiniaeth, ac i holl Israel roi eu bryd ar fy ngwneud yn frenin; ond daeth tro ar fyd, ac aeth y frenhiniaeth i'm brawd; trwy'r ARGLWYDD y cafodd hi.
15He said, “You know that the kingdom was mine, and that all Israel set their faces on me, that I should reign. However the kingdom is turned around, and has become my brother’s; for it was his from Yahweh.
16 Yn awr y mae gennyf un cais i'w ofyn gennyt; paid �'m gwrthod." Dywedodd hithau, "Gofyn."
16Now I ask one petition of you. Don’t deny me.” She said to him, “Say on.”
17 Ac meddai ef, "Gwna gais drosof at y Brenin Solomon am iddo roi Abisag y Sunamees yn wraig imi, oherwydd ni fydd yn dy wrthod di."
17He said, “Please speak to Solomon the king (for he will not tell you ‘no’), that he give me Abishag the Shunammite as wife.”
18 A dywedodd Bathseba, "o'r gorau, mi ofynnaf drosot i'r brenin."
18Bathsheba said, “Alright. I will speak for you to the king.”
19 Felly aeth Bathseba at y Brenin Solomon i ofyn iddo dros Adoneia. Cododd y brenin i'w chyfarch ac ymgrymodd iddi; yna eisteddodd ar ei orsedd, a gosodwyd gorsedd i fam y brenin eistedd ar ei law dde.
19Bathsheba therefore went to king Solomon, to speak to him for Adonijah. The king rose up to meet her, and bowed himself to her, and sat down on his throne, and caused a throne to be set for the king’s mother; and she sat on his right hand.
20 Dywedodd hi, "Yr wyf am ofyn un cais bach gennyt; paid �'m gwrthod." Atebodd y brenin hi, "Gofyn, fy mam, oherwydd ni'th wrthodaf di."
20Then she said, “I ask one small petition of you; don’t deny me.” The king said to her, “Ask on, my mother; for I will not deny you.”
21 Dywedodd hi, "Rhodder Abisag y Sunamees i'th frawd Adoneia yn wraig."
21She said, “Let Abishag the Shunammite be given to Adonijah your brother as wife.”
22 Ond atebodd y Brenin Solomon ei fam, "A pham yr wyt ti'n gofyn am Abisag y Sunamees i Adoneia? Gofyn hefyd am y deyrnas iddo, oherwydd y mae'n frawd hu375?n na mi; gofyn am y deyrnas iddo ef, a hefyd i Abiathar yr archoffeiriad, ac i Joab fab Serfia."
22King Solomon answered his mother, “Why do you ask Abishag the Shunammite for Adonijah? Ask for him the kingdom also; for he is my elder brother; even for him, and for Abiathar the priest, and for Joab the son of Zeruiah.”
23 A thyngodd y Brenin Solomon i'r ARGLWYDD, "Fel hyn y gwnelo Duw i mi, a rhagor, os nad ar draul ei einioes ei hun y llefarodd Adoneia fel hyn.
23Then king Solomon swore by Yahweh, saying, “God do so to me, and more also, if Adonijah has not spoken this word against his own life.
24 Yn awr, cyn wired � bod yr ARGLWYDD yn fyw, a'm sicrhaodd ac a'm gosododd ar orsedd Dafydd fy nhad, ac a roes imi dylwyth yn �l ei air, yn ddiau heddiw fe roir Adoneia i farwolaeth."
24Now therefore as Yahweh lives, who has established me, and set me on the throne of David my father, and who has made me a house, as he promised, surely Adonijah shall be put to death this day.”
25 Yna gwysiodd y Brenin Solomon Benaia fab Jehoiada; ymosododd yntau ar Adoneia, a bu farw.
25King Solomon sent by Benaiah the son of Jehoiada; and he fell on him, so that he died.
