1וידבר שאול אל יונתן בנו ואל כל עבדיו להמית את דוד ויהונתן בן שאול חפץ בדוד מאד׃
1 Dywedodd Saul wrth ei fab Jonathan a'i holl weision am ladd Dafydd.
2ויגד יהונתן לדוד לאמר מבקש שאול אבי להמיתך ועתה השמר נא בבקר וישבת בסתר ונחבאת׃
2 Ond yr oedd Jonathan fab Saul wedi mynd yn hoff iawn o Ddafydd, a dywedodd wrtho, "Y mae fy nhad Saul yn ceisio dy ladd di; bydd di'n ofalus ohonot dy hun bore yfory, ac ymguddia ac aros o'r golwg.
3ואני אצא ועמדתי ליד אבי בשדה אשר אתה שם ואני אדבר בך אל אבי וראיתי מה והגדתי לך׃
3 Mi af finnau a sefyll yn ymyl fy nhad, allan yn ymyl y lle y byddi di, ac mi soniaf amdanat wrth fy nhad; ac os gwelaf unrhyw beth, mi ddywedaf wrthyt."
4וידבר יהונתן בדוד טוב אל שאול אביו ויאמר אליו אל יחטא המלך בעבדו בדוד כי לוא חטא לך וכי מעשיו טוב לך מאד׃
4 Siaradodd Jonathan o blaid Dafydd wrth ei dad Saul, a dweud wrtho, "Peidied y brenin � gwneud cam �'i was Dafydd, oherwydd ni wnaeth ef gam � thi; yn wir, bu ei weithredoedd o les mawr iti.
5וישם את נפשו בכפו ויך את הפלשתי ויעש יהוה תשועה גדולה לכל ישראל ראית ותשמח ולמה תחטא בדם נקי להמית את דוד חנם׃
5 Mentrodd ei fywyd i ladd y Philistiad hwnnw, a rhoddodd yr ARGLWYDD fuddugoliaeth fawr i Israel gyfan. Yr oeddit tithau'n gweld ac yn llawenychu; pam ynteu yr wyt am wneud cam ag un dieuog, a lladd Dafydd heb achos?"
6וישמע שאול בקול יהונתן וישבע שאול חי יהוה אם יומת׃
6 Gwrandawodd Saul ar ble Jonathan a thyngodd: "Cyn wired � bod yr ARGLWYDD yn fyw, ni chaiff ei ladd."
7ויקרא יהונתן לדוד ויגד לו יהונתן את כל הדברים האלה ויבא יהונתן את דוד אל שאול ויהי לפניו כאתמול שלשום׃
7 Wedi i Jonathan alw Dafydd, a dweud hyn i gyd wrtho, aeth ag ef at Saul; a bu Dafydd yn ei wasanaethu fel cynt.
8ותוסף המלחמה להיות ויצא דוד וילחם בפלשתים ויך בהם מכה גדולה וינסו מפניו׃
8 A phan dorrodd rhyfel allan eto, aeth Dafydd i ymladd yn erbyn y Philistiaid a gwneud difrod mawr arnynt, a hwythau'n ffoi o'i flaen.
9ותהי רוח יהוה רעה אל שאול והוא בביתו יושב וחניתו בידו ודוד מנגן ביד׃
9 Daeth ysbryd drwg oddi wrth yr ARGLWYDD ar Saul ac yntau'n eistedd gartref � gwaywffon yn ei law, a Dafydd yn canu'r delyn.
10ויבקש שאול להכות בחנית בדוד ובקיר ויפטר מפני שאול ויך את החנית בקיר ודוד נס וימלט בלילה הוא׃
10 Ceisiodd Saul drywanu'r waywffon trwy Ddafydd i'r pared, ond osg�dd Dafydd ef, ac i'r pared y trawodd y waywffon; felly dihangodd Dafydd a ffoi.
11וישלח שאול מלאכים אל בית דוד לשמרו ולהמיתו בבקר ותגד לדוד מיכל אשתו לאמר אם אינך ממלט את נפשך הלילה מחר אתה מומת׃
11 Y noson honno anfonodd Saul negeswyr i gartref Dafydd i'w wylio er mwyn ei ladd yn y bore. Ond yr oedd Michal gwraig Dafydd wedi dweud wrtho, "Os na fyddi'n dianc heno am d'einioes, yfory byddi'n farw."
