1והנער שמואל משרת את יהוה לפני עלי ודבר יהוה היה יקר בימים ההם אין חזון נפרץ׃
1 Yn y dyddiau pan oedd y bachgen Samuel yn gwasanaethu'r ARGLWYDD gerbron Eli, yr oedd gair yr ARGLWYDD yn brin, a gweledigaeth yn anfynych.
2ויהי ביום ההוא ועלי שכב במקמו ועינו החלו כהות לא יוכל לראות׃
2 Un noswaith yr oedd Eli yn gorwedd yn ei le, ac yr oedd ei lygaid wedi dechrau pylu ac yntau'n methu gweld.
3ונר אלהים טרם יכבה ושמואל שכב בהיכל יהוה אשר שם ארון אלהים׃
3 Nid oedd lamp Duw wedi diffodd eto, ac yr oedd Samuel yn cysgu yn nheml yr ARGLWYDD, lle'r oedd arch Duw.
4ויקרא יהוה אל שמואל ויאמר הנני׃
4 Yna galwodd yr ARGLWYDD ar Samuel. Dywedodd yntau, "Dyma fi." Rhedodd at Eli a dweud, "Dyma fi, roeddit yn galw arnaf."
5וירץ אל עלי ויאמר הנני כי קראת לי ויאמר לא קראתי שוב שכב וילך וישכב׃
5 Atebodd ef, "Nac oeddwn, dos yn �l i orwedd." Aeth yntau a gorwedd.
6ויסף יהוה קרא עוד שמואל ויקם שמואל וילך אל עלי ויאמר הנני כי קראת לי ויאמר לא קראתי בני שוב שכב׃
6 Yna galwodd yr ARGLWYDD eto, "Samuel!" Cododd Samuel a mynd at Eli a dweud, "Dyma fi, roeddit yn fy ngalw." Ond dywedodd ef, "Nac oeddwn, fy machgen, dos yn �l i orwedd."
7ושמואל טרם ידע את יהוה וטרם יגלה אליו דבר יהוה׃
7 Yr oedd hyn cyn i Samuel adnabod yr ARGLWYDD, a chyn bod gair yr ARGLWYDD wedi ei ddatguddio iddo.
8ויסף יהוה קרא שמואל בשלשית ויקם וילך אל עלי ויאמר הנני כי קראת לי ויבן עלי כי יהוה קרא לנער׃
8 Galwodd yr ARGLWYDD eto'r drydedd waith, "Samuel!" A phan gododd a mynd at Eli a dweud, "Dyma fi, roeddit yn galw arnaf," deallodd Eli mai'r ARGLWYDD oedd yn galw'r bachgen.
9ויאמר עלי לשמואל לך שכב והיה אם יקרא אליך ואמרת דבר יהוה כי שמע עבדך וילך שמואל וישכב במקומו׃
9 Felly dywedodd Eli wrth Samuel, "Dos i orwedd, ac os gelwir di eto, dywed tithau, 'Llefara, ARGLWYDD, canys y mae dy was yn gwrando'." Aeth Samuel a gorwedd yn ei le.
10ויבא יהוה ויתיצב ויקרא כפעם בפעם שמואל שמואל ויאמר שמואל דבר כי שמע עבדך׃
10 Yna daeth yr ARGLWYDD a sefyll a galw fel o'r blaen, "Samuel! Samuel!" A dywedodd Samuel, "Llefara, canys y mae dy was yn gwrando."
11ויאמר יהוה אל שמואל הנה אנכי עשה דבר בישראל אשר כל שמעו תצלינה שתי אזניו׃
11 Yna dywedodd yr ARGLWYDD wrth Samuel, "Yr wyf ar fin gwneud rhywbeth yn Israel a fydd yn merwino clustiau pwy bynnag a'i clyw.
12ביום ההוא אקים אל עלי את כל אשר דברתי אל ביתו החל וכלה׃
12 Y dydd hwnnw dygaf ar Eli y cwbl a ddywedais am ei du375?, o'r dechrau i'r diwedd;
13והגדתי לו כי שפט אני את ביתו עד עולם בעון אשר ידע כי מקללים להם בניו ולא כהה בם׃
13 a dywedaf wrtho fy mod yn barnu ei du375? am byth, oherwydd gwyddai fod ei feibion yn melltithio Duw, ac ni roddodd daw arnynt.
14ולכן נשבעתי לבית עלי אם יתכפר עון בית עלי בזבח ובמנחה עד עולם׃
14 Am hynny tyngais wrth du375? Eli, 'Ni wneir iawn byth am ddrygioni tu375? Eli ag aberth nac ag offrwm'."
15וישכב שמואל עד הבקר ויפתח את דלתות בית יהוה ושמואל ירא מהגיד את המראה אל עלי׃
15 Gorweddodd Samuel tan y bore, yna agorodd ddrysau tu375?'r ARGLWYDD; ond ofnai ddweud y weledigaeth wrth Eli.
16ויקרא עלי את שמואל ויאמר שמואל בני ויאמר הנני׃
16 Galwodd Eli ar Samuel, "Samuel, fy machgen." Atebodd yntau, "Dyma fi." Yna holodd, "Beth oedd y neges a lefarodd ef wrthyt?
17ויאמר מה הדבר אשר דבר אליך אל נא תכחד ממני כה יעשה לך אלהים וכה יוסיף אם תכחד ממני דבר מכל הדבר אשר דבר אליך׃
17 Paid �'i chelu oddi wrthyf. Fel hyn y gwnelo Duw iti, a rhagor, os cuddi oddi wrthyf unrhyw beth a lefarodd ef wrthyt."
18ויגד לו שמואל את כל הדברים ולא כחד ממנו ויאמר יהוה הוא הטוב בעינו יעשה׃
18 Yna mynegodd Samuel y cyfan wrtho, heb gelu dim. Ac meddai yntau, "Yr ARGLWYDD yw; fe wna'r hyn sydd dda yn ei olwg."
19ויגדל שמואל ויהוה היה עמו ולא הפיל מכל דבריו ארצה׃
19 Tyfodd Samuel, ac yr oedd yr ARGLWYDD gydag ef; ni adawodd i'r un o'i eiriau fethu.
20וידע כל ישראל מדן ועד באר שבע כי נאמן שמואל לנביא ליהוה׃
20 Sylweddolodd Israel gyfan, o Dan hyd Beerseba, fod Samuel wedi ei sefydlu'n broffwyd i'r ARGLWYDD.
21ויסף יהוה להראה בשלה כי נגלה יהוה אל שמואל בשלו בדבר יהוה׃
21 A pharhaodd yr ARGLWYDD i ymddangos yn Seilo, oherwydd yno y'i datguddiodd ei hun i Samuel trwy ei air.