26 Ac wrth Abiathar yr archoffeiriad dywedodd y brenin, "Dos i Anathoth, i'th fro dy hun, oherwydd gu373?r yn haeddu marw wyt ti, ond ni laddaf mohonot y tro hwn, am iti gludo arch yr Arglwydd DDUW o flaen fy nhad Dafydd, ac am iti ddioddef gyda'm tad yn ei holl gystuddiau."
26To Abiathar the priest the king said, “Go to Anathoth, to your own fields; for you are worthy of death. But I will not at this time put you to death, because you bore the ark of the Lord Yahweh before David my father, and because you were afflicted in all in which my father was afflicted.”
27 Yna diswyddodd Solomon Abiathar o fod yn archoffeiriad i'r ARGLWYDD, er mwyn cyflawni gair yr ARGLWYDD a lefarodd yn erbyn tylwyth Eli yn Seilo.
27So Solomon thrust out Abiathar from being priest to Yahweh, that he might fulfill the word of Yahweh, which he spoke concerning the house of Eli in Shiloh.
28 Pan ddaeth y newydd at Joab, a fu'n cefnogi Adoneia � er na chefnogodd Absalom � fe ffodd i babell yr ARGLWYDD a chydiodd yng nghyrn yr allor.
28The news came to Joab; for Joab had turned after Adonijah, though he didn’t turn after Absalom. Joab fled to the Tent of Yahweh, and caught hold on the horns of the altar.
29 Dywedwyd wrth y Brenin Solomon fod Joab wedi ffoi i babell yr ARGLWYDD a'i fod wrth yr allor. Yna anfonwyd Benaia fab Jehoiada gan Solomon �'r gorchymyn, "Dos ac ymosod arno."
29It was told king Solomon, “Joab has fled to the Tent of Yahweh, and behold, he is by the altar.” Then Solomon sent Benaiah the son of Jehoiada, saying, “Go, fall on him.”
30 Wedi i Benaia ddod i babell yr ARGLWYDD, dywedodd wrtho, "Fel hyn y dywedodd y brenin, 'Tyrd allan'." Atebodd yntau, "Na, yma y byddaf farw."
30Benaiah came to the Tent of Yahweh, and said to him, “Thus says the king, ‘Come forth!’” He said, “No; but I will die here.” Benaiah brought the king word again, saying, “Thus said Joab, and thus he answered me.”
31 Pan ddygodd Benaia adroddiad yn �l at y brenin, a mynegi beth oedd ateb Joab, dywedodd y brenin wrtho, "Gwna fel y dywedodd; lladd ef, a'i gladdu, a symud oddi wrthyf ac oddi wrth fy nhylwyth euogrwydd y gwaed a dywalltodd Joab yn ddiachos.
31The king said to him, “Do as he has said, and fall on him, and bury him; that you may take away the blood, which Joab shed without cause, from me and from my father’s house.
32 Fe ddial yr ARGLWYDD y gwaed arno ef am iddo ymosod, heb i'm tad Dafydd wybod, ar ddau u373?r cyfiawnach a gwell nag ef ei hun, a'u lladd �'r cleddyf, sef Abner fab Ner, tywysog llu Israel, ac Amasa fab Jether, tywysog llu Jwda.
32Yahweh will return his blood on his own head, because he fell on two men more righteous and better than he, and killed them with the sword, and my father David didn’t know it: Abner the son of Ner, captain of the army of Israel, and Amasa the son of Jether, captain of the army of Judah.
33 Erys eu gwaed hwy ar ben Joab a'i ddisgynyddion yn dragywydd; ond i Ddafydd a'i ddisgynyddion a'i deulu a'i orsedd fe fydd llwydd oddi wrth yr ARGLWYDD yn dragywydd."
33So shall their blood return on the head of Joab, and on the head of his seed forever. But to David, and to his seed, and to his house, and to his throne, there shall be peace forever from Yahweh.”