12ותרד מיכל את דוד בעד החלון וילך ויברח וימלט׃
12 Felly, wedi i Michal ollwng Dafydd i lawr drwy'r ffenestr, aeth yntau ar ffo a dianc.
13ותקח מיכל את התרפים ותשם אל המטה ואת כביר העזים שמה מראשתיו ותכס בבגד׃
13 Yna cymerodd Michal y teraffim a'u gosod yn y gwely, a rhoi clustog o flew geifr lle byddai'r pen, a thaenu dilledyn drosti.
14וישלח שאול מלאכים לקחת את דוד ותאמר חלה הוא׃
14 Pan anfonodd Saul negeswyr i ddal Dafydd, dywedodd hi, "Y mae'n glaf."
15וישלח שאול את המלאכים לראות את דוד לאמר העלו אתו במטה אלי להמתו׃
15 Ond anfonodd Saul y negeswyr yn �l i chwilio am Ddafydd gyda'r gorchymyn, "Dewch ag ef ataf yn ei wely, imi ei ladd."
16ויבאו המלאכים והנה התרפים אל המטה וכביר העזים מראשתיו׃
16 Pan ddaeth y negeswyr, dyna lle'r oedd y teraffim yn y gwely, gyda chlustog o flew geifr wrth y pen.
17ויאמר שאול אל מיכל למה ככה רמיתני ותשלחי את איבי וימלט ותאמר מיכל אל שאול הוא אמר אלי שלחני למה אמיתך׃
17 Meddai Saul wrth Michal, "Pam y twyllaist fi fel hyn, a gollwng fy ngelyn yn rhydd i ddianc?" Atebodd Michal, "Ef a ddywedodd wrthyf, 'Gollwng fi, neu mi'th laddaf.'"
18ודוד ברח וימלט ויבא אל שמואל הרמתה ויגד לו את כל אשר עשה לו שאול וילך הוא ושמואל וישבו בנוית׃
18 Ffodd Dafydd a dianc i Rama at Samuel, ac adrodd wrtho'r cwbl a wnaeth Saul iddo. Yna aeth Samuel ac yntau, ac aros yn Naioth.
19ויגד לשאול לאמר הנה דוד בנוית ברמה׃
19 Mynegwyd i Saul, "Y mae Dafydd yn Naioth ger Rama."
20וישלח שאול מלאכים לקחת את דוד וירא את להקת הנביאים נבאים ושמואל עמד נצב עליהם ותהי על מלאכי שאול רוח אלהים ויתנבאו גם המה׃
20 Anfonodd Saul negeswyr i ddal Dafydd, ond pan welsant dwr o broffwydi'n proffwydo, a Samuel yn sefyll yno'n bennaeth arnynt, disgynnodd ysbryd Duw arnynt ac aethant hwythau i broffwydo.
21ויגדו לשאול וישלח מלאכים אחרים ויתנבאו גם המה ויסף שאול וישלח מלאכים שלשים ויתנבאו גם המה׃
21 Pan fynegwyd hyn i Saul, anfonodd negeswyr eraill, ond aethant hwythau i broffwydo hefyd; a phan anfonodd Saul negeswyr am y trydydd tro, aeth y rheini hefyd i broffwydo.
22וילך גם הוא הרמתה ויבא עד בור הגדול אשר בשכו וישאל ויאמר איפה שמואל ודוד ויאמר הנה בנוית ברמה׃
22 Yna fe aeth ef ei hun i Rama, ac wedi iddo gyrraedd y pydew mawr yn Secu a holi ple'r oedd Samuel a Dafydd, dywedodd rhywun eu bod yn Naioth ger Rama.
23וילך שם אל נוית ברמה ותהי עליו גם הוא רוח אלהים וילך הלוך ויתנבא עד באו בנוית ברמה׃
23 Wrth iddo fynd yno i Naioth ger Rama, disgynnodd ysbryd Duw arno yntau hefyd, ac aeth yn ei flaen dan broffwydo nes dod i Naioth ger Rama.
24ויפשט גם הוא בגדיו ויתנבא גם הוא לפני שמואל ויפל ערם כל היום ההוא וכל הלילה על כן יאמרו הגם שאול בנביאם׃
24 Yno fe ddiosgodd yntau ei ddillad a phroffwydo gerbron Samuel; a gorweddodd yn noeth drwy'r dydd a'r noson honno. Dyna pam y dywedir, "A yw Saul hefyd ymysg y proffwydi?"