1ויהי היום ויאמר יונתן בן שאול אל הנער נשא כליו לכה ונעברה אל מצב פלשתים אשר מעבר הלז ולאביו לא הגיד׃
1 Un diwrnod, heb yngan gair wrth ei dad, dywedodd Jonathan fab Saul wrth y gwas oedd yn cludo'i arfau, "Tyrd, awn drosodd at wylwyr y Philistiaid sydd acw gyferbyn � ni."
2ושאול יושב בקצה הגבעה תחת הרמון אשר במגרון והעם אשר עמו כשש מאות איש׃
2 Yr oedd Saul yn aros yng nghwr Gibea, dan y pren pomgranad sydd yn Migron, a thua chwe chant o bobl gydag ef;
3ואחיה בן אחטוב אחי איכבוד בן פינחס בן עלי כהן יהוה בשלו נשא אפוד והעם לא ידע כי הלך יונתן׃
3 Ahia, mab Ahitub brawd Ichabod, fab Phinees, fab Eli, offeiriad yr ARGLWYDD yn Seilo, oedd yn cario'r effod. Ni wyddai'r bobl fod Jonathan wedi mynd.
4ובין המעברות אשר בקש יונתן לעבר על מצב פלשתים שן הסלע מהעבר מזה ושן הסלע מהעבר מזה ושם האחד בוצץ ושם האחד סנה׃
4 Yn y bwlch lle'r oedd Jonathan yn ceisio croesi tuag at wylwyr y Philistiaid yr oedd clogwyn o graig ar y naill ochr a'r llall; Boses oedd enw'r naill a Senne oedd enw'r llall.
5השן האחד מצוק מצפון מול מכמש והאחד מנגב מול גבע׃
5 Yr oedd un clogwyn yn taflu allan i'r gogledd ar ochr Michmas, a'r llall i'r de ar ochr Geba.
6ויאמר יהונתן אל הנער נשא כליו לכה ונעברה אל מצב הערלים האלה אולי יעשה יהוה לנו כי אין ליהוה מעצור להושיע ברב או במעט׃
6 Dywedodd Jonathan wrth y gwas oedd yn cludo'i arfau, "Tyrd, awn drosodd at y gwylwyr dienwaededig acw; efallai y bydd yr ARGLWYDD yn gweithio o'n plaid, oherwydd nid oes dim i rwystro'r ARGLWYDD rhag gwaredu trwy lawer neu drwy ychydig."
7ויאמר לו נשא כליו עשה כל אשר בלבבך נטה לך הנני עמך כלבבך׃
7 Dywedodd cludydd ei arfau wrtho, "Gwna beth bynnag sydd yn dy fryd; dygna arni; rwyf gyda thi, galon wrth galon."
8ויאמר יהונתן הנה אנחנו עברים אל האנשים ונגלינו אליהם׃
8 Dywedodd Jonathan, "Edrych yma, fe awn drosodd at y dynion a'n dangos ein hunain iddynt.
9אם כה יאמרו אלינו דמו עד הגיענו אליכם ועמדנו תחתינו ולא נעלה אליהם׃
9 Os dywedant wrthym, 'Arhoswch lle'r ydych nes y byddwn wedi dod atoch', fe arhoswn lle byddwn heb fynd atynt.
10ואם כה יאמרו עלו עלינו ועלינו כי נתנם יהוה בידנו וזה לנו האות׃
10 Ond os dywedant, 'Dewch i fyny atom', yna awn i fyny, oherwydd bydd yr ARGLWYDD yn eu rhoi yn ein llaw; a bydd hyn yn arwydd inni."
11ויגלו שניהם אל מצב פלשתים ויאמרו פלשתים הנה עברים יצאים מן החרים אשר התחבאו שם׃
11 Dangosodd y ddau ohonynt eu hunain i wylwyr y Philistiaid, a dywedodd y Philistiaid, "Dyma Hebreaid yn dod allan o'r tyllau lle buont yn cuddio."
12ויענו אנשי המצבה את יונתן ואת נשא כליו ויאמרו עלו אלינו ונודיעה אתכם דבר ויאמר יונתן אל נשא כליו עלה אחרי כי נתנם יהוה ביד ישראל׃
12 A gwaeddodd dynion yr wyliadwriaeth ar Jonathan a'i gludydd arfau, a dweud, "Dewch i fyny atom, i ni gael dangos rhywbeth i chwi." Dywedodd Jonathan wrth ei gludydd arfau, "Tyrd i fyny ar f'�l i, oherwydd y mae'r ARGLWYDD wedi eu rhoi yn llaw Israel."
13ויעל יונתן על ידיו ועל רגליו ונשא כליו אחריו ויפלו לפני יונתן ונשא כליו ממותת אחריו׃
13 Dringodd Jonathan i fyny ar ei ddwylo a'i draed, gyda'i gludydd arfau ar ei �l. Cwympodd y gwylwyr o flaen Jonathan, a daeth ei gludydd arfau ar ei �l i'w dienyddio.
