1כי ימצא חלל באדמה אשר יהוה אלהיך נתן לך לרשתה נפל בשדה לא נודע מי הכהו׃
1 Os deuir o hyd i rywun wedi ei ladd yn y tir y mae'r ARGLWYDD dy Dduw yn ei roi iti i'w feddiannu, a'i gorff yn gorwedd mewn tir agored, heb neb yn gwybod pwy a'i lladdodd,
2ויצאו זקניך ושפטיך ומדדו אל הערים אשר סביבת החלל׃
2 y mae dy henuriaid a'th farnwyr i fynd allan a mesur y pellter at bob tref o gylch y corff.
3והיה העיר הקרבה אל החלל ולקחו זקני העיר ההוא עגלת בקר אשר לא עבד בה אשר לא משכה בעל׃
3 Yna y mae henuriaid y dref agosaf at y corff i gymryd heffer na fu'n gweithio erioed ac na fu dan yr iau,
4והורדו זקני העיר ההוא את העגלה אל נחל איתן אשר לא יעבד בו ולא יזרע וערפו שם את העגלה בנחל׃
4 a mynd � hi i lawr i ddyffryn heb ei drin na'i hau, ond lle mae nant yn rhedeg. Yno yn y dyffryn torrant wegil yr heffer.
5ונגשו הכהנים בני לוי כי בם בחר יהוה אלהיך לשרתו ולברך בשם יהוה ועל פיהם יהיה כל ריב וכל נגע׃
5 Yna daw'r offeiriaid, meibion Lefi, ymlaen, gan mai hwy y mae'r ARGLWYDD dy Dduw wedi eu dewis i'w wasanaethu ac i fendithio yn ei enw, ac yn �l eu dedfryd hwy y terfynir pob ymryson ac ysgarmes.
6וכל זקני העיר ההוא הקרבים אל החלל ירחצו את ידיהם על העגלה הערופה בנחל׃
6 A bydd holl henuriaid y dref agosaf at y corff yn golchi eu dwylo uwchben yr heffer y torrwyd ei gwegil yn y dyffryn,
7וענו ואמרו ידינו לא שפכה את הדם הזה ועינינו לא ראו׃
7 a thystio, "Nid ein dwylo ni a dywalltodd y gwaed hwn, ac ni welodd ein llygaid mo'r weithred.
8כפר לעמך ישראל אשר פדית יהוה ואל תתן דם נקי בקרב עמך ישראל ונכפר להם הדם׃
8 Derbyn gymod dros dy bobl Israel, y rhai a waredaist, O ARGLWYDD; paid � gosod arnynt hwy gyfrifoldeb am waed y dieuog." Felly, gwneir cymod am y gwaed.
9ואתה תבער הדם הנקי מקרבך כי תעשה הישר בעיני יהוה׃
9 Byddi'n dileu'r cyfrifoldeb am waed dieuog o'ch mysg wrth iti wneud yr hyn sy'n iawn yng ngolwg yr ARGLWYDD.
10כי תצא למלחמה על איביך ונתנו יהוה אלהיך בידך ושבית שביו׃
10 Pan fyddi'n mynd allan i ryfel yn erbyn d'elynion, a'r ARGLWYDD dy Dduw yn eu rhoi yn dy law, a thithau'n cymryd carcharorion,
11וראית בשביה אשת יפת תאר וחשקת בה ולקחת לך לאשה׃
11 ac yn gweld yn eu mysg ddynes brydferth wrth dy fodd, cei ei phriodi.
12והבאתה אל תוך ביתך וגלחה את ראשה ועשתה את צפרניה׃
12 Tyrd � hi adref, a gwna iddi eillio'i phen, naddu ei hewinedd,
13והסירה את שמלת שביה מעליה וישבה בביתך ובכתה את אביה ואת אמה ירח ימים ואחר כן תבוא אליה ובעלתה והיתה לך לאשה׃
13 a rhoi heibio'r wisg oedd amdani pan ddaliwyd hi; yna caiff fyw yn dy du375? a bwrw ei galar am ei thad a'i mam am fis o amser. Wedi hynny cei gyfathrach � hi, a bod yn u373?r iddi hi, a hithau'n wraig i ti.
