Hebrew: Modern

Welsh

1 Samuel

4

1ויהי דבר שמואל לכל ישראל ויצא ישראל לקראת פלשתים למלחמה ויחנו על האבן העזר ופלשתים חנו באפק׃
1 Yr oedd gair Samuel yn air i Israel gyfan. Aeth Israel i ryfel yn erbyn y Philistiaid a gwersyllu ger Eben-eser, a'r Philistiaid yn gwersyllu yn Affec.
2ויערכו פלשתים לקראת ישראל ותטש המלחמה וינגף ישראל לפני פלשתים ויכו במערכה בשדה כארבעת אלפים איש׃
2 Wedi i'r Philistiaid drefnu eu byddin yn erbyn Israel, aeth yn frwydr, a threchwyd Israel gan y Philistiaid; lladdwyd tua phedair mil o'r fyddin ar faes y gad.
3ויבא העם אל המחנה ויאמרו זקני ישראל למה נגפנו יהוה היום לפני פלשתים נקחה אלינו משלה את ארון ברית יהוה ויבא בקרבנו וישענו מכף איבינו׃
3 Pan ddychwelodd y bobl i'r gwersyll, holodd henuriaid Israel, "Pam y trawodd yr ARGLWYDD ni heddiw o flaen y Philistiaid? Cymerwn atom o Seilo arch cyfamod yr ARGLWYDD, a doed i'n plith i'n hachub o law ein gelynion."
4וישלח העם שלה וישאו משם את ארון ברית יהוה צבאות ישב הכרבים ושם שני בני עלי עם ארון ברית האלהים חפני ופינחס׃
4 Anfonodd y bobl i Seilo a chymryd oddi yno arch cyfamod ARGLWYDD y Lluoedd sydd �'i orsedd ar y cerwbiaid. Yno hefyd, gydag arch cyfamod Duw, yr oedd dau fab Eli, Hoffni a Phinees.
5ויהי כבוא ארון ברית יהוה אל המחנה וירעו כל ישראל תרועה גדולה ותהם הארץ׃
5 Pan gyrhaeddodd arch cyfamod yr ARGLWYDD i'r gwersyll, gwaeddodd yr Israeliaid i gyd � bloedd uchel nes bod y ddaear yn datseinio.
6וישמעו פלשתים את קול התרועה ויאמרו מה קול התרועה הגדולה הזאת במחנה העברים וידעו כי ארון יהוה בא אל המחנה׃
6 Clywodd y Philistiaid y floedd a gofyn, "Beth yw'r floedd fawr hon a glywir yng ngwersyll yr Hebreaid?" Wedi iddynt ddeall mai arch cyfamod yr ARGLWYDD oedd wedi cyrraedd i'r gwersyll,
7ויראו הפלשתים כי אמרו בא אלהים אל המחנה ויאמרו אוי לנו כי לא היתה כזאת אתמול שלשם׃
7 ofnodd y Philistiaid, oherwydd dweud yr oeddent, "Daeth duw i'r gwersyll." Ac meddent, "Gwae ni! Oherwydd ni fu peth fel hyn erioed o'r blaen.
8אוי לנו מי יצילנו מיד האלהים האדירים האלה אלה הם האלהים המכים את מצרים בכל מכה במדבר׃
8 Gwae ni! Pwy a'n gwared ni o law'r duwiau nerthol hyn? Dyma'r duwiau a drawodd yr Eifftiaid � phob math o bla yn yr anialwch.
9התחזקו והיו לאנשים פלשתים פן תעבדו לעברים כאשר עבדו לכם והייתם לאנשים ונלחמתם׃
9 Byddwch yn gryf a gwrol, O Philistiaid, rhag i chwi fynd yn gaeth i'r Hebreaid fel y buont hwy i chwi; ie, byddwch yn wrol ac ymladd."
10וילחמו פלשתים וינגף ישראל וינסו איש לאהליו ותהי המכה גדולה מאד ויפל מישראל שלשים אלף רגלי׃
10 Ymladdodd y Philistiaid, a threchwyd Israel, a ffodd pawb adref. Bu lladdfa fawr iawn, a syrthiodd deng mil ar hugain o wu375?r traed Israel.
11וארון אלהים נלקח ושני בני עלי מתו חפני ופינחס׃
