1ויסף אף יהוה לחרות בישראל ויסת את דוד בהם לאמר לך מנה את ישראל ואת יהודה׃
1 Unwaith eto enynnodd dicter yr ARGLWYDD yn erbyn yr Israeliaid, ac anogodd Ddafydd yn eu herbyn trwy ddweud, "Dos, cyfrifa'r Israeliaid a'r Jwdeaid."
2ויאמר המלך אל יואב שר החיל אשר אתו שוט נא בכל שבטי ישראל מדן ועד באר שבע ופקדו את העם וידעתי את מספר העם׃
2 Felly fe ddywedodd y brenin wrth Joab, a swyddogion y fyddin oedd gydag ef, "Dos drwy holl lwythau Israel o Dan i Beerseba a chyfrifa'r bobl, er mwyn imi wybod eu nifer."
3ויאמר יואב אל המלך ויוסף יהוה אלהיך אל העם כהם וכהם מאה פעמים ועיני אדני המלך ראות ואדני המלך למה חפץ בדבר הזה׃
3 Dywedodd Joab wrth y brenin, "Bydded i'r ARGLWYDD dy Dduw luosogi'r bobl ganwaith yr hyn ydynt, ac i tithau, f'arglwydd frenin, ei weld �'th lygaid dy hun; ond pam y mae f'arglwydd frenin �'i fryd ar wneud hyn?"
4ויחזק דבר המלך אל יואב ועל שרי החיל ויצא יואב ושרי החיל לפני המלך לפקד את העם את ישראל׃
4 Ond yr oedd gair y brenin yn drech na Joab a swyddogion y fyddin; felly fe aeth Joab a swyddogion y fyddin allan yn �l gorchymyn y brenin i gyfrif pobl Israel.
5ויעברו את הירדן ויחנו בערוער ימין העיר אשר בתוך הנחל הגד ואל יעזר׃
5 Wedi croesi'r Iorddonen, dechreusant yn Aroer, i'r de o'r ddinas sydd yng nghanol y dyffryn, yna aethant i Gad, ac ymlaen i Jaser.
6ויבאו הגלעדה ואל ארץ תחתים חדשי ויבאו דנה יען וסביב אל צידון׃
6 Yna daethant i Gilead a gwlad yr Hethiaid, cyn belled � Cades; ac i Dan a Jaan, a chwmpasu at Sidon.
7ויבאו מבצר צר וכל ערי החוי והכנעני ויצאו אל נגב יהודה באר שבע׃
7 Daethant wedyn at ddinas gaerog Tyrus, a holl drefi'r Hefiaid a'r Canaaneaid, a gorffen yn Negef Jwda, yn Beerseba.
8וישטו בכל הארץ ויבאו מקצה תשעה חדשים ועשרים יום ירושלם׃
8 Wedi iddynt deithio drwy'r wlad gyfan, daethant yn �l i Jerwsalem ymhen naw mis ac ugain diwrnod.
9ויתן יואב את מספר מפקד העם אל המלך ותהי ישראל שמנה מאות אלף איש חיל שלף חרב ואיש יהודה חמש מאות אלף איש׃
9 Rhoddodd Joab swm cyfrifiad y bobl i'r brenin: yr oedd yn Israel wyth gan mil o wu375?r abl i drin cleddyf, ac yr oedd milwyr Jwda yn bum can mil.
10ויך לב דוד אתו אחרי כן ספר את העם ויאמר דוד אל יהוה חטאתי מאד אשר עשיתי ועתה יהוה העבר נא את עון עבדך כי נסכלתי מאד׃
10 Wedi iddo gyfrif y bobl, pigodd cydwybod Dafydd ef; a dywedodd wrth yr ARGLWYDD, "Pechais yn fawr trwy wneud hyn; am hynny, O ARGLWYDD, maddau i'th was, oherwydd b�m yn ff�l iawn."
11ויקם דוד בבקר ודבר יהוה היה אל גד הנביא חזה דוד לאמר׃
11 Wedi i Ddafydd godi fore trannoeth, daeth gair yr ARGLWYDD at y proffwyd Gad, gweledydd Dafydd, gan ddweud,
12הלוך ודברת אל דוד כה אמר יהוה שלש אנכי נוטל עליך בחר לך אחת מהם ואעשה לך׃
12 "Dos a dywed wrth Ddafydd, 'Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: Yr wyf yn cynnig tri pheth iti; dewis di un ohonynt, ac fe'i gwnaf iti'."
13ויבא גד אל דוד ויגד לו ויאמר לו התבוא לך שבע שנים רעב בארצך אם שלשה חדשים נסך לפני צריך והוא רדפך ואם היות שלשת ימים דבר בארצך עתה דע וראה מה אשיב שלחי דבר׃
13 Daeth Gad at Ddafydd a'i hysbysu a dweud wrtho, "A fynni di dair blynedd o newyn yn dy wlad, ynteu tri mis o ffoi o flaen dy wrthwynebwyr tra byddant yn dy erlid, ynteu tridiau o haint yn dy wlad? Ystyria ac edrych pa ateb a roddaf i'r un a'm hanfonodd."
