Hebrew: Modern

Welsh

1 Samuel

20

1ויברח דוד מנוית ברמה ויבא ויאמר לפני יהונתן מה עשיתי מה עוני ומה חטאתי לפני אביך כי מבקש את נפשי׃
1 Ffodd Dafydd o Naioth ger Rama, a daeth at Jonathan a gofyn, "Beth wnes i? Beth yw fy mai a'm pechod gerbron dy dad, fel ei fod yn ceisio f'einioes?"
2ויאמר לו חלילה לא תמות הנה לו עשה אבי דבר גדול או דבר קטן ולא יגלה את אזני ומדוע יסתיר אבי ממני את הדבר הזה אין זאת׃
2 Dywedodd Jonathan, "Pell y bo! Ni fyddi farw. Edrych yma, nid yw fy nhad yn gwneud dim, bach na mawr, heb ddweud wrthyf fi; pam felly y byddai fy nhad yn celu'r peth hwn oddi wrthyf? Nid oes dim yn y peth."
3וישבע עוד דוד ויאמר ידע ידע אביך כי מצאתי חן בעיניך ויאמר אל ידע זאת יהונתן פן יעצב ואולם חי יהוה וחי נפשך כי כפשע ביני ובין המות׃
3 Ond tyngodd Dafydd wrtho eto a dweud, "Y mae dy dad yn gwybod yn iawn imi gael ffafr yn d'olwg, a dywedodd, 'Nid yw Jonathan i wybod hyn, rhag iddo boeni.' Cyn wired � bod yr ARGLWYDD yn fyw, a thithau hefyd, dim ond cam sydd rhyngof fi ac angau."
4ויאמר יהונתן אל דוד מה תאמר נפשך ואעשה לך׃
4 Yna gofynnodd Jonathan i Ddafydd, "Beth a ddymuni imi ei wneud iti?"
5ויאמר דוד אל יהונתן הנה חדש מחר ואנכי ישב אשב עם המלך לאכול ושלחתני ונסתרתי בשדה עד הערב השלשית׃
5 Ac meddai Dafydd wrth Jonathan, "Y mae'n newydd-loer yfory, a dylwn fod yno'n bwyta gyda'r brenin; gad imi fynd ac ymguddio yn y maes tan yr hwyr drennydd.
6אם פקד יפקדני אביך ואמרת נשאל נשאל ממני דוד לרוץ בית לחם עירו כי זבח הימים שם לכל המשפחה׃
6 Os bydd dy dad yn holi'n arw amdanaf, dywed, 'Fe grefodd Dafydd am ganiat�d gennyf i fynd draw i'w dref ei hun, Bethlehem, am fod yno aberth blynyddol i'r holl dylwyth.'
7אם כה יאמר טוב שלום לעבדך ואם חרה יחרה לו דע כי כלתה הרעה מעמו׃
7 Os dywed, 'Popeth yn dda', yna y mae'n ddiogel i'th was; ond os cyll ei dymer, byddi'n gwybod ei fod yn bwriadu drwg.
8ועשית חסד על עבדך כי בברית יהוה הבאת את עבדך עמך ואם יש בי עון המיתני אתה ועד אביך למה זה תביאני׃
8 Bydd yn deyrngar i'th was, oherwydd gwnaethost gyfamod � mi gerbron yr ARGLWYDD. Ac os oes bai ynof, lladd fi dy hun; pam mynd � mi at dy dad?"
9ויאמר יהונתן חלילה לך כי אם ידע אדע כי כלתה הרעה מעם אבי לבוא עליך ולא אתה אגיד לך׃
9 Atebodd Jonathan, "Pell y bo hynny! Pe bawn i'n gwybod o gwbl fod fy nhad yn bwriadu drwg iti, oni fyddwn yn dweud wrthyt?"
10ויאמר דוד אל יהונתן מי יגיד לי או מה יענך אביך קשה׃
10 Gofynnodd Dafydd i Jonathan, "Pwy sydd i ddweud wrthyf os bydd dy dad yn rhoi ateb chwyrn iti?"
11ויאמר יהונתן אל דוד לכה ונצא השדה ויצאו שניהם השדה׃
11 Dywedodd Jonathan wrth Ddafydd, "Tyrd, gad inni fynd i'r maes."
12ויאמר יהונתן אל דוד יהוה אלהי ישראל כי אחקר את אבי כעת מחר השלשית והנה טוב אל דוד ולא אז אשלח אליך וגליתי את אזנך׃
12 Aeth y ddau allan i'r maes, ac meddai Jonathan wrth Ddafydd, "Cyn wired � bod ARGLWYDD Dduw Israel yn fyw, mi holaf fy nhad tua'r adeg yma yfory am y trydydd tro; yna, os newydd da fydd i Ddafydd, anfonaf air i ddweud wrthyt.
