1ויאמר שמואל אל שאול אתי שלח יהוה למשחך למלך על עמו על ישראל ועתה שמע לקול דברי יהוה׃
1 Dywedodd Samuel wrth Saul, "Anfonwyd fi gan yr ARGLWYDD i'th eneinio'n frenin ar ei bobl Israel; felly gwrando'n awr ar eiriau'r ARGLWYDD.
2כה אמר יהוה צבאות פקדתי את אשר עשה עמלק לישראל אשר שם לו בדרך בעלתו ממצרים׃
2 Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd: 'Yr wyf am gosbi Amalec am yr hyn a wnaeth i Israel, sef eu rhwystro hwy ar y ffordd wrth iddynt ddod i fyny o'r Aifft.'
3עתה לך והכיתה את עמלק והחרמתם את כל אשר לו ולא תחמל עליו והמתה מאיש עד אשה מעלל ועד יונק משור ועד שה מגמל ועד חמור׃
3 Dos, yn awr, a tharo'r Amaleciaid, a'u llwyr ddinistrio hwy a phopeth sydd ganddynt; paid �'u harbed, ond lladd bob dyn a dynes, pob plentyn a baban, pob eidion a dafad, pob camel ac asyn."
4וישמע שאול את העם ויפקדם בטלאים מאתים אלף רגלי ועשרת אלפים את איש יהודה׃
4 Felly galwodd Saul y fyddin allan a'u rhestru yn Telaim. Yr oedd dau gan mil o wu375?r traed, a deng mil o ddynion Jwda.
5ויבא שאול עד עיר עמלק וירב בנחל׃
5 Pan ddaeth Saul at ddinas yr Amaleciaid, ymguddiodd mewn cwm,
6ויאמר שאול אל הקיני לכו סרו רדו מתוך עמלקי פן אספך עמו ואתה עשיתה חסד עם כל בני ישראל בעלותם ממצרים ויסר קיני מתוך עמלק׃
6 a dweud wrth y Ceneaid, "Ewch i ffwrdd, cefnwch ar yr Amaleciaid, rhag imi eich distrywio chwi gyda hwy; oherwydd buoch chwi'n garedig wrth yr holl Israeliaid pan oeddent yn dod i fyny o'r Aifft." Aeth y Ceneaid ymaith oddi wrth yr Amaleciaid;
7ויך שאול את עמלק מחוילה בואך שור אשר על פני מצרים׃
7 yna trawodd Saul Amalec o Hafila hyd at Sur ar gwr yr Aifft.
8ויתפש את אגג מלך עמלק חי ואת כל העם החרים לפי חרב׃
8 Daliodd Agag brenin Amalec yn fyw, ond lladdodd y bobl i gyd �'r cleddyf.
9ויחמל שאול והעם על אגג ועל מיטב הצאן והבקר והמשנים ועל הכרים ועל כל הטוב ולא אבו החרימם וכל המלאכה נמבזה ונמס אתה החרימו׃
9 Arbedodd Saul a'r fyddin nid yn unig Agag, ond hefyd y gorau o'r defaid a'r gwartheg, yr anifeiliaid breision a'r u373?yn, a phopeth o werth. Nid oeddent yn fodlon difa'r rheini; ond difodwyd popeth gwael a diwerth.
10ויהי דבר יהוה אל שמואל לאמר׃
10 Yna daeth gair yr ARGLWYDD at Samuel, yn dweud,
11נחמתי כי המלכתי את שאול למלך כי שב מאחרי ואת דברי לא הקים ויחר לשמואל ויזעק אל יהוה כל הלילה׃
11 "Y mae'n edifar gennyf fy mod wedi gwneud Saul yn frenin, oherwydd y mae wedi cefnu arnaf a heb gadw fy ngorchymyn." Digiodd Samuel, a galwodd ar yr ARGLWYDD drwy'r nos.
12וישכם שמואל לקראת שאול בבקר ויגד לשמואל לאמר בא שאול הכרמלה והנה מציב לו יד ויסב ויעבר וירד הגלגל׃
12 Bore trannoeth cododd yn gynnar i gyfarfod � Saul, ond dywedwyd wrtho fod Saul wedi mynd i Garmel, ac wedi codi cofeb iddo'i hun yno cyn troi'n �l a mynd draw i Gilgal.