11 Hefyd cymerwyd arch Duw, a bu farw Hoffni a Phinees, dau fab Eli.
12וירץ איש בנימן מהמערכה ויבא שלה ביום ההוא ומדיו קרעים ואדמה על ראשו׃
12 Y diwrnod hwnnw rhedodd un o wu375?r Benjamin o'r frwydr a chyrraedd Seilo �'i ddillad wedi eu rhwygo a phridd ar ei ben.
13ויבוא והנה עלי ישב על הכסא יך דרך מצפה כי היה לבו חרד על ארון האלהים והאיש בא להגיד בעיר ותזעק כל העיר׃
13 Pan ddaeth, dyna lle'r oedd Eli yn eistedd ar sedd gerllaw'r ffordd yn disgwyl, am ei fod yn bryderus iawn am arch Duw. Pan ddaeth y dyn a chyhoeddi'r newydd yn y ddinas, bu llefain drwy'r ddinas.
14וישמע עלי את קול הצעקה ויאמר מה קול ההמון הזה והאיש מהר ויבא ויגד לעלי׃
14 A phan glywodd Eli su373?n y llefain, holodd, "Beth yw'r cynnwrf yma?" Yna brysiodd y dyn, a dod ac adrodd yr hanes wrth Eli.
15ועלי בן תשעים ושמנה שנה ועיניו קמה ולא יכול לראות׃
15 Yr oedd Eli'n naw deg ac wyth oed, a'i lygaid wedi pylu fel na fedrai weld.
16ויאמר האיש אל עלי אנכי הבא מן המערכה ואני מן המערכה נסתי היום ויאמר מה היה הדבר בני׃
16 A dywedodd y dyn wrth Eli, "Myfi sydd wedi dod o'r frwydr; heddiw y ffois o'r gad." Yna gofynnodd iddo, "Beth yw'r newydd, fy machgen?"
17ויען המבשר ויאמר נס ישראל לפני פלשתים וגם מגפה גדולה היתה בעם וגם שני בניך מתו חפני ופינחס וארון האלהים נלקחה׃
17 Atebodd y cennad, "Ffodd Israel o flaen y Philistiaid, a bu lladdfa fawr ymysg y bobl hefyd; y mae dy ddau fab, Hoffni a Phinees wedi marw, ac arch Duw wedi ei chymryd."
18ויהי כהזכירו את ארון האלהים ויפל מעל הכסא אחרנית בעד יד השער ותשבר מפרקתו וימת כי זקן האיש וכבד והוא שפט את ישראל ארבעים שנה׃
18 Pan soniodd am arch Duw, syrthiodd Eli yn wysg ei gefn oddi ar y sedd gerllaw'r porth, a thorri ei wddf a marw, oherwydd yr oedd yn hen ac yn ddyn trwm. Yr oedd wedi barnu Israel am ddeugain mlynedd.
19וכלתו אשת פינחס הרה ללת ותשמע את השמעה אל הלקח ארון האלהים ומת חמיה ואישה ותכרע ותלד כי נהפכו עליה צריה׃
19 Yr oedd ei ferch-yng-nghyfraith, gwraig Phinees, yn feichiog ac yn agos i esgor. Pan glywodd hi'r newydd fod arch Duw wedi ei chymryd a bod ei thad-yng-nghyfraith a'i gu373?r wedi marw, crymodd ac esgorodd, oherwydd daeth ei gwewyr arni.
20וכעת מותה ותדברנה הנצבות עליה אל תיראי כי בן ילדת ולא ענתה ולא שתה לבה׃
20 Ac fel yr oedd hi'n marw, dywedodd y merched oedd o'i chwmpas, "Paid ag ofni, rwyt ti wedi esgor ar fab." Nid atebodd hi na chymryd sylw,
21ותקרא לנער אי כבוד לאמר גלה כבוד מישראל אל הלקח ארון האלהים ואל חמיה ואישה׃
21 ond enwi'r bachgen, Ichabod, a dweud, "Ciliodd gogoniant o Israel," oherwydd colli arch Duw a'i thad-yng-nghyfraith a'i gu373?r.
22ותאמר גלה כבוד מישראל כי נלקח ארון האלהים׃
22 Dyna a ddywedodd, "Ciliodd gogoniant o Israel, oherwydd cymryd arch Duw."