13כה יעשה יהוה ליהונתן וכה יסיף כי ייטב אל אבי את הרעה עליך וגליתי את אזנך ושלחתיך והלכת לשלום ויהי יהוה עמך כאשר היה עם אבי׃
13 Ond os yw fy nhad am wneud niwed iti, yna fel hyn y gwnelo'r ARGLWYDD i mi, Jonathan, a rhagor, os na fyddaf yn dweud wrthyt, er mwyn iti gael mynd ymaith yn ddiogel. Bydded yr ARGLWYDD gyda thi, fel y bu gyda'm tad.
14ולא אם עודני חי ולא תעשה עמדי חסד יהוה ולא אמות׃
14 Os byddaf fyw, gwna drugaredd � mi yn enw'r ARGLWYDD.
15ולא תכרת את חסדך מעם ביתי עד עולם ולא בהכרת יהוה את איבי דוד איש מעל פני האדמה׃
15 Ond os byddaf farw, paid byth ag atal dy drugaredd oddi wrth fy nheulu. A phan fydd yr ARGLWYDD wedi torri ymaith holl elynion Dafydd oddi ar wyneb y tir,
16ויכרת יהונתן עם בית דוד ובקש יהוה מיד איבי דוד׃
16 na fydded Jonathan wedi ei dorri oddi wrth deulu Dafydd; a bydded i'r ARGLWYDD ddial ar elynion Dafydd."
17ויוסף יהונתן להשביע את דוד באהבתו אתו כי אהבת נפשו אהבו׃
17 Tyngodd Jonathan eto i Ddafydd am ei fod yn ei garu, oherwydd yr oedd yn ei garu fel ei enaid ei hun.
18ויאמר לו יהונתן מחר חדש ונפקדת כי יפקד מושבך׃
18 A dywedodd Jonathan wrtho, "Y mae'n newydd-loer yfory, a gwelir dy eisiau pan fydd dy le yn wag; a thrennydd byddant yn chwilio'n ddyfal amdanat.
19ושלשת תרד מאד ובאת אל המקום אשר נסתרת שם ביום המעשה וישבת אצל האבן האזל׃
19 Dos dithau i'r man yr ymguddiaist ynddo adeg y digwyddiad o'r blaen, ac aros yn ymyl y garreg fan draw.
20ואני שלשת החצים צדה אורה לשלח לי למטרה׃
20 Saethaf finnau dair saeth i'w hymyl, fel pe bawn yn saethu at nod.
21והנה אשלח את הנער לך מצא את החצים אם אמר אמר לנער הנה החצים ממך והנה קחנו ובאה כי שלום לך ואין דבר חי יהוה׃
21 Wedyn anfonaf y llanc a dweud, 'Dos i n�l y saethau.' Os byddaf yn dweud wrth y llanc, 'Edrych, y mae'r saethau y tu yma iti; cymer hwy', yna tyrd, oherwydd y mae'n ddiogel iti, heb unrhyw berygl, cyn wired � bod yr ARGLWYDD yn fyw.
22ואם כה אמר לעלם הנה החצים ממך והלאה לך כי שלחך יהוה׃
22 Ond os dywedaf fel hyn wrth y llencyn: 'Edrych, y mae'r saethau y tu draw iti', yna dos, oherwydd y mae'r ARGLWYDD yn dy anfon i ffwrdd.
23והדבר אשר דברנו אני ואתה הנה יהוה ביני ובינך עד עולם׃
23 Bydded yr ARGLWYDD yn dyst am byth rhyngof fi a thi yn y cytundeb hwn a wnaethom ein dau."
24ויסתר דוד בשדה ויהי החדש וישב המלך על הלחם לאכול׃
24 Ymguddiodd Dafydd yn y maes; a phan ddaeth y newydd-loer,
25וישב המלך על מושבו כפעם בפעם אל מושב הקיר ויקם יהונתן וישב אבנר מצד שאול ויפקד מקום דוד׃
25 eisteddodd y brenin i lawr i fwyta'r pryd, a chymryd ei le arferol ar y sedd wrth y pared, gyda Jonathan gyferbyn, ac Abner yn eistedd wrth ochr Saul; ond roedd lle Dafydd yn wag.
26ולא דבר שאול מאומה ביום ההוא כי אמר מקרה הוא בלתי טהור הוא כי לא טהור׃
26 Ni ddywedodd Saul ddim y diwrnod hwnnw, gan feddwl mai rhyw hap oedd, ac nad oedd yn l�n.
27ויהי ממחרת החדש השני ויפקד מקום דוד ויאמר שאול אל יהונתן בנו מדוע לא בא בן ישי גם תמול גם היום אל הלחם׃
27 Ond pan oedd lle Dafydd yn wag drannoeth, ar ail ddiwrnod y newydd-loer, gofynnodd Saul i'w fab Jonathan, "Pam nad yw mab Jesse wedi dod i fwyta, ddoe na heddiw?"