13ויבא שמואל אל שאול ויאמר לו שאול ברוך אתה ליהוה הקימתי את דבר יהוה׃
13 Wedi i Samuel ddod o hyd i Saul, dywedodd Saul wrtho, "Bendith yr ARGLWYDD arnat! Yr wyf wedi cadw gorchymyn yr ARGLWYDD."
14ויאמר שמואל ומה קול הצאן הזה באזני וקול הבקר אשר אנכי שמע׃
14 Gofynnodd Samuel, "Beth ynteu yw'r brefu defaid sydd yn fy nghlustiau, a'r su373?n gwartheg yr wyf yn ei glywed?"
15ויאמר שאול מעמלקי הביאום אשר חמל העם על מיטב הצאן והבקר למען זבח ליהוה אלהיך ואת היותר החרמנו׃
15 Dywedodd Saul, "Y bobl sydd wedi dod � hwy oddi wrth yr Amaleciaid, oherwydd y maent wedi arbed y gorau o'r defaid a'r gwartheg er mwyn aberthu i'r ARGLWYDD dy Dduw. Yr ydym wedi difa'r gweddill."
16ויאמר שמואל אל שאול הרף ואגידה לך את אשר דבר יהוה אלי הלילה ויאמרו לו דבר׃
16 Dywedodd Samuel wrth Saul, "Taw, imi gael dweud wrthyt beth a ddywedodd yr ARGLWYDD wrthyf neithiwr." Meddai yntau wrtho, "Dywed."
17ויאמר שמואל הלוא אם קטן אתה בעיניך ראש שבטי ישראל אתה וימשחך יהוה למלך על ישראל׃
17 A dywedodd Samuel, "Er iti fod yn fychan yn d'olwg dy hun, oni ddaethost yn ben ar lwythau Israel, a'r ARGLWYDD wedi d'eneinio'n frenin ar Israel?
18וישלחך יהוה בדרך ויאמר לך והחרמתה את החטאים את עמלק ונלחמת בו עד כלותם אתם׃
18 Fe anfonodd yr ARGLWYDD di allan a dweud, 'Dos a difroda'r pechaduriaid hynny, Amalec, a rhyfela � hwy nes eu difa.'
19ולמה לא שמעת בקול יהוה ותעט אל השלל ותעש הרע בעיני יהוה׃
19 Pam na wrandewaist ar lais yr ARGLWYDD, ond rhuthro ar yr ysbail, a gwneud drwg yng ngolwg yr ARGLWYDD?"
20ויאמר שאול אל שמואל אשר שמעתי בקול יהוה ואלך בדרך אשר שלחני יהוה ואביא את אגג מלך עמלק ואת עמלק החרמתי׃
20 Dywedodd Saul wrth Samuel, "Ond yr wyf wedi gwrando ar lais yr ARGLWYDD, a mynd fel yr anfonodd ef fi; deuthum ag Agag brenin Amalec yn �l, a difrodi'r Amaleciaid.
21ויקח העם מהשלל צאן ובקר ראשית החרם לזבח ליהוה אלהיך בגלגל׃
21 Fe gymerodd y bobl beth o'r ysbail, yn ddefaid a gwartheg, y pigion o'r diofryd, er mwyn aberthu i'r ARGLWYDD dy Dduw yn Gilgal."
22ויאמר שמואל החפץ ליהוה בעלות וזבחים כשמע בקול יהוה הנה שמע מזבח טוב להקשיב מחלב אילים׃
22 Yna dywedodd Samuel: "A oes gan yr ARGLWYDD bleser mewn offrymau ac ebyrth, fel mewn gwrando ar lais yr ARGLWYDD? Gwell gwrando nag aberth, ac ufudd-dod na braster hyrddod.
23כי חטאת קסם מרי ואון ותרפים הפצר יען מאסת את דבר יהוה וימאסך ממלך׃
23 Yn wir, pechod fel dewiniaeth yw anufudd-dod, a throsedd fel addoli eilunod yw cyndynrwydd. Am i ti wrthod gair yr ARGLWYDD, gwrthododd ef di fel brenin."