14ותהי המכה הראשנה אשר הכה יונתן ונשא כליו כעשרים איש כבחצי מענה צמד שדה׃
14 Y tro cyntaf hwn, lladdodd Jonathan a'i gludydd arfau tuag ugain o ddynion o fewn tua hanner cwys cae.
15ותהי חרדה במחנה בשדה ובכל העם המצב והמשחית חרדו גם המה ותרגז הארץ ותהי לחרדת אלהים׃
15 Cododd braw drwy'r gwersyll a'r maes, a brawychwyd holl bobl yr wyliadwriaeth, a'r rheibwyr hefyd, nes bod y wlad yn crynu gan arswyd.
16ויראו הצפים לשאול בגבעת בנימן והנה ההמון נמוג וילך והלם׃
16 Yna gwelodd ysbiwyr Saul oedd yn Gibea Benjamin fod y gwersyll yn rhuthro yma ac acw mewn anhrefn.
17ויאמר שאול לעם אשר אתו פקדו נא וראו מי הלך מעמנו ויפקדו והנה אין יונתן ונשא כליו׃
17 Dywedodd Saul wrth y bobl oedd gydag ef, "Galwch y rhestr i weld pwy sydd wedi mynd o'n plith."
18ויאמר שאול לאחיה הגישה ארון האלהים כי היה ארון האלהים ביום ההוא ובני ישראל׃
18 Galwyd y rhestr, a chael nad oedd Jonathan na'i gludydd arfau yno. Yna dywedodd Saul wrth Ahia, "Tyrd �'r effod." Oherwydd yr adeg honno ef oedd yn cludo'r effod o flaen Israel.
19ויהי עד דבר שאול אל הכהן וההמון אשר במחנה פלשתים וילך הלוך ורב ויאמר שאול אל הכהן אסף ידך׃
19 Tra oedd Saul yn siarad �'r offeiriad, cynyddodd yr anhrefn fwyfwy yng ngwersyll y Philistiaid, a dywedodd Saul wrth yr offeiriad, "Atal dy law."
20ויזעק שאול וכל העם אשר אתו ויבאו עד המלחמה והנה היתה חרב איש ברעהו מהומה גדולה מאד׃
20 Galwodd Saul yr holl bobl oedd gydag ef, ac aethant i'r frwydr; yno yr oedd pob un �'i gleddyf yn erbyn ei gyfaill, mewn anhrefn llwyr.
21והעברים היו לפלשתים כאתמול שלשום אשר עלו עמם במחנה סביב וגם המה להיות עם ישראל אשר עם שאול ויונתן׃
21 A dyma'r Hebreaid oedd gynt ar ochr y Philistiaid, ac wedi dod i fyny i'r gwersyll gyda hwy, yn troi ac yn ochri gyda'r Israeliaid oedd gyda Saul a Jonathan.
22וכל איש ישראל המתחבאים בהר אפרים שמעו כי נסו פלשתים וידבקו גם המה אחריהם במלחמה׃
22 A phan glywodd yr Israeliaid oedd yn llechu yn ucheldir Effraim fod y Philistiaid ar ffo, dyna hwythau hefyd yn ymuno i'w hymlid.
23ויושע יהוה ביום ההוא את ישראל והמלחמה עברה את בית און׃
23 Y dydd hwnnw gwaredodd yr ARGLWYDD Israel, ac ymledodd y frwydr tu hwnt i Beth-afen.
24ואיש ישראל נגש ביום ההוא ויאל שאול את העם לאמר ארור האיש אשר יאכל לחם עד הערב ונקמתי מאיבי ולא טעם כל העם לחם׃
24 Ond aeth yn gyfyng ar yr Israeliaid y diwrnod hwnnw, oherwydd i Saul dynghedu'r bobl a dweud, "Melltigedig fyddo'r un sy'n bwyta tamaid cyn yr hwyr! Yr wyf am ddial ar fy ngelynion." Ac ni phrofodd yr un o'r bobl damaid.
25וכל הארץ באו ביער ויהי דבש על פני השדה׃
25 Daethant oll i goedwig lle'r oedd m�l gwyllt;
26ויבא העם אל היער והנה הלך דבש ואין משיג ידו אל פיו כי ירא העם את השבעה׃
26 a phan ddaethant yno a gweld llif o f�l, nid estynnodd neb ei law at ei geg, am fod y bobl yn ofni'r llw.