28ויען יהונתן את שאול נשאל נשאל דוד מעמדי עד בית לחם׃
28 Atebodd Jonathan, "O, fe grefodd Dafydd arnaf am gael mynd i Fethlehem,
29ויאמר שלחני נא כי זבח משפחה לנו בעיר והוא צוה לי אחי ועתה אם מצאתי חן בעיניך אמלטה נא ואראה את אחי על כן לא בא אל שלחן המלך׃
29 a dweud, 'Gad imi fynd, oherwydd y mae gan y teulu aberth yn y dref, ac y mae fy mrawd wedi peri i mi fod yno; felly, os gweli di'n dda, gad imi fynd draw i weld fy mrodyr.' Dyna pam nad yw wedi dod at fwrdd y brenin."
30ויחר אף שאול ביהונתן ויאמר לו בן נעות המרדות הלוא ידעתי כי בחר אתה לבן ישי לבשתך ולבשת ערות אמך׃
30 Gwylltiodd Saul wrth Jonathan a dywedodd wrtho, "Ti fab putain anufudd! Oni wyddwn dy fod yn ochri gyda mab Jesse, er cywilydd i ti dy hun ac i warth dy fam?
31כי כל הימים אשר בן ישי חי על האדמה לא תכון אתה ומלכותך ועתה שלח וקח אתו אלי כי בן מות הוא׃
31 Oherwydd tra bydd mab Jesse fyw ar y ddaear, ni fyddi di na'r frenhiniaeth yn ddiogel. Anfon ar unwaith a thyrd ag ef ataf, oherwydd y mae'n haeddu marw."
32ויען יהונתן את שאול אביו ויאמר אליו למה יומת מה עשה׃
32 Atebodd Jonathan a dweud wrth ei dad, "Pam ei roi i farwolaeth? Beth y mae wedi ei wneud?"
33ויטל שאול את החנית עליו להכתו וידע יהונתן כי כלה היא מעם אביו להמית את דוד׃
33 Yna hyrddiodd Saul waywffon ato i'w daro, a sylweddolodd Jonathan fod ei dad yn benderfynol o ladd Dafydd.
34ויקם יהונתן מעם השלחן בחרי אף ולא אכל ביום החדש השני לחם כי נעצב אל דוד כי הכלמו אביו׃
34 Felly cododd Jonathan oddi wrth y bwrdd yn wyllt ei dymer, a heb fwyta tamaid ar ail ddiwrnod y newydd-loer, am ei fod yn gofidio dros Ddafydd, a bod ei dad wedi rhoi sen arno yntau.
35ויהי בבקר ויצא יהונתן השדה למועד דוד ונער קטן עמו׃
35 Bore trannoeth aeth Jonathan allan i'r maes i gadw ei oed � Dafydd, a llanc ifanc gydag ef.
36ויאמר לנערו רץ מצא נא את החצים אשר אנכי מורה הנער רץ והוא ירה החצי להעברו׃
36 Dywedodd wrth y llanc, "Rhed di i n�l y saethau y byddaf fi'n eu saethu." Tra oedd y llanc yn rhedeg, yr oedd ef yn saethu'r saethau y tu draw iddo.
37ויבא הנער עד מקום החצי אשר ירה יהונתן ויקרא יהונתן אחרי הנער ויאמר הלוא החצי ממך והלאה׃
37 Wedi i'r llanc gyrraedd y man y disgynnodd y saethau, gwaeddodd Jonathan ar �l y llanc, "Onid yw'r saethau y tu draw iti?" Yna gwaeddodd ar �l y llanc, "Dos, brysia, paid � sefyllian."
38ויקרא יהונתן אחרי הנער מהרה חושה אל תעמד וילקט נער יהונתן את החצי ויבא אל אדניו׃
38 Casglodd llanc Jonathan y saethau a'u dwyn yn �l at ei feistr.
39והנער לא ידע מאומה אך יהונתן ודוד ידעו את הדבר׃
39 Nid oedd y llanc yn sylweddoli dim, ond yr oedd Jonathan a Dafydd yn deall y neges.
40ויתן יהונתן את כליו אל הנער אשר לו ויאמר לו לך הביא העיר׃
40 Rhoddodd Jonathan ei offer i'r llanc oedd gydag ef, a dweud wrtho, "Dos, cymer hwy'n �l adref."
41הנער בא ודוד קם מאצל הנגב ויפל לאפיו ארצה וישתחו שלש פעמים וישקו איש את רעהו ויבכו איש את רעהו עד דוד הגדיל׃
41 Wedi i'r llanc fynd, cododd Dafydd o'r tu �l i'r garreg, a syrthio ar ei wyneb i'r llawr ac ymgrymu deirgwaith. Yna cusanodd y ddau ei gilydd ac wylo, yn enwedig Dafydd.
42ויאמר יהונתן לדוד לך לשלום אשר נשבענו שנינו אנחנו בשם יהוה לאמר יהוה יהיה ביני ובינך ובין זרעי ובין זרעך עד עולם ויקם וילך ויהונתן בא העיר׃
42 Ac meddai Jonathan wrth Ddafydd, "Dos mewn heddwch; yr ydym ein dau wedi tyngu yn enw'r ARGLWYDD y bydd yr ARGLWYDD yn dyst rhyngom ni a rhwng ein disgynyddion am byth." Yna aeth Dafydd i ffwrdd, a dychwelodd Jonathan adref.