14ויאמר דוד אל גד צר לי מאד נפלה נא ביד יהוה כי רבים רחמו וביד אדם אל אפלה׃
14 Dywedodd Dafydd wrth Gad, "Y mae'n gyfyng iawn arnaf, ond bydded inni syrthio i law'r ARGLWYDD, am fod ei drugareddau'n aml, yn hytrach nag imi syrthio i ddwylo pobl."
15ויתן יהוה דבר בישראל מהבקר ועד עת מועד וימת מן העם מדן ועד באר שבע שבעים אלף איש׃
15 Felly dewisodd Dafydd yr haint. Yr oedd yn dymor y cynhaeaf gwenith, ac anfonodd yr ARGLWYDD haint ar Israel o'r bore hyd derfyn y cyfnod penodedig. Bu farw deng mil a thrigain o'r bobl o Dan i Beerseba.
16וישלח ידו המלאך ירושלם לשחתה וינחם יהוה אל הרעה ויאמר למלאך המשחית בעם רב עתה הרף ידך ומלאך יהוה היה עם גרן האורנה היבסי׃
16 Ond pan estynnodd yr angel ei law yn erbyn Jerwsalem i'w dinistrio, edifarhaodd yr ARGLWYDD am y niwed, a dywedodd wrth yr angel oedd yn distrywio'r bobl, "Digon bellach! Atal dy law." Yr oedd angel yr ARGLWYDD yn ymyl llawr dyrnu Arafna y Jebusiad.
17ויאמר דוד אל יהוה בראתו את המלאך המכה בעם ויאמר הנה אנכי חטאתי ואנכי העויתי ואלה הצאן מה עשו תהי נא ידך בי ובבית אבי׃
17 Pan welodd Dafydd yr angel yn taro'r bobl, dywedodd wrth yr ARGLWYDD, "Myfi sydd wedi pechu, a myfi sydd wedi gwneud drwg; ond am y defaid hyn, beth a wnaethant hwy? Bydded dy law yn f'erbyn i a'm teulu."
18ויבא גד אל דוד ביום ההוא ויאמר לו עלה הקם ליהוה מזבח בגרן ארניה היבסי׃
18 Daeth Gad at Ddafydd y diwrnod hwnnw a dweud wrtho, "Dos, a chyfod allor i'r ARGLWYDD ar lawr dyrnu Arafna y Jebusiad."
19ויעל דוד כדבר גד כאשר צוה יהוה׃
19 Felly, ar air Gad, fe aeth Dafydd fel y gorchmynnodd yr ARGLWYDD.
20וישקף ארונה וירא את המלך ואת עבדיו עברים עליו ויצא ארונה וישתחו למלך אפיו ארצה׃
20 Pan edrychodd Arafna a gweld y brenin a'i weision yn dod tuag ato, aeth allan a moesymgrymu i'r brenin �'i wyneb i'r llawr.
21ויאמר ארונה מדוע בא אדני המלך אל עבדו ויאמר דוד לקנות מעמך את הגרן לבנות מזבח ליהוה ותעצר המגפה מעל העם׃
21 Ac meddai Arafna, "Pam y daeth f'arglwydd frenin at ei was?" Atebodd Dafydd, "I brynu gennyt y llawr dyrnu, i godi allor i'r ARGLWYDD er mwyn atal y pla sydd ar y bobl."
22ויאמר ארונה אל דוד יקח ויעל אדני המלך הטוב בעינו ראה הבקר לעלה והמרגים וכלי הבקר לעצים׃
22 Yna dywedodd Arafna wrth Ddafydd, "Cymered f'arglwydd frenin ef ac offrymu'r hyn a fyn; edrych, dyma'r ychen ar gyfer y poethoffrwm, a'r sled ddyrnu ac iau'r ychen yn danwydd."
23הכל נתן ארונה המלך למלך ויאמר ארונה אל המלך יהוה אלהיך ירצך׃
23 Rhoddodd Arafna'r cwbl i'r brenin, a dweud wrtho, "Bydded yr ARGLWYDD dy Dduw yn fodlon arnat."
24ויאמר המלך אל ארונה לא כי קנו אקנה מאותך במחיר ולא אעלה ליהוה אלהי עלות חנם ויקן דוד את הגרן ואת הבקר בכסף שקלים חמשים׃
24 Ond dywedodd y brenin wrth Arafna, "Na, rhaid imi ei brynu gennyt am bris. Nid wyf am aberthu i'r ARGLWYDD fy Nuw boethoffrwm di-gost." Felly prynodd Dafydd y llawr dyrnu a'r ychen am hanner can sicl o arian;
25ויבן שם דוד מזבח ליהוה ויעל עלות ושלמים ויעתר יהוה לארץ ותעצר המגפה מעל ישראל׃
25 a chododd yno allor i'r ARGLWYDD, ac aberthu poethoffrymau a heddoffrymau. Der-byniodd yr ARGLWYDD ymbil ar ran y wlad, ac ataliwyd y pla oddi ar Israel.