1Keep thy foot when thou goest to the house of God, and draw near to hear, rather than to give the sacrifice of fools: for they know not that they do evil.
1 Gwylia dy droed pan fyddi'n mynd i du375? Dduw. Y mae'n well nes�u i wrando nag offrymu aberth ffyliaid, oherwydd nid ydynt hwy'n gwybod eu bod yn gwneud drwg.
2Be not rash with thy mouth, and let not thy heart be hasty to utter anything before God: for God is in the heavens, and thou upon earth; therefore let thy words be few.
2 Paid � bod yn fyrbwyll �'th enau na bod ar frys o flaen Duw. Y mae Duw yn y nefoedd, ac yr wyt ti ar y ddaear, felly bydd yn fyr dy eiriau.
3For a dream cometh through the multitude of business, and a fool's voice through a multitude of words.
3 Yn wir, fe ddaw breuddwyd pan yw gorch-wylion yn cynyddu, a siarad ff�l pan bentyrrir geiriau.
4When thou vowest a vow unto God, defer not to pay it; for he hath no pleasure in fools: pay that which thou hast vowed.
4 Pan wnei adduned i Dduw, paid ag oedi ei chyflawni, oherwydd nid yw ef yn ymhyfrydu mewn ffyliaid. Cyflawna di'r hyn yr wyt wedi ei addunedu.
5Better is it that thou shouldest not vow, than that thou shouldest vow and not pay.
5 Y mae'n well iti beidio ag addunedu na pheidio � chyflawni'r hyn yr wyt wedi ei addunedu.
6Suffer not thy mouth to cause thy flesh to sin; neither say thou before the angel, that it was an inadvertence. Wherefore should God be wroth at thy voice, and destroy the work of thy hands?
6 Paid � gadael i'th enau dy arwain i bechu, a phaid � dweud o flaen y cennad, "Camgymeriad oedd hyn." Pam y dylai Duw gas�u dy ymadrodd, a difa gwaith dy ddwylo?
7For in the multitude of dreams are vanities; so with many words: but fear God.
7 Y mae llawer o freuddwydion ac amlder geiriau yn wagedd; ond ofna di Dduw.
8If thou seest the oppression of the poor, and violent perverting of judgment and justice in a province, marvel not at the matter; for a higher than the high is watching, and there are higher than they.
8 Os gweli'r tlawd yn cael ei orthrymu, a bod rhai yn atal barn a chyfiawnder mewn talaith, paid � synnu at yr hyn sy'n digwydd; oherwydd y mae un uwch yn gwylio pob swyddog, a rhai uwch eto drostynt ill dau.
9Moreover the earth is every way profitable: the king [himself] is dependent upon the field.
9 Y mae cynnyrch y tir i bawb; y mae'r brenin yn cael y tir sydd wedi ei drin.
10He that loveth silver shall not be satisfied with silver, nor he that loveth abundance with increase. This also is vanity.
10 Ni ddigonir yr ariangar ag arian, na'r un sy'n caru cyfoeth ag elw. Y mae hyn hefyd yn wagedd.
11When goods increase, they are increased that eat them; and what profit is there to the owner thereof, except the beholding [of them] with his eyes?
11 Pan yw cyfoeth yn cynyddu, y mae'r rhai sy'n byw arno yn amlhau; a pha fudd sydd i'w berchennog ond edrych arno?
12The sleep of the labourer is sweet, whether he have eaten little or much; but the fulness of the rich doth not suffer him to sleep.
12 Y mae cwsg y gweithiwr yn felys, boed wedi bwyta ychydig neu lawer; ond y mae digonedd y cyfoethog yn ei rwystro rhag cysgu'n dawel.
13There is a grievous evil that I have seen under the sun: riches kept for the owners thereof to their hurt;
13 Gwelais ddrwg poenus dan yr haul: cyfoeth wedi ei gadw yn peri niwed i'w berchennog,
14or those riches perish by some evil circumstance, and if he have begotten a son, there is nothing in his hand.
14 a'r cyfoeth yn diflannu trwy anffawd flin, ac yntau, pan gaiff fab, heb ddim i'w roi iddo.
15As he came forth from his mother's womb, naked shall he go away again as he came, and shall take nothing of his labour, which he may carry away in his hand.
15 Fel y daeth allan o groth ei fam, bydd yn dychwelyd yno yn noeth, yn union fel y daeth; ac ni chaiff ddim am ei lafur i'w gymryd gydag ef.
16And this also is a grievous evil, that in all points as he came so doth he go away, and what profit hath he, in having laboured for the wind?
16 Y mae hyn hefyd yn ddrwg poenus: yn union fel y daeth, yr � pob un ymaith; a pha elw sydd iddo, ac yntau wedi llafurio am wynt?
17All his days also he eateth in darkness, and hath much vexation, and sickness, and irritation.
17 Y mae wedi treulio'i ddyddiau mewn tywyllwch a gofid, mewn dicter mawr a gwaeledd a llid.
18Behold what I have seen good and comely: [it is] to eat and to drink, and to enjoy good in all his labour wherewith [man] laboureth under the sun, all the days of his life which God hath given him: for that is his portion.
18 Dyma'r hyn a welais: y mae'n dda a gweddus i ddyn fwyta ac yfed, a chael mwynhad o'r holl lafur a gyflawna dan yr haul yn ystod dyddiau ei fywyd, a roddwyd iddo gan Dduw; dyna yw ei dynged.
19Every man also to whom God hath given riches and wealth, and power to eat thereof, and to take his portion and to rejoice in his labour: that is a gift of God.
19 Yn wir y mae pob un y rhoddodd Duw iddo gyfoeth a meddiannau a'r gallu i'w mwynhau, i dderbyn ei dynged, a bod yn llawen yn ei lafur; rhodd Duw yw hyn.
20For he will not much remember the days of his life, because God answereth [him] with the joy of his heart.
20 Yn wir ni fydd yn meddwl yn ormodol am ddyddiau ei fywyd, gan fod Duw yn ei gadw'n brysur � llawenydd yn ei galon.