14והיה אם לא חפצת בה ושלחתה לנפשה ומכר לא תמכרנה בכסף לא תתעמר בה תחת אשר עניתה׃
14 Ond os na fyddi'n fodlon arni, yr wyt i'w gollwng yn rhydd; nid wyt ar unrhyw gyfrif i'w gwerthu am arian na'i thrin fel caethferch, gan iti ei threisio.
15כי תהיין לאיש שתי נשים האחת אהובה והאחת שנואה וילדו לו בנים האהובה והשנואה והיה הבן הבכור לשניאה׃
15 Os bydd gan u373?r ddwy wraig, y naill yn annwyl a'r llall yn atgas ganddo, a'r ddwy wedi geni meibion iddo, a'r cyntafanedig yn fab i'r un atgas,
16והיה ביום הנחילו את בניו את אשר יהיה לו לא יוכל לבכר את בן האהובה על פני בן השנואה הבכר׃
16 yna pan fydd yn rhannu ei stad rhwng ei feibion, ni chaiff roi'r flaenoriaeth i fab y wraig annwyl, ar draul y cyntafanedig sy'n fab i'r un atgas.
17כי את הבכר בן השנואה יכיר לתת לו פי שנים בכל אשר ימצא לו כי הוא ראשית אנו לו משפט הבכרה׃
17 Y mae i gydnabod y cyntafanedig sy'n fab i'r un atgas trwy roi iddo ran ddwbl o'r cwbl sydd ganddo, gan mai ef yw blaenffrwyth ynni ei dad, ac ef biau hawl y cyntafanedig.
18כי יהיה לאיש בן סורר ומורה איננו שמע בקול אביו ובקול אמו ויסרו אתו ולא ישמע אליהם׃
18 Os bydd gan rywun fab gwrthnysig ac anufudd, na fyn wrando ar ei dad na'i fam, hyd yn oed pan fyddant yn ei geryddu,
19ותפשו בו אביו ואמו והוציאו אתו אל זקני עירו ואל שער מקמו׃
19 y mae ei dad a'i fam i afael ynddo a'i ddwyn gerbron yr henuriaid ym mhorth ei dref,
20ואמרו אל זקני עירו בננו זה סורר ומרה איננו שמע בקלנו זולל וסבא׃
20 a dweud wrthynt, "Y mae'r mab hwn yn wrthnysig ac anufudd; ni fyn wrando arnom, ac y mae'n un glwth ac yn feddwyn."
21ורגמהו כל אנשי עירו באבנים ומת ובערת הרע מקרבך וכל ישראל ישמעו ויראו׃
21 Yna bydd holl drigolion ei dref yn ei labyddio'n gelain � cherrig. Felly byddi'n dileu'r drwg o'ch plith, a bydd Israel gyfan yn clywed ac yn ofni.
22וכי יהיה באיש חטא משפט מות והומת ותלית אתו על עץ׃
22 Os bydd rhywun wedi ei gael yn euog o gamwedd sy'n dwyn cosb marwolaeth, ac wedi ei ddienyddio trwy ei grogi ar bren,
23לא תלין נבלתו על העץ כי קבור תקברנו ביום ההוא כי קללת אלהים תלוי ולא תטמא את אדמתך אשר יהוה אלהיך נתן לך נחלה׃
23 nid yw ei gorff i aros dros nos ar y pren; rhaid iti ei gladdu'r un diwrnod, oherwydd y mae un a grogwyd ar bren dan felltith Duw. Nid wyt i halogi'r tir y mae'r ARGLWYDD dy Dduw yn ei roi iti'n etifeddiaeth.