34 Aeth Benaia fab Jehoiada i fyny, ac ymosod ar Joab a'i ladd; a chladdwyd ef yn ei gartref yn yr anialwch.
34Then Benaiah the son of Jehoiada went up, and fell on him, and killed him; and he was buried in his own house in the wilderness.
35 Gosododd y brenin Benaia fab Jehoiada yn bennaeth y fyddin yn lle Joab, a Sadoc yr offeiriad yn lle Abiathar.
35The king put Benaiah the son of Jehoiada in his place over the army; and the king put Zadok the priest in the place of Abiathar.
36 Yna gwysiodd y brenin Simei a dweud wrtho, "Adeilada du375? yn Jerwsalem a thrig yno. Paid � symud oddi yno i unman,
36The king sent and called for Shimei, and said to him, “Build yourself a house in Jerusalem, and dwell there, and don’t go out from there anywhere.
37 oherwydd, cymer rybudd, yn y dydd y byddi'n croesi nant Cidron byddi farw'n gelain; bydd dy waed arnat ti dy hun."
37For on the day you go out, and pass over the brook Kidron, know for certain that you shall surely die: your blood shall be on your own head.”
38 Dywedodd Simei wrth y brenin, "Purion! Fel y mae f'arglwydd frenin yn gorchymyn y gwna dy was."
38Shimei said to the king, “The saying is good. As my lord the king has said, so will your servant do.” Shimei lived in Jerusalem many days.
39 Trigodd Simei am gyfnod yn Jerwsalem; ond ymhen tair blynedd, ffodd dau o gaethweision Simei at Achis fab Maacha, brenin Gath.
39It happened at the end of three years, that two of the servants of Shimei ran away to Achish, son of Maacah, king of Gath. They told Shimei, saying, “Behold, your servants are in Gath.”
40 Hysbyswyd Simei fod ei weision yn Gath, a chyfrwyodd ei asyn a mynd i Gath at Achis i geisio'i weision; ac aeth a dod �'i weision yn �l o Gath.
40Shimei arose, and saddled his donkey, and went to Gath to Achish, to seek his servants; and Shimei went, and brought his servants from Gath.
41 Pan hysbyswyd Solomon i Simei fynd o Jerwsalem i Gath a dychwelyd,
41It was told Solomon that Shimei had gone from Jerusalem to Gath, and had come again.
42 gwysiodd y brenin Simei a dweud wrtho, "Oni thynghedais di yn enw'r ARGLWYDD? Oni rybuddiais di y byddit farw'n gelain y dydd yr ait allan i unrhyw fan? A dywedaist wrthyf, 'Purion! Fe ufuddhaf.'
42The king sent and called for Shimei, and said to him, “Didn’t I adjure you by Yahweh, and warn you, saying, ‘Know for certain, that on the day you go out, and walk abroad any where, you shall surely die?’ You said to me, ‘The saying that I have heard is good.’
43 Pam na chedwaist lw yr ARGLWYDD a'r gorchymyn a roddais i ti?"
43Why then have you not kept the oath of Yahweh, and the commandment that I have instructed you with?”
44 Yna dywedodd y brenin wrth Simei, "Fe wyddost yn dy galon yr holl ddrygioni a wnaethost i'm tad Dafydd.
44The king said moreover to Shimei, “You know all the wickedness which your heart is privy to, that you did to David my father. Therefore Yahweh shall return your wickedness on your own head.
45 Fe ddial yr ARGLWYDD dy ddrygioni arnat, ond bendithir y Brenin Solomon, a sicrheir gorsedd Dafydd gerbron yr ARGLWYDD yn dragywydd."
45But king Solomon shall be blessed, and the throne of David shall be established before Yahweh forever.”
46 Yna rhoes y brenin orchymyn i Benaia fab Jehoiada; aeth yntau allan ac ymosod ar Simei, a bu ef farw. A sicrhawyd y frenhiniaeth yn llaw Solomon.
46So the king commanded Benaiah the son of Jehoiada; and he went out, and fell on him, so that he died. The kingdom was established in the hand of Solomon.