27ויונתן לא שמע בהשביע אביו את העם וישלח את קצה המטה אשר בידו ויטבל אותה ביערת הדבש וישב ידו אל פיו ותראנה עיניו׃
27 Nid oedd Jonathan wedi clywed ei dad yn gwneud i'r bobl gymryd y llw, ac estynnodd y ffon oedd yn ei law a tharo'i blaen yn y diliau m�l, ac yna'i chodi at ei geg; a gloywodd ei lygaid.
28ויען איש מהעם ויאמר השבע השביע אביך את העם לאמר ארור האיש אשר יאכל לחם היום ויעף העם׃
28 Yna dywedodd un o'r bobl wrtho, "Y mae dy dad wedi gosod llw caeth ar y bobl, ac wedi dweud, 'Melltigedig yw pob un sy'n bwyta tamaid heddiw'. Ac yr oedd y bobl yn lluddedig."
29ויאמר יונתן עכר אבי את הארץ ראו נא כי ארו עיני כי טעמתי מעט דבש הזה׃
29 Atebodd Jonathan, "Y mae fy nhad wedi gwneud drwg i'r wlad; edrychwch fel y gloywodd fy llygaid pan brofais fymryn o'r m�l hwn.
30אף כי לוא אכל אכל היום העם משלל איביו אשר מצא כי עתה לא רבתה מכה בפלשתים׃
30 Yn wir, pe bai'r bobl wedi cael rhyddid i fwyta heddiw o ysbail eu gelynion, oni fyddai'r lladdfa ymysg y Philistiaid yn drymach?"
31ויכו ביום ההוא בפלשתים ממכמש אילנה ויעף העם מאד׃
31 Y diwrnod hwnnw trawyd y Philistiaid bob cam o Michmas i Ajalon, er bod y bobl wedi blino'n llwyr.
32ויעש העם אל שלל ויקחו צאן ובקר ובני בקר וישחטו ארצה ויאכל העם על הדם׃
32 Yna rhuthrodd y bobl ar yr ysbail a chymryd defaid ac ychen a lloi, a'u lladd ar y ddaear, a'u bwyta heb eu gwaedu.
33ויגידו לשאול לאמר הנה העם חטאים ליהוה לאכל על הדם ויאמר בגדתם גלו אלי היום אבן גדולה׃
33 Pan ddywedwyd wrth Saul, "Edrych, y mae'r bobl yn pechu yn erbyn yr ARGLWYDD wrth fwyta cig heb ei waedu", dywedodd yntau, "Yr ydych wedi troseddu; rhowliwch yma garreg fawr ar unwaith."
34ויאמר שאול פצו בעם ואמרתם להם הגישו אלי איש שורו ואיש שיהו ושחטתם בזה ואכלתם ולא תחטאו ליהוה לאכל אל הדם ויגשו כל העם איש שורו בידו הלילה וישחטו שם׃
34 Yna dywedodd Saul, "Ewch ar frys trwy ganol y bobl a dywedwch wrthynt, 'Doed pob un �'i ych neu ei ddafad ataf fi, a'u lladd yma a'u bwyta, rhag i chwi bechu yn erbyn yr ARGLWYDD trwy fwyta cig heb ei waedu'." Daeth pob un o'r bobl �'i ych gydag ef y noson honno, i'w ladd yno.
35ויבן שאול מזבח ליהוה אתו החל לבנות מזבח ליהוה׃
35 Felly y cododd Saul allor i'r ARGLWYDD, a honno oedd yr allor gyntaf iddo'i chodi i'r ARGLWYDD.
36ויאמר שאול נרדה אחרי פלשתים לילה ונבזה בהם עד אור הבקר ולא נשאר בהם איש ויאמרו כל הטוב בעיניך עשה ויאמר הכהן נקרבה הלם אל האלהים׃
36 Yna dywedodd Saul, "Awn i lawr ar �l y Philistiaid liw nos a'u hysbeilio hyd y bore, heb adael yr un ohonynt ar �l." Dywedodd y bobl, "Gwna beth bynnag a fynni." Ond dywedodd yr offeiriad, "Gadewch inni agos�u yma at Dduw."
37וישאל שאול באלהים הארד אחרי פלשתים התתנם ביד ישראל ולא ענהו ביום ההוא׃
37 Gofynnodd Saul i Dduw, "Os af i lawr ar �l y Philistiaid, a roi di hwy yn llaw Israel?" Ond ni chafodd ateb y diwrnod hwnnw.
38ויאמר שאול גשו הלם כל פנות העם ודעו וראו במה היתה החטאת הזאת היום׃
38 Yna dywedodd Saul, "Dewch yma, holl bennau-teuluoedd y bobl, a chwiliwch i gael gweld ymhle mae'r pechod hwn heddiw.
39כי חי יהוה המושיע את ישראל כי אם ישנו ביונתן בני כי מות ימות ואין ענהו מכל העם׃
39 Oherwydd, cyn wired � bod yr ARGLWYDD yn fyw, yr un a waredodd Israel, hyd yn oed pe byddai yn fy mab Jonathan, byddai raid iddo farw." Ond ni ddywedodd yr un o'r bobl wrtho.