24ויאמר שאול אל שמואל חטאתי כי עברתי את פי יהוה ואת דבריך כי יראתי את העם ואשמע בקולם׃
24 Dywedodd Saul wrth Samuel, "Yr wyf wedi pechu, oblegid yr wyf wedi torri gorchymyn yr ARGLWYDD a'th air dithau, am imi ofni'r bobl a gwrando ar eu llais.
25ועתה שא נא את חטאתי ושוב עמי ואשתחוה ליהוה׃
25 Maddau'n awr fy mai, a thyrd yn �l gyda mi, er mwyn imi ymostwng i'r ARGLWYDD."
26ויאמר שמואל אל שאול לא אשוב עמך כי מאסתה את דבר יהוה וימאסך יהוה מהיות מלך על ישראל׃
26 Ond dywedodd Samuel wrth Saul, "Na ddof; yr wyt wedi gwrthod gair yr ARGLWYDD, ac y mae'r ARGLWYDD wedi dy wrthod di fel brenin ar Israel."
27ויסב שמואל ללכת ויחזק בכנף מעילו ויקרע׃
27 Trodd Samuel i fynd i ffwrdd, ond cydiodd Saul yng nghwr ei fantell, ac fe rwygodd.
28ויאמר אליו שמואל קרע יהוה את ממלכות ישראל מעליך היום ונתנה לרעך הטוב ממך׃
28 Ac meddai Samuel wrtho, "Y mae'r ARGLWYDD wedi rhwygo brenhiniaeth Israel oddi wrthyt heddiw, ac am ei rhoi i un yn d'ymyl sy'n well na thi.
29וגם נצח ישראל לא ישקר ולא ינחם כי לא אדם הוא להנחם׃
29 Nid yw Ysblander Israel yn dweud celwydd nac yn edifarhau, oherwydd nid meidrolyn yw ef, i newid ei feddwl."
30ויאמר חטאתי עתה כבדני נא נגד זקני עמי ונגד ישראל ושוב עמי והשתחויתי ליהוה אלהיך׃
30 Dywedodd Saul eto, "Rwyf ar fai, ond dangos di barch tuag ataf gerbron henuriaid fy mhobl a'r Israeliaid, a thyrd yn �l gyda mi, er mwyn imi ymostwng gerbron yr ARGLWYDD dy Dduw."
31וישב שמואל אחרי שאול וישתחו שאול ליהוה׃
31 Yna dychwelodd Samuel gyda Saul, ac ymostyngodd Saul gerbron yr ARGLWYDD.
32ויאמר שמואל הגישו אלי את אגג מלך עמלק וילך אליו אגג מעדנת ויאמר אגג אכן סר מר המות׃
32 A dywedodd Samuel, "Dewch ag Agag brenin Amalec ataf fi." Daeth Agag ato'n anfoddog, a dweud, "Fe giliodd chwerwder marwolaeth."
33ויאמר שמואל כאשר שכלה נשים חרבך כן תשכל מנשים אמך וישסף שמואל את אגג לפני יהוה בגלגל׃
33 Ond dywedodd Samuel: "Fel y gwnaeth dy gleddyf di wragedd yn ddi-blant, felly bydd dy fam dithau'n ddi-blant ymysg gwragedd." Yna darniodd Samuel Agag gerbron yr ARGLWYDD yn Gilgal.
34וילך שמואל הרמתה ושאול עלה אל ביתו גבעת שאול׃
34 Wedyn aeth Samuel i Rama, a Saul i'w gartref yn Gibea Saul.
35ולא יסף שמואל לראות את שאול עד יום מותו כי התאבל שמואל אל שאול ויהוה נחם כי המליך את שאול על ישראל׃
35 Ni welodd Samuel mo Saul byth wedyn, hyd ddydd ei farw, ond gofidiodd am Saul. Yr oedd yn edifar gan yr ARGLWYDD ei fod wedi gwneud Saul yn frenin ar Israel.