40ויאמר אל כל ישראל אתם תהיו לעבר אחד ואני ויונתן בני נהיה לעבר אחד ויאמרו העם אל שאול הטוב בעיניך עשה׃
40 Yna dywedodd wrth yr holl Israeliaid, "Safwch chwi ar un ochr, a minnau a'm mab Jonathan ar yr ochr arall." A dywedodd y bobl wrth Saul, "Gwna fel y gweli'n dda."
41ויאמר שאול אל יהוה אלהי ישראל הבה תמים וילכד יונתן ושאול והעם יצאו׃
41 Dywedodd Saul wrth yr ARGLWYDD, Duw Israel, "Pam nad atebaist dy was heddiw? Os yw'r camwedd hwn ynof fi neu yn fy mab Jonathan, O ARGLWYDD Dduw Israel, rho Wrim; ond os yw'r camwedd hwn yn dy bobl Israel, rho Twmim." Daliwyd Jonathan a Saul, ac aeth Israel yn rhydd.
42ויאמר שאול הפילו ביני ובין יונתן בני וילכד יונתן׃
42 Dywedodd Saul, "Bwriwch goelbren rhyngof fi a'm mab Jonathan." A daliwyd Jonathan.
43ויאמר שאול אל יונתן הגידה לי מה עשיתה ויגד לו יונתן ויאמר טעם טעמתי בקצה המטה אשר בידי מעט דבש הנני אמות׃
43 Yna dywedodd Saul wrth Jonathan, "Dywed wrthyf beth a wnaethost." Eglurodd Jonathan iddo, a dweud, "Dim ond profi mymryn o f�l ar flaen y ffon oedd yn fy llaw. Dyma fi, rwy'n barod i farw."
44ויאמר שאול כה יעשה אלהים וכה יוסף כי מות תמות יונתן׃
44 Atebodd Saul, "Fel hyn y gwna Duw i mi, a rhagor, os na fydd Jonathan farw."
45ויאמר העם אל שאול היונתן ימות אשר עשה הישועה הגדולה הזאת בישראל חלילה חי יהוה אם יפל משערת ראשו ארצה כי עם אלהים עשה היום הזה ויפדו העם את יונתן ולא מת׃
45 Ond dyma'r bobl yn dweud wrth Saul, "A gaiff Jonathan farw, ac yntau wedi ennill y fuddugoliaeth fawr hon i Israel? Pell y bo! Cyn wired � bod yr ARGLWYDD yn fyw, ni chaiff blewyn o wallt ei ben syrthio i'r llawr. Gyda Duw y gweithiodd ef y diwrnod hwn." Prynodd y bobl ryddid Jonathan, ac ni fu farw.
46ויעל שאול מאחרי פלשתים ופלשתים הלכו למקומם׃
46 Dychwelodd Saul o ymlid y Philistiaid, ac aeth y Philistiaid adref.
47ושאול לכד המלוכה על ישראל וילחם סביב בכל איביו במואב ובבני עמון ובאדום ובמלכי צובה ובפלשתים ובכל אשר יפנה ירשיע׃
47 Wedi i Saul ennill y frenhiniaeth ar Israel, ymladdodd �'i holl elynion oddi amgylch � Moab, yr Ammoniaid, Edom, brenhinoedd Soba a'r Philistiaid � a'u darostwng ble bynnag yr �i.
48ויעש חיל ויך את עמלק ויצל את ישראל מיד שסהו׃
48 Gweithredodd yn ddewr, trawodd yr Amaleciaid, a rhyddhaodd Israel o law eu gormeswyr.
49ויהיו בני שאול יונתן וישוי ומלכי שוע ושם שתי בנתיו שם הבכירה מרב ושם הקטנה מיכל׃
49 Jonathan, Isfi a Malcisua oedd meibion Saul. Enw'r hynaf o'i ddwy ferch oedd Merab, ac enw'r ieuengaf Michal.
50ושם אשת שאול אחינעם בת אחימעץ ושם שר צבאו אבינר בן נר דוד שאול׃
50 Ahinoam ferch Ahimaas oedd gwraig Saul, ac Abner fab Ner, ewythr Saul, oedd pennaeth ei lu.
51וקיש אבי שאול ונר אבי אבנר בן אביאל׃
51 Yr oedd Cis tad Saul a Ner tad Abner yn feibion i Abiel.
52ותהי המלחמה חזקה על פלשתים כל ימי שאול וראה שאול כל איש גבור וכל בן חיל ויאספהו אליו׃
52 Bu rhyfel caled yn erbyn y Philistiaid holl ddyddiau Saul; ac os gwelai Saul u373?r cryf a dewr, fe'i cymerai ato.